Mae gwasanaethau gwella ysgolion wedi bod mewn cyflwr o newid ers blwyddyn neu fwy bellach, gydag ansicrwydd ynghylch sut y byddant yn cael eu darparu yn y dyfodol.
Gwnaeth adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ddangos anfodlonrwydd ymysg llawer o ysgolion ac awdurdodau lleol gyda'r trefniadau rhanbarthol presennol sy’n seiliedig ar gonsortia. Mae Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud newidiadau o dan y ‘Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion‘.
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd bellach yn edrych ar y mater hwn fel rhan o'i waith craffu ar wella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr.
Gwreiddiau a hanes gweithio rhanbarthol
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â ‘chenhadaeth genedlaethol’ i wella safonau addysg, ar sawl ffurf, ers canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2009 (PISA). Cawsant eu disgrifio gan y Gweinidog ar y pryd yn “wake up call to a complacent system” ac yn “evidence of systemic failure”.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo safonau uchel mewn ysgolion a chyflawni potensial dysgu pob disgybl. Ymysg pryderon a amlygwyd mewn arolygiadau ynghylch capasiti awdurdodau lleol i wneud hyn, yn 2013 hyrwyddodd Llywodraeth Cymru sefydlu pedwar consortia rhanbarthol, gydag awdurdodau lleol yn rhannu eu swyddogaethau gwella ysgolion. Gwnaeth awdurdodau lleol hyn yn hytrach na ‘brigdorri’ arian o’u cyllidebau at y diben hwn ac er mwyn cadw'r cyfrifoldeb statudol am addysg.
Gwnaeth Adolygiad Hill adrodd yn 2013 fod trefniadau ar gyfer sut roedd swyddogaethau awdurdodau lleol ar gyfer gwella ysgolion yn cael eu trefnu yng Nghymru yn “ddifrifol o anfoddhaol” a galwodd am newid.
Felly, ers dros ddegawd, cafwyd dull rhanbarthol o ddysgu a datblygiad proffesiynol athrawon, a chyflawni amcanion cenedlaethol megis gwella safonau mewn llythrennedd a rhifedd a lleihau bylchau cyrhaeddiad.
Roedd y pwysigrwydd a roddodd Llywodraeth Cymru ar rôl y consortia rhanbarthol hefyd yn amlwg yn ei hymateb i ymchwiliad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn 2018 ynghylch Cyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol. Gwnaeth Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg ar y pryd, oruchwylio diwedd rhaglen Her Ysgolion Cymru, a oedd yn cynnwys cymorth wedi’i dargedu at ysgolion a oedd yn tanberfformio, gan dynnu sylw at rôl ganolog y consortia wrth fwrw ymlaen â gwella ysgolion.
Fodd bynnag, bu i’r model gwreiddiol o weithio rhanbarthol chwalu yn ne-orllewin a chanolbarth Cymru, yn gyntaf gyda Chastell-nedd Port Talbot yn gadael cyn-gonsortiwm ERW yn 2020 i weithredu ei drefniadau gwella ysgolion ei hun. Wedi hynny, gwnaeth awdurdodau lleol eraill adael ERW hefyd, a gafodd ei ddiddymu’n ffurfiol ym mis Mawrth 2022. Gwnaeth Ceredigion a Phowys gydweithio drwy ‘Bartneriaeth Addysg Canolbarth Cymru’ ac fe ffurfiodd Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe ‘Partneriaeth’.
Parhaodd consortia GwE, CSC ac EAS yng ngogledd Cymru, canol de Cymru a de-ddwyrain Cymru i weithredu ochr yn ochr â’r adolygiad ac ymateb Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, diddymwyd GwE ar 31 Mai 2025.
Yr adolygiad ‘haen ganol’
Cafodd ‘Grŵp Cyflwyno Addysg Strategol‘, gyda'r Athro Dylan Jones yn gadeirydd, ei sefydlu yn 2018 gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams AS. Ei bwrpas oedd darparu eglurder a chysondeb ynghylch rolau a chyfrifoldebau’r partneriaid a’r chwaraewyr unigol yn yr haen ganol (yr haen rhwng ysgolion a Llywodraeth Cymru). Ym mis Gorffennaf 2023, gosododd y Gweinidog Addysg nesaf, Jeremy Miles AS, Gylch Gorchwyl newydd ar gyfer gwaith y grŵp, gan roi cyfrifoldeb i'r Athro Jones adolygu rolau a chyfrifoldebau ‘partneriaid addysg’ yng Nghymru a chyflawni trefniadau gwella ysgolion.
Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Jeremy Miles AS fod yr adolygiad yn symud i’r cam nesaf, a ddisgrifiodd ym mis Chwefror 2024 fel “y broses fanwl o gynllunio a chyd-lunio trefniadau diwygiedig i wella ysgolion”. Cafodd ei weld yn gyffredinol fel arwydd o ddiwedd y consortia rhanbarthol.
Ochr yn ochr â’i ddatganiad ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd y Gweinidog ar y pryd lythyr gan yr Athro Dylan Jones yn nodi'r hyn a ganfuwyd gan yr adolygiad. Roedd hyn yn cynnwys bod gan arweinwyr ysgolion bryderon difrifol ynghylch y gwerth ychwanegol gan y consortia rhanbarthol a bod mwyafrif clir o awdurdodau lleol o blaid symud oddi wrth weithio rhanbarthol at bartneriaethau a oedd yn caniatáu dull mwy lleol. Roedd y rhesymau a roddwyd yn cynnwys atebolrwydd awdurdodau lleol dros wella ysgolion a'u pryderon ynghylch ansawdd y gefnogaeth a gwerth am arian y consortia ar adeg o bwysau ariannol sylweddol.
Y ‘Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion’
Gyda phenodiad Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, ym mis Mawrth 2024, a newidiadau gwleidyddol ehangach yn Llywodraeth Cymru, ychydig iawn o wybodaeth gyhoeddus a gafwyd dros y misoedd dilynol ar ddatblygiadau newydd. Yna yn hydref 2024, roedd dau ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet – ar 17 Hydref a 5 Tachwedd – yn nodi:
- bod swyddogaethau dysgu proffesiynol y consortia yn cael eu trosglwyddo i gorff newydd ‘Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol Cenedlaethol’, gan ymgymryd hefyd â swyddogaethau o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol; ac
- roedd modelau partneriaeth newydd gan awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â gwella ysgolion yn cael eu datblygu gyda mewnbwn ‘Grŵp Cydlynu Cenedlaethol’ dan gadeiryddiaeth y cyn-Weinidog Addysg, Kirsty Williams (a gafodd ei enwi yn dilyn hynny yn ‘Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion’).
Gwnaeth datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar 29 Ionawr 2025 ddatgelu bod awdurdodau lleol wedi cyflwyno cynlluniau i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2024 yn amlinellu eu dull o gyflawni trefniadau gwella ysgolion lleol. O ganlyniad, mae partneriaethau newydd rhwng awdurdodau lleol wrthi’n cael eu datblygu. Dywedodd llythyr gan Kirsty Williams ar ran y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ym mis Rhagfyr 2024 fod y grŵp yn “cefnogi egwyddorion y dull gweithredu a gynigir ac yn cytuno â’i fwriad i egluro a symleiddio’r system gwella ysgolion yng Nghymru”.
Pwysleisiodd Estyn, yr arolygiaeth ysgolion, bwysigrwydd cynnal cydweithrediad o fewn y trefniadau gwella ysgolion newydd ac y byddai mynd yn ôl at fodel lle mae 22 awdurdod lleol yn cymryd dulliau gwahanol yn drychineb.
Pryd fydd newidiadau’n digwydd?
Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2025 y bydd cynigion awdurdodau lleol “yn cael eu gweithredu a’r broses bontio yn cael ei chwblhau” rhwng mis Ionawr a haf 2025. Bydd y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol newydd yn dechrau ei swyddogaethau ym mis Medi a bydd pob ysgol “yn ymwneud â phartneriaethau gwella cydweithredol” erbyn mis Ebrill 2026.
Yna dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar 3 Mehefin:
Mae'r broses o symud oddi wrth y trefniadau presennol ar gyfer gwella ysgolion wedi dechrau, ac mae'n amlwg bod llawer o waith cymhleth a rhyngddibynnol yn mynd rhagddo ym mhob rhan o'r system er mwyn trosglwyddo i'r trefniadau newydd erbyn yr hydref.
Roedd cyflwyniad CLlLC i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mai 2025 yn nodi bod llawer o fanylion ynghylch y trefniadau newydd “yn dal i gael eu datblygu mewn gwahanol ranbarthau a dylai cynghorau allu darparu diweddariadau pellach yn nhymor yr hydref” (amseru gwaith craffu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg).
Disgwylir hefyd i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar ganllawiau gwella ysgolion newydd eleni, gan ddisodli’r hyn a gyhoeddwyd yn 2022.
Mae cael strwythurau a phrosesau gwella ysgolion yn iawn yn bwysicach fyth gydag Estyn yn adrodd nad yw ansawdd yr addysgu a’r asesu yn ddigon da yn aml a bod diffygion yn arferion hunanwerthuso a gwella ysgolion yn “atal cynnydd gormod o ddysgwyr”. Mae hefyd yn allweddol i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i “barhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi”.
Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.