- gynyddu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy fewnosod pynciau ychwanegol yn yr Atodlen y gall y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch;
- cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad drwy gynnwys eithriadau neu gyfyngiadau pellach yn yr Atodlen;
- neu egluro cymhwysedd y Cynulliad drwy addasu'r disgrifiadau sydd eisoes yn yr Atodlen.
Beth yw Gorchymyn Adran 109?
Cyhoeddwyd 11/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud
11 Tachwedd 2014
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Adran 109 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (" y Ddeddf") yn caniatáu i gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei newid trwy ddiwygio Atodlen 7 i'r Ddeddf.
Mae Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diffinio gallu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i wneud Deddfau Cynulliad, o fewn meysydd y mae Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau gweithredol. Mae Atodlen 7 yn categoreiddio'r meysydd cyfrifoldeb polisi presennol sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru mewn 20 o feysydd eang.
Gall Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed o dan Adran 109 o'r Ddeddf addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy ddiwygio Atodlen 7. Gallai'r gwelliannau hyn: