Beth sydd yn Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23?

Cyhoeddwyd 10/03/2023   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23 ym mis Rhagfyr 2021, cyn iddi wybod rhai o'r heriau y byddai'n eu hwynebu eleni. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogi pobl o Wcráin sy'n ceisio lloches, chwyddiant mewn ffigurau dwbl, a chostau byw cynyddol.

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei hadnoddau i ymateb i’r heriau hyn? Ar 14 Chwefror 2023, cyhoeddodd ei Hail Gyllideb Atodol ar gyfer 2022-23, gan nodi’r newidiadau a wnaed ers y Gyllideb Atodol Gyntaf ym mis Mehefin 2022. Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r cyllid a'r dyraniadau yn yr hyn sy'n debygol o fod yn gyllideb olaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Cyllideb olaf 2022-23?

Yn ei chyllidebau atodol, mae Llywodraeth Cymru yn nodi newidiadau sy’n cael eu gwneud i’w dyraniadau yn ystod y flwyddyn. Gwneir hyn ar ôl i’r fersiynau drafft a therfynol o’r gyllideb gael eu cyhoeddi cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.

Nododd Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 y newidiadau a wnaed i'r Gyllideb Derfynol (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022). Gwnaethom grynhoi’r dyraniadau allweddol, yn ogystal â’r cyllid oedd ar gael a faint oedd yn ar ôl gan Lywodraeth Cymru i’w wario, yn ein herthygl ’Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23'. Cymeradwyodd y Senedd y Gyllideb Atodol Gyntaf ar 12 Gorffennaf 2022.

Wyth mis yn ddiweddarach, ganol mis Chwefror, dyma Lywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Hail Gyllideb Atodol 2022-23, ychydig dros chwe wythnos cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae’n debyg mai dyma gyfle olaf Llywodraeth Cymru i wneud unrhyw newidiadau i’w dyraniadau cyllidebol ar gyfer 2022-23.

Gostyngiad gwerth dros £900 miliwn yng nghyllideb Cymru, ond y rhan fwyaf yn ymwneud â dyraniadau nad ydynt yn arian parod

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi‘r addasiadau – cynnydd a gostyngiadau – i’w dyraniadau gan Lywodraeth y DU. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i'r cyllid sydd ar gael, ond maent hefyd yn cynnwys addasiadau i'r dyraniadau nad ydynt yn arian parod (a elwir 'anghyllidol').

Yn gyffredinol, mae dyraniadau nad ydynt yn arian parod yn ymwneud â materion technegol, megis gostyngiad yng ngwerth asedau Llywodraeth Cymru. Mae’r asedau hyn yn cynnwys Benthyciadau Myfyrwyr, ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod gostyngiad o £580.2 miliwn yn ei chyllideb ar gyfer y rhain. Yn ychwanegol at hyn, mae addasiad i gyllideb Cymru ar gyfer rhaglenni Benthyciadau Myfyrwyr sy'n cael eu harwain gan alw (a elwir 'Gwariant a Reolir yn Flynyddol' neu gyllidebau 'AME'). Mae’r gyllideb hon yn gostwng £496.5 miliwn, gan adlewyrchu rhagolygon Llywodraeth Cymru i Drysorlys EM ym mis Ionawr 2023.

Mae'r gostyngiadau hyn yn cael eu gwrthbwyso'n rhannol gan y cynyddu mewn incwm o drethi datganoledig, gyda £14.2 miliwn ychwanegol yn cael ei ddisgwyl o’r Dreth Trafodiadau Tir ac £8.3 miliwn o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw newidiadau i’w chynlluniau benthyca, sy'n aros ar £150 miliwn ar gyfer 2022-23.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tynnu i lawr £141 filiwn ychwanegol, yn cynnwys £91 filiwn ar gyfer refeniw a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf, o Gronfa Wrth Gefn Cymru; y cyllid y mae’n cael ei gario ymlaen o un flwyddyn ariannol i’r llall, yn amodol ar derfynau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae hefyd yn trosglwyddo symiau i'w chronfeydd wrth gefn nas dyrannwyd ac ohonynt, gan ddarparu £223.7 miliwn net o'i chronfeydd wrth gefn i'w hadrannau a chyrff eraill a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru.

O ganlyniad i’r newidiadau i’w chyllid a phenderfyniadau ariannu Llywodraeth Cymru, mae Cyllideb Cymru yn gostwng £934.1 miliwn, o gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf.

Mae cronfeydd wrth gefn nas dyrannwyd Llywodraeth Cymru’n gostwng i £421.5 miliwn o bron £1 biliwn ar ôl y Gyllideb Atodol Gyntaf. O fewn hyn, dim ond £1.5 miliwn sydd ar gael ar gyfer ei gwariant bob dydd.

Hanner yr adrannau yn Llywodraeth Cymru yn gweld gostyngiad yn eu cyllid

Mae’r newidiadau i’r swm a ddyrennir i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer meysydd gwariant dewisol yn rhai ffiniol yn unig. Yn gyffredinol, mae hyn yn cynyddu £221 filiwn neu 1 y cant, o gymharu â Chyllideb Atodol Gyntaf 2022-23. Mae'n werth nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ffigurau yn ymwneud â'r Gyllideb Atodol Gyntaf i adlewyrchu newidiadau yng nghyfrifoldebau Gweinidogion.

Mae pedair o’r wyth adran yn Llywodraeth Cymru yn gweld cynnydd yn eu dyraniadau: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â’r cynnydd mwyaf mewn termau absoliwt a thermau canrannol (£325 miliwn neu 3.2 y cant o gymharu â’r Gyllideb Atodol Gyntaf). Y Gymraeg ac Addysg sydd â’r gostyngiad mwyaf (gostyngiad o £218 miliwn neu 8.5 y cant, o gymharu â’r Gyllideb Atodol Gyntaf).

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £19312m (cynnydd o £260m neu 1.4%). DEL Cyfalaf: £2947m (gostyngiad o £39m neu -1.3%). Cyfanswm DEL: £22258m (cynnydd o £221m neu 1%). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £1719m (gostyngiad o £582m neu -25.3%). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £23977m (gostyngiad o £361m neu -1.5%).

DEL yw’r rhan o’r gyllideb y gall Llywodraeth Cymru ddewis sut i’w gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.

AME yw’r rhan o’r gyllideb na all Llywodraeth Cymru ei gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.

Tabl yn dangos cyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf yn ôl adran. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: £10581m (cynnydd o £325m neu 3.2%). Cyllid a Llywodraeth Leol: £4821m (cynnydd o £102m neu 2.2%). Y Gymraeg ac Addysg: £2362m (gostyngiad o £218m neu -8.5%). Newid Hinsawdd: £2966m (cynnydd o £24m neu 0.8%). Yr Economi: £506m (gostyngiad o £8m neu -1.6%). Materion Gwledig: £421m (gostyngiad o £1m neu -0.2%). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: £359m (cynnydd o £4m neu 1.1%). Cyfiawnder Cymdeithasol: £242m (gostyngiad o £7m neu -2.7%).

 

* Heb gynnwys tua £1,030 miliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £208 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 i gael yr union ffigurau.

Ynghyd â’r gostyngiad yn ei chyllidebau nad ydynt yn arian parod, mae Llywodraeth Cymru yn nodi tri “dyraniad allweddol” y mae'n eu gwneud o'i gronfeydd wrth gefn nas dyrannwyd yn ei Ail Gyllideb Atodol.

Mae £91.7 miliwn ychwanegol wedi'i glustnodi i gefnogi pobl sy'n cyrraedd o Wcráin

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £91.7 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £74.4 miliwn o’r swm hwn, gyda Llywodraeth Cymru yn dyrannu‘r gweddill o'i chronfeydd wrth gefn. Daw hyn â’r cyfanswm a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022-23 i £112 filiwn. Mae'n dweud bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddarparu amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys parhau i “ariannu canolfan gyswllt genedlaethol, llinell gymorth a chanolfannau cyrraedd”.

Bydd chwyddiant yn effeithio ar y sector cyhoeddus cyfan, ond dyrennir cyllid ychwanegol ar gyfer costau ynni'r GIG yn unig

Er gwaethaf i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gydnabod y bydd yr effaith yn cael ei theimlo ar draws Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt, dim ond y GIG sy’n cael cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â chwyddiant, gyda £81 filiwn yn cael ei dyrannu am y “costau ynni ychwanegol eithriadol”.

Mae cymorth ychwanegol Llywodraeth Cymru i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru hefyd yn cynnwys £89 miliwn i gefnogi’r “costau parhaus ychwanegol sy’n gysylltiedig â’[i] hymateb i Covid-19 sy’n dal i gael eu hwynebu gan sefydliadau’r GIG”.

Mae cyflogau’r sector cyhoeddus yn her fawr i Lywodraeth Cymru

Mae’r Gweinidog yn nodi mai cyflogau’r sector cyhoeddus yw’r her fwyaf i Lywodraeth Cymru yn ymwneud â chwyddiant.

Disgrifiodd Llywodraeth Cymru y cynigion cyflog y gwnaeth ar gyfer staff GIG Cymru ac athrawon fel yr “uchafswm” y mae’n gallu ei fforddio. Daethpwyd o hyd i’r cyllid ar gyfer y setliadau posibl hyn yn y flwyddyn ariannol hon, gyda £120 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu ar ei gyfer staff GIG Cymru a £32 filiwn ar gyfer athrawon yn yr Ail Gyllideb Atodol.

Ar 15 Chwefror 2023, adroddodd y cyfryngau fod yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) wedi gwrthod cynnig cyflog Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

Ar 28 Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod undebau llafur, fel Fforwm Partneriaeth Cymru, wedi “derbyn ar y cyd, o drwch blewyn, y codiad cyflog” a gynigiwyd ar gyfer staff GIG Cymru. Fodd bynnag, adroddwyd yn y cyfryngau yn fuan wedyn fod mwyafrif llethol o aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi pleidleisio i wrthod y cynnig.

Gan fod rhaid i’r cyllid gael ei ddyrannu o fewn 2022-23, gofynnodd Pwyllgor Cyllid y Senedd i’r Gweinidog ar 1 Mawrth 2023 beth fyddai’n digwydd pe na bai’r cynigion cyflog yn cael eu derbyn cyn diwedd mis Mawrth 2023.

Dywedodd y Gweinidog fod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer y naill senario neu’r llall.

Beth nesaf?

Bydd Ail Gyllideb Atodol 2022-23 yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth; gellir gwylio’r trafodion yn fyw ar Senedd.tv.


Erthygl gan Joanne McCarthy a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru