Beth yw rôl y gweithlu addysg o ran cyrraedd targedau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru?

Cyhoeddwyd 20/05/2022   |   Amser darllen munud

Mae’r system addysg yn ganolog i darged Llywodraeth Cymru o ddyblu cyfran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd (o 10 y cant i 20 y cant) a gwireddu ei huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er bod trosglwyddo iaith yn flaenoriaeth, dywed Cymraeg 2050:

…mae pen draw i’r nifer ychwanegol o siaradwyr Cymraeg y gellir eu creu o drosglwyddo’r iaith o un genhedlaeth i’r nesaf. Dyna pam bod addysg yn elfen mor bwysig o’r strategaeth hon.

Fodd bynnag, bydd cyflwyno a meithrin y Gymraeg ar y raddfa y mae Cymraeg 2050 yn anelu ati ymhlith dinasyddion sy’n dod i gysylltiad â’r iaith yn bennaf drwy eu haddysg yn her. Mae'n gofyn am i gapasiti cyfrwng Cymraeg y gweithlu addysg gael ei ehangu’n sylweddol, ac mae data cyfredol yn awgrymu bod llawer i'w wneud. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun 10 mlynedd i gynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg.

Mae’r erthygl hon yn darparu gwybodaeth gefndir cyn datganiad gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (24 Mai). Mae’n dilyn erthyglau blaenorol a ysgrifennwyd ym mis Mai, mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2021.

Beth yw targedau Cymraeg 2050 ar gyfer y gweithlu?

Mae Strategaeth Cymraeg 2050 (2017) yn gosod targedau ar gyfer y system addysg, gan gynnwys:

  • Cynyddu nifer yr athrawon cynradd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 2,900 yn 2015/16 i 3,900 erbyn 2031 ac i 5,200 erbyn 2050.
  • Cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu addysgu Cymraeg o 500 yn 2015/16 i 900 erbyn 2031 ac i 1,200 erbyn 2050; a
  • Chynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 yn 2015/16 i 3,200 erbyn 2031 ac i 4,200 erbyn 2050.

Mewn nodyn briffio gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2020, awgrymwyd bod yr her o sicrhau niferoedd digonol o athrawon cyfrwng Cymraeg yn “un anferthol”. Rhybuddiodd fod “perygl gwirioneddol y bydd diffyg athrawon cyfrwng Cymraeg yn tanseilio” agenda strategaeth Cymraeg 2050. Galwodd y diweddar Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, am “ymyrraeth sylweddol a newid meddylfryd llwyr”.

Er mwyn cyrraedd y targedau hyn, bydd angen strategaeth gweithlu addysg hirdymor gydag adnoddau digonol i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg. Y syniad yw y byddai strategaeth o'r fath yn cyd-fynd â datblygiad y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Y cynlluniau statudol 10 mlynedd hyn yw’r glasbrint y bydd awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio i ddatblygu a chynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn lleol. Bydd y Cynlluniau Strategol hyn yn destun ymchwiliad Pwyllgor yn y Senedd, sy'n dilyn ymchwiliad undydd a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021.

Mae sicrhau bod gan y gweithlu cyfrwng Cymraeg ddigon o gapasiti hefyd yn hanfodol i addysgu a dysgu Cymraeg o dan y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mynegodd rhai rhanddeiliaid bryderon am y mater hwn yn ystod gwaith craffu deddfwriaethol yn y Senedd ddiweddaf.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yn hyn

Ers gosod targedau Cymraeg 2050 yn 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio nodi sgiliau a gallu Cymraeg y gweithlu presennol, er mwyn llywio’r gwaith o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy ei chynllun gweithredu ar gyfer Cymraeg mewn addysg (2017-2021), mae wedi anelu at godi disgwyliadau ar y gweithlu, gan ddarparu cyfleoedd iddynt wella eu sgiliau Cymraeg.

Mae’r Gweinidog wedi datgan rhaglen Llywodraeth Cymru i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf:

  • Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd Cymraeg 2050: rhaglen waith 2021 i 2026. Cydnabu’r Gweinidog yr heriau o gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg erbyn 2021, sef targedau a fethwyd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun 10 mlynedd i wella sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg.
  • Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022, nododd y Gweinidog y camau nesaf, gan gynnwys gwersi Cymraeg am ddim i athrawon a chynorthwywyr addysgu. Hefyd, cyhoeddwyd Strategaeth y Gymraeg: adroddiad blynyddol 2020 i 2021.
  • Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd Cymraeg 2050: cynllun gweithredu strategaeth y Gymraeg 2022 i 2023. Dywedodd y Gweinidog y byddai’r cynllun 10 mlynedd yn mynd i’r afael â’r angen i gynyddu nifer yr athrawon a staff cymorth cyfrwng Cymraeg. Byddai hefyd yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ac yn rhoi’r sgiliau i arweinwyr ysgolion i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion.
  • Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor sy’n craffu ar bolisi iaith Gymraeg fod ei gyllideb yn cynnwys £1.8 miliwn i weithredu’r cynllun 10 mlynedd sydd i ddod, gan godi i £2.3 miliwn yn 2023-24 a £4.3 miliwn yn 2024-25. Cytunodd i gyhoeddi asesiad o gapasiti presennol y gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg ac anghenion capasiti’r dyfodol, fel rhan o’r cynllun.
  • Ym mis Ionawr, dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith ar gyfer y Gymraeg a fydd yn cefnogi athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Bydd yn ymgynghori ar y fframwaith drafft, yn ogystal â dysgu proffesiynol a’r deunyddiau ategol sydd eu hangen ochr yn ochr â hynny, yn ystod gwanwyn 2022.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hefyd yn rhoi cymhellion ariannol i ddarpar athrawon cyfrwng Cymraeg, yn gosod targedau yn addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon, ac yn gweithredu Cynllun Sabothol Cymraeg. Mae hefyd yn darparu arian i’r consortia rhanbarthol i gryfhau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae’n annog mwy o bobl ifanc i astudio Cymraeg Safon Uwch, gan gynyddu’r gronfa bosibl o athrawon cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Cynnydd yn erbyn targedau Cymraeg 2050

Yn yr Adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran strategaeth Cymraeg 2050, dywed Llywodraeth Cymru fod “sawl maes sy’n parhau’n anodd” wrth recriwtio staff i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Methwyd targedau i gynyddu niferoedd athrawon yn 2021 yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae’r data’n dangos nad yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau Cymraeg 2050:

  • Roedd 2,871 o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg yn 2020/21, o’i gymharu â’r targed o 3,100 – 7 y cant (229) yn brin o’r targed.
  • Roedd 2,395 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2020/21, o’i gymharu â’r targed o 2,800 – sef diffyg o 14 y cant (405).

Mae niferoedd rhagamcanol o athrawon newydd eu hyfforddi yn torri’r diffyg hwn i 3 y cant mewn ysgolion cynradd ac 11 y cant mewn ysgolion uwchradd, cyn cyfrif athrawon sy'n gadael y proffesiwn. Yn ôl nodyn briffio Comisiynydd y Gymraeg, bydd cyrraedd targedau Cymraeg 2050 yn golygu “gwyrdroi tueddiadau’r degawd diwethaf” a bod data ar athrawon newydd yn awgrymu gostyngiad yn hytrach na chynnydd yng nghyfanswm yr athrawon cyfrwng Cymraeg.

Fel y mae nodyn briffio'r Comisiynydd yn nodi, mae niferoedd athrawon wedi gostwng yn gyffredinol ers 2015, gyda gostyngiad cyfatebol yn y nifer sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, ers 2015, mae cyfran yr athrawon newydd gymhwyso (ANG) sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg wedi gostwng 27 y cant, o’i gymharu â’r gostyngiad cyffredinol o 8 y cant mewn ANG. Mae data hefyd yn awgrymu nad yw sgiliau Cymraeg cyfredol y gweithlu yn cael eu defnyddio’n ddigonol.

Yn Adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg: Sefyllfa’r Gymraeg 2016–20, rhybuddiodd y Comisiynydd:

Heb ymyrraeth sylweddol, mae perygl y gwelwn ni gylch diddiwedd lle bydd prinder gofalwyr, athrawon a darlithwyr cyfrwng Cymraeg yn rhwystr parhaus rhag sicrhau cynnydd yn nifer yr unigolion sy’n gadael yr ysgol yn medru siarad a defnyddio’r Gymraeg.

Yn ôl adroddiad y Comisiynydd, oni bai bod strategaeth genedlaethol i gynyddu’r gweithlu addysg yn cael ei sefydlu, “mae’n anochel na fydd modd i weddill strategaeth Cymraeg 2050 ddwyn ffrwyth”.


Erthygl gan Osian Bowyer and Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru