Ddydd Mercher 20 Mai, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel. Mae'r mater hwn wedi denu llawer o ddiddordeb a gwaith craffu, yn y Cynulliad hwn a chyn hynny. Gwyddom hefyd fod mynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Yn ein blog diweddar ar gyflawniad academaidd a'r hawl i brydau ysgol am ddim nodwyd yr ystadegau diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, a ddangosodd fod y bwlch wedi cau yn y Cyfnod Sylfaen rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt. Mewn cyferbyniad, roedd yr ystadegau'n dangos bod y bwlch yng nghyfnod allweddol 4 wedi lledu am y tro cyntaf ers 2010. Nododd y blog hefyd, er bod perfformiad disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim wedi gwella 4.4 y cant ers pennu'r targed yn 2011/12, bod angen i'w perfformiad gynyddu 9.2 y cant eto dros y tair blynedd nesaf i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru.
Mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwneud 12 argymhelliad ynghylch beth mwy dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud i wella pa mor dda y mae disgyblion sydd â'r hawl i gael prydau ysgol am ddim yn gwneud yn yr ysgol. Ymhlith yr argymhellion mae:
- Dylai'r Gweinidog adolygu rôl y Cyfnod Sylfaen, a nodi'r rôl honno'n glir, er mwyn sicrhau y gall y Cyfnod Sylfaen gyfrannu at ganlyniadau gwell i blant o deuluoedd incwm isel; [bydd dadl ar y Cyfnod Sylfaen ei hun yn y Cynulliad ddydd Mawrth 19 Mai, gweler ein blog]
- Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn sicrhau'r canlyniadau a fwriadwyd ar gyfer disgyblion ac yn sicrhau gwerth am arian;
- Dylai'r Gweinidog atgyfnerthu'r canllawiau i ysgolion ar godi tâl am weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg, a'u gwneud yn gliriach.