Beth nesaf i Dirweddau Dynodedig yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 07/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Efallai bod diben Tirweddau Dynodedig yng Nghymru yn newid. Mae'r blog hwn yn edrych ar y datblygiadau’n ymwneud a chanlyniadau dymunol Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) cyn datganiad yn y Cyfarfod Llawn gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mawrth.

Y cefndir

Mae tirweddau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu dynodi fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae tua 25 y cant o dir Cymru yn Dirwedd Ddynodedig.

Mae pedair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru (sef, Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pen Llŷn a Gŵyr - ac yn ychwanegol at hynny, mae AHNE Dyffryn Gwy yn rhychwantu Cymru a Lloegr) a thri Pharc Cenedlaethol (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Eryri). Ym 1952, dynodwyd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn Barc Cenedlaethol arfordirol cyntaf y DU, ac ym 1956 cafodd Gŵyr ei dynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Trefniadau rheoli cyfredol a diben Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae gan Barciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol fel y nodir yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd; a
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd.

Os bydd gwrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, mae’n ofynnol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol roi blaenoriaeth i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, yn unol ag ‘Egwyddor Sandford’.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ardaloedd a ddynodir er mwyn gwarchod a gwella eu harddwch naturiol, ac maent yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol gan nad oes diben statudol iddynt o ran hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall yr ardal.

Adolygiad Marsden

Yn wyneb oedran y ddeddfwriaeth sy’n nodi dibenion statudol y ddau ddynodiad (Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949), yn 2014 comisiynodd Llywodraeth Cymru grŵp o arbenigwyr, o dan arweiniad yr Athro Terry Marsden, i gynnal Adolygiad o Dirweddau Dynodedig. Ac yntau wedi’i gyhoeddi yn 2015, roedd ‘Adolygiad Marsden’ yn darparu 69 o argymhellion. Roedd y rhain yn cynnwys:

Argymhelliad 6: Dylai fod tri diben statudol cydgloadol i’r Parciau Cenedlaethol a'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, sef

  • Gwarchod a gwella’r dirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal;
  • Hybu lles corfforol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal; a
  • Hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad economaidd a chymunedol yn seiliedig ar reoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.

Argymhelliad 7: Bydd Egwyddor Sandford, sy’n cadarnhau blaenoriaeth y diben cadwraeth, yn cael ei defnyddio ar draws yr holl dirweddau dynodedig.

Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol

Yn dilyn yr adolygiad, yn ystod hydref 2015, sefydlodd Carl Sargeant AC, y Gweinidog Adnoddau Naturiol ar y pryd, Weithgor Tirweddau’r Dyfodol. Roedd y gweithgor, o dan arweiniad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Parciau Cenedlaethol, yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, grwpiau amgylcheddol, swyddogion o fyd busnes a’r llywodraeth a buont yn ymchwilio i argymhellion Adolygiad Marsden. Buont hefyd yn ystyried yr argymhellion yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr Adroddiad cyntaf o Gyflwr Adnoddau Naturiol.

Cyhoeddodd y Gweithgor ei adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru ('Adolygiad o Dirweddau'r Dyfodol') ym mis Mai 2017.

Adolygiad o Dirweddau’r Dyfodol - adroddiad gan Weithgor Tirweddau’r Dyfodol

Cynnig

Mae’r adroddiad yn nodi Cynnig newydd ar gyfer Tirweddau Dynodedig, i fynd y tu hwnt i’w dibenion cyfredol sy’n ymwneud â chadwraeth a gwerth amwynder. Mae’n nodi y dylai Tirweddau Dynodedig arwain y ffordd o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy gan ddarparu budd cyhoeddus a phreifat ehangach. Mae’n pwysleisio’r cyfle, drwy weithio mewn partneriaeth, i wireddu potensial economaidd cymunedau a hyrwyddo twf gwyrdd a gwytnwch ecosystemau drwy’r tirweddau hyn.

Llywodraethu

Cynigir ffordd newydd o weithio drwy drefniadau llywodraethu, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o fodelau cyflawni a phartneriaeth sydd â gweledigaeth gyffredin. Mae hefyd yn argymell y dylai cyrff a phartneriaethau sydd â chyfrifoldeb am y Tirweddau Dynodedig weithio ar draws ffiniau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaethau lleol i hyrwyddo eu gwerth cymdeithasol, eu gwerth diwylliannol, eu gwerth economaidd a’u defnydd cynaliadwy. Dywed yr adroddiad y byddai angen i bartneriaethau ddenu adnoddau newydd a dylanwadu ar fuddsoddiadau gan eraill. Mae’n pwysleisio y bydd angen newid ymddygiadol a sefydliadol ar y ffordd newydd hon o weithio.

Cynllun Gweithredu

Mae cynllun gweithredu 18 mis o gamau cyntaf i wireddu’r Cynnig wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Fe’i rhennir i’r elfennau canlynol:

  • cydweithredu a phartneriaeth;
  • gweledigaeth a chyfeiriad;
  • llywodraethu adfywiol: gwella perfformiad ac atebolrwydd;
  • arloesi o ran adnoddau; a
  • rhoi arweiniad o ran lles a gwydnwch.

Ymatebion i’r Adolygiad o Dirweddau'r Dyfodol

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Hoffwn ddiolch i’r gweithgor am yr adroddiad. Y cam nesaf yw gwireddu’r uchelgais hwn, nid ar ein pen ein hunain, ond gyda’n gilydd mewn partneriaeth."

Er ei fod yn croesawu ymrwymiad yr adolygiad i Dirweddau Dynodedig, mae Cymdeithas Eryri wedi beirniadu’r adroddiad am ei ddiffyg eglurder a’i ddiffyg pwyslais ar brif ddiben cadwraeth y dynodiadau hyn:

We searched the Future Landscapes document for the key words in National Parks’ existing purposes – ‘natural beauty’, ‘conservation’, ‘wildlife’, ‘cultural heritage’ ‘enjoyment’ ‘access’, ‘recreation’.
None of the words occurs in the body of the document. ‘Conservation’ is the C-word spectacularly missing from the Future Landscapes document.
...It purports to summarise the detailed independent report produced by the Marsden panel in 2015, … but fails to mention one of Marsden’s key recommendations – that the Sandford Principle must continue to apply, thereby ensuring that conservation remains the primary purpose of National Parks and AONBs.

Mae Monmouthshire GreenWeb (Cymdeithas wirfoddol sy’n cynnwys hyd at hanner cant o sefydliadau amgylcheddol) hefyd wedi gwneud sylwadau ar yr adroddiad, gan nodi:

While there is reference to controversial topics such as tourism and renewable energy, the report is more concerned with matters such as governance, collaboration, monitoring change, sustainable land management and drawing on good practice.

Ymgynghoriad Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy

Yn dilyn yr Adolygiad o Dirweddau'r Dyfodol, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad, Bwrw ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy (a ddaeth i ben ar 30 Medi 2017) a oedd yn cynnwys cynigion a ddilynodd o’r adolygiad. Roedd cynigion yr ymgynghoriad yn cynnwys:

  • Alinio swyddogaethau statudol y dynodiadau yn fwy eglur â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy;
  • Pwysleisio rhinweddau arbennig ardaloedd, fel y’u nodwyd, yn y broses benderfynu, gan fod angen dealltwriaeth eang o bwysigrwydd yr ardaloedd hynny;
  • Galluogi trefniadau llywodraethu i esblygu i adlewyrchu amgylchiadau lleol; ac
  • Adfywio'r ffordd y gellir cydnabod ardaloedd newydd am eu rhinweddau arbennig a'u rheolaeth gynaliadwy.

Y camau nesaf

Mae’r Adolygiad o Dirweddau'r Dyfodol / Ymgynghoriad Bwrw ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy yn cynnig model ar gyfer datblygu polisïau cyhoeddus yn y dyfodol a drafftio deddfwriaeth ddatganoledig. Mater i Lywodraeth Cymru fydd ystyried a oes angen newid y ddeddfwriaeth i gefnogi argymhellion yr adolygiad/ymgynghoriad.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru