Beth yw ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’?

Cyhoeddwyd 30/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Gorffenaf 2014 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn sgîl y cynnydd cyflym yn y defnydd o’r cyffur mephedrôn (meow meow, m-cat) yn 2009, mae cyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn cael eu hystyried yn fygythiad cynyddol. Mae ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn derm cyffredinol ar gyfer amrywiaeth o sylweddau, gan gynnwys cyffuriau presgripsiwn megis tawelyddion, ond mae’n cyfeirio gan amlaf at ‘sylweddau seicoweithredol newydd’, sef cyffuriau a syntheseiddir i greu’r un effeithiau â chyffuriau anghyfreithlon neu effeithiau tebyg. Gan mai newyddbethau ydynt, a chan fod y cyfuniad o gemegion yn gallu bod ychydig yn wahanol i sylweddau gwaharddedig, nid yw sylweddau seicoweithredol newydd yn cael eu rheoli yn awtomatig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (yn y DU, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971). [caption id="attachment_1446" align="alignright" width="300"]Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Y ffactorau pennaf am y cynnydd yn y defnydd o’r sylweddau hyn, fe dybir, yw eu bod ar gael yn eang ar y rhyngrwyd ac ar y stryd fawr, a hynny yn rhwydd, a’r ffaith bod eu cost yn isel a’u purdeb yn dda o bosibl o’u cymharu â chyffuriau anghyfreithlon. Ni wyddys i ba raddau y mae’r disgrifiad ohonynt fel cyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn dylanwadu ar benderfyniad pobl i’w defnyddio, ond mae pryder mawr bod cred gyfeiliornus bod y cyffuriau hyn yn ddiogel am eu bod yn ‘gyfreithlon’. Gan amlaf, nid yw defnyddwyr yn gwybod beth sydd yn y cyffuriau y maent yn eu cymryd, ac mae’n anodd rhagweld eu cryfder a’u sgîl-effeithiau. Ychydig bach o ymchwil a wnaed i effeithiau’r cyffuriau hyn ar bobl, yn enwedig yr effeithiau hirdymor. Darganfuwyd bod rhai o’r cyffuriau a werthir fel cyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn cynnwys sylweddau anghyfreithlon. Nid oes dealltwriaeth lwyr o ran maint y broblem. Y dybiaeth yw bod y sylweddau hyn yn cael eu defnyddio’n eang a bod y defnydd hwnnw ar gynnydd, ond mae prinder data swyddogol yn golygu na ellir rhoi darlun cywir. Mae’n bosibl y cofnodir rhy ychydig am y niwed y mae’r cyffuriau hyn yn ei achosi - gan nad oes cysondeb o ran cynhwysion er enghraifft, fe ddichon na fydd defnyddwyr na gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod pa sylwedd sydd wedi achosi adwaith andwyol. Ym mis Hydref 2013, lansiwyd Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS). Mae’r brosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn ymateb i’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n dod i adrannau achosion brys yn sôn am effeithiau annisgwyl neu ddrwg effeithiau yn sgîl defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd. Nod y prosiect yw darparu mecanwaith gadarn ar gyfer casglu, profi a phroffilio sylweddau seicoweithredol newydd neu gyfuniadau o sylweddau. Yn 2010, dynodwyd mephedrôn yn gyffur dosbarth B o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Ers hynny, diwygiwyd y Ddeddf fel bod modd rhoi sylwedd seicoweithredol newydd o dan reolaeth dros dro lle mae pryder sylweddol y gall achosi niwed. Ym mis Tachwedd 2013, 11 o sylweddau ag enw oedd o dan orchmynion cyffuriau dosbarth dros dro ers cyflwyno’r gorchmynion hyn ym mis Tachwedd 2011. Mae deddfwriaeth yn un arf i fynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd, ond mae strategaethau camddefnyddio sylweddau yn pwysleisio’r angen am ddull cydlynol trwy bartneriaeth, yn cynnwys yr holl asiantaethau perthnasol a gwasanaethau cyhoeddus. Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad i edrych ar sut y gellir cryfhau ymateb y DU i’r mater. Hefyd, cyhoeddodd ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar gymryd camau yn erbyn siopau sy’n gwerthu’r sylweddau hyn. Yng Nghymru, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd. Yn ogystal ag ystyried y dulliau posibl o ran deddfwriaeth ar lefel y DU a Chymru, bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar faterion megis codi ymwybyddiaeth, capasiti gwasanaethau lleol, a chasglu data ac adrodd arno. Mae’r Pwyllgor yn casglu tystiolaeth, ac fel rhan o hynny, fe lansiodd arolwg sy’n holi pobl am eu hymwybyddiaeth o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon a’r niwed sy’n gysylltiedig â’r defnydd ohonynt. Bydd yr arolwg, ac ymgynghoriad ffurfiol, yn rhedeg dros yr haf, a bwriedir cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref.