Beth sy'n cael ei wneud ynglŷn â diogelwch tomenni glo a sut bydd y gwaith yn cael ei ariannu?

Cyhoeddwyd 27/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae tomenni glo, pentwr o ddeunydd gwastraff a dynnwyd o'r ddaear wrth fwyngloddio glo, yn waddol gorffennol mwyngloddio Cymru. Mae’r rhan fwyaf o domenni yng Nghymru bellach yn segur, ac mae nifer o risgiau, gan gynnwys tirlithriadau, llifogydd, llygredd ac ymlosgi digymell yn gysylltiedig â nhw.

Mae mwy o law trwm yn ystod y gaeaf a fflachlifoedd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, yn ychwanegu risg o ran ansefydlogrwydd y tomenni.

Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â thomenni glo yn dyddio'n ôl i pan oedd diwydiant glo gweithredol, ac fe'i hystyrir yn annigonol ar gyfer rheoli tomenni segur.

Cyn dadl Llywodraeth Cymru ynglŷn â diogelwch tomenni glo ddydd Mawrth, mae'r erthygl hon yn trafod y polisi tomenni glo parhaus, diwygio deddfwriaethol a chamau gweithredu yng Nghymru, a sut y gallai hyn gael ei ariannu.

Mae tywydd eithafol yn sbarduno gweithredu

Chwefror 2020 oedd y gwlypaf ar gofnod. Yn ogystal â llifogydd eang, profodd Gymru lawer o dirlithriadau, gan gynnwys llithriad yn nhomen lo Llanwynno, Tylorstown, Cwm Rhondda.

Fis yn ddiweddarach, mewn ymateb, sefydlwyd Tasglu Diogelwch Tomenni Glo ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i nodi ac i asesu risgiau tomenni glo, a chomisiynwyd yr Awdurdod Glo i gynnal arolygiadau. Gweithiodd yr Awdurdod Glo gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) gyda'r nod o ddatblygu darlun manwl o dirwedd y tomenni glo ledled Cymru. Mae’r mwyafrif o domenni glo mewn perchnogaeth breifat, gydag eraill o dan reolaeth awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Glo.

Rhoddwyd dwy sgôr i’r 2,144 o domenni glo a nodwyd – un yn dosbarthu'r risg gynhenid, ac un yn dosbarthu'r risg i bobl, eiddo neu seilwaith allweddol. Dosbarthwyd 300 o'r rheini fel rhai risg uchel. Mae awdurdodau lleol wedi cael y dasg o wneud gwaith angenrheidiol a nodwyd yn sgil yr arolygiadau, gan weithio gyda'r Awdurdod Glo ac unrhyw berchnogion preifat, i ddiogelu uniondeb strwythurol y tomenni yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi darparu cyllid ar gyfer y rhaglen cynnal a chadw hon.

Mae hefyd yn dweud bod technoleg yn cael ei threialu i fonitro tomenni glo risg uchel a rhoi rhybudd cynnar o unrhyw symudiad.

Adolygodd y tasglu'r ddeddfwriaeth bresennol

Ceisiodd y tasglu ar y cyd 'asesu statws uniongyrchol tomenni glo yng Nghymru ac adolygu'r polisi presennol a’r fframwaith deddfwriaethol sy'n ymwneud â rheoli tomenni glo segur'. Canfu nad yw’r ddeddfwriaeth yn “ddigon cadarn nac yn addas i’r diben” gan nad oes angen archwilio tomenni glo segur yn rheolaidd.

Deddfwyd y Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 bresennol yn dilyn Trychineb Aberfan ym 1966, pan oedd diwydiant glo gweithredol, ac ni chredid bod tomenni glo segur yn broblem sylweddol.

Gwahoddwyd Comisiwn y Gyfraith i ddechrau prosiect ar reoleiddio tomenni glo a darparu argymhellion ar gyfer Bil yn y dyfodol. Mae ei wefan yn nodi'r berthynas rhwng ei waith a gwaith y tasglu gan ddweud:

Mae rhaglen y tasglu yn cynnwys ymateb i bryderon diogelwch uniongyrchol a datblygu dull polisi hirdymor newydd o waddol tomenni glo segur. Bydd prosiect Comisiwn y Gyfraith yn ategu'r gwaith hwn.

Mae wedi ymgynghori ar drefn diogelu tomenni glo newydd arfaethedig, sy'n cynnig creu fframwaith rheoleiddio newydd a fyddai:

…yn hyrwyddo cysondeb wrth reoli tomenni glo ledled y wlad ac osgoi perygl trwy gyflwyno dull rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol

Disgwylir i adroddiad terfynol gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi ar ddechrau 2022.

Defnyddio’r adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru

Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi adolygiad o wariant Llywodraeth y DU y disgwylir iddo ddod i ben ar 27 Hydref ochr yn ochr â chyllideb yr Hydref. Bydd yr adolygiad yn amlinellu'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf hyd at 2024-25.

Mae gwleidyddion Cymru wedi dadlau, gan fod tomenni glo yn waddol hanes diwydiannol y wlad cyn y cyfnod datganoli, y dylai Llywodraeth y DU ysgwyddo costau'r gwaith tymor hwy i wneud tomenni glo yn ddiogel.

Dywedodd y cyn-Weinidog Cyllid a’r Trefnydd wrth Bwyllgor Cyllid y Bumed Senedd:

… the legacy coal tip issues that we face here in Wales, which could cost, over a period of 10 years, in the region of £0.5 billion, so this is major funding that will be required.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr adolygiad o wariant yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU gefnogi ymdrechion ar y cyd i gyflawni carbon net-sero a mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd a’r argyfwng natur. Fel rhan o hyn, mae'n galw ar Lywodraeth y DU i wneud y canlynol:

…gweithio gyda ni ar frys i ddatblygu strategaeth ffurfiol a rhaglen ariannu ar gyfer adfer, adennill ac ail-osod safleoedd tomenni glo yn yr hirdymor i reoli effeithiau hinsawdd a mynd i'r afael â phryderon diogelwch y cyhoedd.

Bydd y Senedd yn cynnal dadl gan ddefnyddio adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru ddydd Mawrth 28 Medi.

Gall y cyhoedd roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch tomenni glo neu gael cyngor ar ddiogelwch gan linell gymorth yr Awdurdod Glo ar 0800 021 9230 neu drwy anfon neges e-bost at awgrymiadau@glo.gov.uk.


Erthygl gan Lorna Scurlock ac Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru