Cymru sy’n cael y mwyaf y pen o ran Cronfeydd Strwythurol o unrhyw un o'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, a bydd yn cael £2.1 biliwn mewn Cronfeydd Strwythurol rhwng 2014 a 2020. Felly, mae sicrhau buddsoddiad parhaus ar ôl i’r DU adael yr UE yn allweddol bwysig. Bydd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar gamau nesaf cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit ar 16 Hydref.
Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru?
Mae Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad rhanbarthol yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn y sefyllfa orau i arwain o ran llunio polisi rhanbarthol yn y dyfodol am bedwar rheswm sef, ei bod wedi darparu Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru am yr 20 mlynedd diwethaf; mae ganddi’r presenoldeb gofynnol ledled Cymru; mae ganddi bartneriaethau ar waith ledled Cymru â llywodraeth leol, y sector preifat a'r trydydd sector; ac mae'n gyfrifol am ysgogiadau polisi rhanbarthol eraill fel sgiliau a seilwaith.
Mae'n gwrthwynebu Cronfa Ffyniant Gyffredin Ganolog y Deyrnas Unedig, ac mae’n awgrymu y gallai dull a arweinir gan y DU olygu llai o arian i ardaloedd tlotaf Cymru ac ni fyddai'n parchu'r setliad datganoli o ystyried bod datblygu economaidd yn faes datganoledig.
Mewn perthynas â chyllid ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw Cymru geiniog yn dlotach wrth inni adael yr UE. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi dweud y byddai hwn wedyn yn cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru i’w wario ar ddatblygu economaidd rhanbarthol.
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi rhanbarthol yn cynnwys:
- Creu dull nodedig, yn seiliedig ar anghenion Cymru, sy'n adlewyrchu polisi a deddfwriaeth Cymru.
- Sicrhau bod arian yn parhau i gael ei wario ar yr ardaloedd hynny sydd â’r angen mwyaf, er y bydd cynnydd cymedrol mewn hyblygrwydd daearyddol ar gyfer buddsoddi;
- Datblygu fframwaith cyffredinol sy'n seiliedig ar reolau i reoli'r defnydd o gyllid datblygu economaidd.
- Sefydlu model datblygu economaidd rhanbarthol sy’n seiliedig ar bobl a lleoedd. O fewn hwn, bydd rhanbarthau’n nodi blaenoriaethau ar gyfer eu hardaloedd, tra'u bod yn gweithio tuag at ganlyniadau strategol cenedlaethol; a
- Datganoli pŵer y tu hwnt i Fae Caerdydd, fel bod gan ardaloedd lleol a rhanbarthol fwy o gyfrifoldeb dros gynllunio a gwneud penderfyniadau.
Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw rhai elfennau o Gronfeydd Strwythurol fel ariannu aml-flwyddyn a gweithio mewn partneriaeth, mae hefyd yn bwriadu gwneud rhai pethau'n wahanol ar ôl Brexit. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi nodi meysydd lle mae'n gweld bod angen dull newydd:
- Integreiddio cronfeydd lluosog a dileu cyfyngiadau daearyddol artiffisial;
- Symleiddio trefniadau a safoni dulliau ar draws Llywodraeth Cymru fel dull rheoli grantiau cyffredin; a
- Datblygu dull monitro a gwerthuso cryfach.
Yn dilyn hynny, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y dull hwn, gan gyhoeddi adroddiad ymgysylltu ym mis Gorffennaf 2018 a oedd yn dadansoddi ymatebion gan randdeiliaid.
Beth mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?
Mae p'un a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu ei chynigion yn llawn ai peidio yn dibynnu ar i ba raddau y mae'n sicrhau'r cyfrifoldeb am reoli a gweinyddu Cronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig y DU yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid yw'n glir a fydd hyn yn digwydd.
Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ei Gronfa Cyd-Ffyniant, gyda rhagor o fanylion i ddilyn erbyn diwedd 2018. Bydd penderfyniadau ar weithredu a dyrannu’r gronfa hon yn cael eu gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad a byddant yn ddarostyngedig i'r adolygiad o wariant sydd i'w gynnal yn ystod gwanwyn 2019.
Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2018 rhoddodd James Brokenshire AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion, gan nodi:
- Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymunedau trwy godi cynhyrchiant, yn enwedig mewn rhannau o'r DU lle mae eu heconomïau ymhell ar ei hôl hi;
- Bydd ganddi drefniadau gweinyddol symlach gyda'r nod o dargedu cyllid yn effeithiol; a
- Bydd yn gweithredu ledled y DU. Dywed Llywodraeth y DU y bydd yn parchu'r setliadau datganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa'n gweithio i leoedd ledled y DU.
Mewn cyfweliad gan BBC Wales ar 30 Medi, gofynnwyd i’r Prif Weinidog, Y Gwir Anrhydeddus Theresa May AS am ddatganoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a lefel y cyllid y gallai Cymru ei disgwyl ar ôl Brexit.Dywedodd:
The point of the shared prosperity fund is that we will be looking at issues of disparities between the nations of the UK - disparities within nations and regions and deciding expenditure of money so that we are ensuring that money is being spent as effectively as possible to deliver for people...
I fully recognise the role that the Welsh Government has played and the role that the Welsh Government has played in decisions for Wales. But obviously as we look at the shared prosperity fund across the whole of the UK we want to ensure that we get the right structure and the right processes involved in that so that the money that is being spent is being spent as effectively as possible because it's about delivering for people on the ground.
Beth mae Pwyllgorau'r Cynulliad wedi'i ddweud am ddyfodol buddsoddi rhanbarthol?
Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar ddyfodol polisi rhanbarthol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru 15 o 17 argymhelliad y Pwyllgor, a derbyniodd y ddau arall mewn egwyddor. Y mis diwethaf, gwnaeth adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar newid ffrydiau ariannu'r UE nifer o argymhellion mewn perthynas â buddsoddi rhanbarthol trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Gwnaeth y ddau bwyllgor argymhellion tebyg yn y meysydd a ganlyn.
- bod Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau o leiaf yr un swm o arian i Gymru drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU â’r hyn y mae’n ei gael ar hyn o bryd drwy Gronfeydd Strwythurol, ynghyd â chwyddiant. Dylid ychwanegu hyn at Grant Bloc Llywodraeth Cymru;
- bod Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu a rheoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru;
Argymhellodd y Pwyllgor Cyllid hefyd:
- bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar symleiddio'r trefniadau gweinyddol ac yn defnyddio dulliau fel y rhai a gynigir ar gyfer sefydliadau partner dibynadwy, pe bai’n gallu datganoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU; a
-
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ganolbwyntio ar hyrwyddo cydraddoldeb, mynd i'r afael â thlodi a hawliau dynol os bydd yn gweinyddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru.
Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Archwilydd Cyffredinol Cymru, Rheoli effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr UE