Llun yn edrych i lawr ar Orsaf Reilffordd Caerdydd Canolog gyda’r nos

Llun yn edrych i lawr ar Orsaf Reilffordd Caerdydd Canolog gyda’r nos

Beth mae diwygio rheilffyrdd Llywodraeth y DU yn ei olygu ar gyfer Cymru?

Cyhoeddwyd 28/10/2024   |   Amser darllen munud

Roedd Araith gyntaf y Brenin o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU yn nodi cynlluniau ar gyfer dau Fil diwygio rheilffyrdd.

Bydd y Bil cyntaf, sef y Bil Gwasanaethau Rheilffyrdd Teithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) (‘y Bil Perchenogaeth Gyhoeddus’), yn ail-wladoli rheilffyrdd teithwyr ym Mhrydain Fawr. Bydd yr ail Fil yn rhoi diwygiadau ehangach ar waith.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut mae'r rheilffyrdd yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd, beth sydd ar y gweill, ac a fydd cynigion yn mynd i’r afael â galwadau hirsefydlog Llywodraeth Cymru am ddiwygio.

Rôl Llywodraeth Cymru o ran rheilffyrdd

Yn amodol ar fân eithriadau, nid yw rheilffyrdd wedi’i ddatganoli. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau gweithredol. Yn benodol:

  • Pwerau i fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd – er bod hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU a ddarperir drwy Network Rail, ac nid yw Cymru’n cael dyraniad grant bloc. Llinellau Craidd y Cymoedd yw’r eithriad, lle trosglwyddwyd perchnogaeth i Lywodraeth Cymru yn 2020 gan hwyluso Prosiect Metro De Cymru.
  • Pwerau i gaffael a rheoli gwasanaethau Masnachfraint Cymru a'r Gororau.

Mae gan Lywodraeth Cymru / Trafnidiaeth Cymru fewnbwn cyfyngedig i'r tair masnachfraint a gaffaelwyd gan Lywodraeth y DU sy'n gweithredu yng Nghymru (Avanti West Coast, CrossCountry a Great Westen Railway).

Yn wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban, nid oes gan Lywodraeth Cymru na Trafnidiaeth Cymru unrhyw rôl ffurfiol mewn perthynas â rheolwr y seilwaith (Network Rail) na’r rheoleiddiwr (y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd), er eu bod yn gweithio’n agos gyda’r ddau.

Mae’r pandemig wedi ysgogi dulliau newydd o ymdrin â gwasanaethau rheilffordd

Mae’r gyfraith yn mynnu bod y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffordd ym Mhrydain Fawr yn cael eu caffael trwy fasnachfreintiau. Fel y tybiwyd yn wreiddiol, roedd gweithredwyr masnachfraint y sector preifat yn ysgwyddo’r risg refeniw (gan gadw refeniw tocynnau) ac yn cael cymhorthdal gan awdurdod masnachfreinio’r sector cyhoeddus, neu’n talu premiwm iddo.

Fodd bynnag, mae’r gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr yn ystod pandemig Covid gwelwyd masnachfreintiau Cymru, yr Alban a Lloegr yn symud i gontractau brys yn 2020. Cymerodd y Llywodraeth y risg refeniw, gan dalu ffi rheoli i weithredwyr i ddarparu gwasanaethau penodol.

Mae’r dull hwn wedi parhau yn Lloegr. Mae contractau brys wedi'u disodli i raddau helaeth gan Gontractau Rheilffyrdd Cenedlaethol ac mae’r llywodraeth yn parhau i dalu ffi ac yn cario’r risg refeniw.

Mae deddfwriaeth rheilffyrdd yn darparu ar gyfer Gweithredwr Dewis Olaf ar hyn o bryd i weithredu gwasanaethau lle mae cytundebau masnachfraint yn dod i ben y tu allan i'r broses fasnachfreinio arferol. Bwriad gwreiddiol hyn oedd darparu parhad tra'n aros am ail-dendro.

Dechreuodd KeolisAmey, a benodwyd i redeg Gwasanaethau Cymru a’r Gororau yn 2018, dderbyn cyllid brys ym mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, yn hydref 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gwasanaethau’n uniongyrchol o dan drefniadau y Gweithredwr Dewis Olaf – i bob pwrpas yn gwladoli gwasanaethau fel Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf.

Gwladoli rheilffyrdd teithwyr a diwygio rheilffyrdd ehangach

Mae’r Bil Perchenogaeth Gyhoeddus, a gyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin ar 18 Gorffennaf, yn ceisio gwladoli gwasanaethau rheilffordd teithwyr masnachfraint pan ddaw contractau presennol y sector preifat i ben.

Byddai’n atal yr Ysgrifennydd Gwladol rhag ymestyn masnachfreintiau presennol, neu ymrwymo i rai newydd, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol. Byddai hefyd yn gwahardd Gweinidogion Cymru a’r Alban rhag ymrwymo i gytundebau masnachfraint newydd.

Yn lle hynny, byddai gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn cael eu sicrhau drwy ddyfarniad uniongyrchol i gwmnïau yn y sector cyhoeddus. Byddai cerbydau rheilffyrdd yn parhau i gael eu prydlesu gan Gwmnïau Gweithredu Cerbydau Rheilffyrdd y sector preifat.

Roedd Araith y Brenin hefyd yn nodi cynlluniau ar gyfer ail Fil a diwygio rheilffyrdd mwy cynhwysfawr, gan gynnwys:

  • integreiddio traciau a threnau fertigol;
  • creu Great British Railways (GBR), ‘meddwl cyfeirio’ sy’n gyfrifol am reoli rhwydwaith a darparu gwasanaethau teithwyr;
  • corff gwarchod teithwyr newydd;
  • diwygio tocynnau;
  • dyletswydd statudol i hyrwyddo cludo nwyddau ar y rheilffyrdd;
  • rôl barhaus i weithredwyr mynediad agored.

Nid yw llawer o’r blaenoriaethau ehangach hyn yn newydd. Mae Cynllun Williams-Shapps ar gyfer Rheilffyrdd ym mis Mai 2021, a oedd yn nodi cynlluniau Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yn cael ei adlewyrchu i raddau helaeth yn ymagwedd arfaethedig y Llywodraeth Lafur (er y byddai gwasanaethau teithwyr wedi parhau i gael eu preifateiddio o dan gontractau ffioedd rheoli tebyg i’r rhai sy’n gweithredu yn Lloegr ar hyn o bryd).

Gwnaeth Keith Williams, a arweiniodd adolygiad rheilffyrdd y Llywodraeth flaenorol, groesawu cynlluniau maniffesto Llafur gan ddweud eu bod yn cyflawni nifer o’i argymhellion.

Fodd bynnag, ychydig o gynnydd a wnaed. Sefydlwyd Tîm Pontio GBR, ond cafodd cynlluniau ar gyfer Bil Trafnidiaeth eu rhoi o'r neilltu yn 2022. Yn lle hynny, cyhoeddwyd Bil Diwygio Rheilffyrdd drafft ym mis Chwefror 2024.

Mae amseru’r ail Fil yn aneglur, ond ar 3 Medi cafwyd datganiad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn cyhoeddi bod GBR yn cael ei sefydlu ar ffurf gysgodol.

Beth mae diwygio yn ei olygu i bolisi Llywodraeth Cymru?

Mae’r Bil Perchnogaeth Gyhoeddus yn arwyddocaol i Gymru, er gwaethaf y ffaith bod Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithredu’n gyhoeddus.

Yng Nghymru a Lloegr (er nid yr Alban) mae’r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd yn atal gweithredwyr y sector cyhoeddus rhag bod yn ddeiliaid masnachfraint. Felly er bod disgwyl i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru aros wedi’u gwladoli am rai blynyddoedd, heb y Bil hwn byddent yn y pen draw yn dychwelyd i’r sector preifat.

Ym mis Gorffennaf, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, groesawu’r Bil Perchenogaeth Gyhoeddus gan ei fod yn caniatáu i Trafnidiaeth Cymru “wneud y mwyaf o fanteision integreiddio rheilffyrdd â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus”.

Mae galwadau o Gymru am ddiwygio ehangach wedi’u lleisio ers perth amser. Yn 2016, nododd un o Bwyllgorau’r Senedd fewnbwn cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru i brosesau cynllunio a darparu rheilffyrdd. Er bod manylion yr hyn y mae diwygio ehangach yn ei olygu i Gymru yn gyfyngedig, ym mis Awst canmolodd Ysgrifennydd y Cabinet “ddyfodol disglair” i reilffyrdd Cymru yn dilyn cyfarfod gyda gweinidog rheilffyrdd y DU, yr Arglwydd Hendy.

Er bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn cydweithio ers peth amser ar gyfres o brosiectau gwella rheilffyrdd y cytunwyd arnynt, nid oes unrhyw gyhoeddiadau wedi’u gwneud.

Mewn datganiad ar 24 Medi ar y rheilffyrdd cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y “cyfle aruthrol” sy'n gysylltiedig â diwygio yn y dyfodol – yn benodol uned Cymru a'r Gororau o GBR (“GBR Cymru”). Roedd yn croesawu’r ffaith ei fod yn “gallu lleisio barn” ar y gwelliannau a ddarperir yng Nghymru ac mae “trafodaethau ynghylch GBR Cymru yn cael cronfa welliannau bwrpasol” yn mynd rhagddynt.

Fodd bynnag, mae hyn yn dal i ymddangos gryn bellter o ddatganoli pwerau gweithredol llawn ar gyfer cynllunio rheilffyrdd yn dilyn model yr Alban.

Mae dyraniadau cyllid ar gyfer rheilffyrdd yn y dyfodol yn aneglur. Mae dadlau wedi bod ers tro nad yw Cymru yn cael ei “chyfran deg” drwy Network Rail. Yn ogystal, mae nodi HS2 fel prosiect Cymru a Lloegr yn golygu nad yw Cymru'n derbyn Symiau Canlyniadol Barnett, sydd wedi bod yn hynod ddadleuol.

Awgrymwyd bod biliynau yn ddyledus i Gymru yn sgil HS2. Ac ym mis Mehefin, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ar y pryd, Rebecca Evans AS, at yr Aelodau yn awgrymu bod £350m yn ddyledus am waith ar y prosiect hyd at 2024-25.

Ym mis Medi, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS, at Ganghellor y Trysorlys gan bwysleisio’r angen am “[d]dull teg o gymhwyso Barnett mewn perthynas â chyllid rheilffyrddd”. Ond, mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan AS, ers hynny, wedi ceisio “rheoli disgwyliadau” ar gyllideb Llywodraeth y DU ar 30 Hydref sy’n awgrymu na fydd unrhyw benderfyniad yn gyflym.

Ar 24 Medi dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, “mae datganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn, ynghyd â chyllid teg, yn parhau i fod yn uchelgais i ni, ond rydym yn cydnabod mai proses yw hon”.

Fodd bynnag, os na chyflawnir yr uchelgais hwn yn ystod y broses ddiwygio rheilffyrdd fwyaf arwyddocaol ym Mhrydain Fawr ers cenhedlaeth, nid yw’n glir pryd y gallai’r cyfle godi eto.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru