Beth mae Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2021 yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 15/11/2021   |   Amser darllen munud

Ar 27 Hydref, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak, Gyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref 2021. Roedd yn dyrannu’r cyllid uchaf erioed i Lywodraeth Cymru, ond hefyd, yn ddadleuol, yn dyrannu arian yn uniongyrchol mewn meysydd datganoledig.

Mae’r Adolygiad o Wariant yn ddatganiad o gynlluniau gwariant Llywodraeth y DU ar gyfer pob adran o’r llywodraeth a grantiau bloc y gweinyddiaethau datganoledig ar gyfer y tair blynedd ariannol ganlynol, hyd at 2024-25.

Ochr yn ochr â’r Adolygiad o Wariant, cyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei Rhagolwg economaidd a chyllidol. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagamcanu twf economaidd yn gyflymach na’r disgwyl ar gyfer y DU na’r hyn a ddisgwylwyd yn wreiddiol yn ei rhagamcanion ym mis Mawrth. Mae’n disgwyl y bydd economi’r DU yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig erbyn troad y flwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu i gyllid Cymru?

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd £2.5 biliwn ychwanegol o gyllid blynyddol ar gyfartaledd yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru trwy fformiwla Barnett hyd at 2024-25 ar ben ei chyllid sylfaenol blynyddol o £15.9 biliwn. Mewn datganiad ar y cyd, disgrifiodd y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, fod yr Adolygiad o Wariant yn dyrannu’r swm uchaf erioed o £18 biliwn y flwyddyn i Gymru. Dywedodd y Canghellor ynghylch y cyllid ychwanegol:

..means the Welsh Government is well-funded to deliver all their devolved responsibilities while the people in Wales will also benefit from this Government’s commitment to levelling up opportunity.

Roedd yr Adolygiad o Wariant yn cynnwys cyllid o £900m i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir, ynghyd â £6.2m i gefnogi pysgodfeydd. Mae hefyd yn dyrannu cronfa o £130m i Gymru drwy Fanc Busnes Prydain, sy’n darparu cyllid dyled ac ecwiti i fusnesau bach a chanolig eu maint, gan ddweud y byddai’n gweithio yn agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn darparu ‘cyllid cyflym’ ar gyfer Bargen Dinas-Ranbarth Caerdydd gan gyflwyno £105 miliwn am y naw mlynedd sy’n weddill o’r Fargen o 2022-23 ymlaen.

Beth yw Bargen Dinas-Ranbarth Caerdydd?

Mae’r Fargen Ddinesig yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg awdurdod lleol de-ddwyrain Cymru, sy’n ceisio ysgogi twf rhanbarthol a llwyddiant cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys prosiect Metro De Cymru, sef rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Mae ein herthygl flaenorol yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Cadarnhaodd yr Adolygiad o Wariant y bydd Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn cael ei sefydlu a fydd yn, gyfrifol am weithio i wella bywydau a chyfleoedd cymuned cyn-filwyr Cymru.

Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn amcangyfrif bod y bydd cyllideb graidd ar gyfer gwariant blynyddol o ddydd i ddydd gan Lywodraeth Cymru yn cynyddu £2.9bn erbyn 2024-25, o’i gymharu â llinell sylfaen 2021-22, sy’n cyfateb i gyfartaledd o tua 3.1% y flwyddyn dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant mewn termau nominal (ni addaswyd y ffigurau ar gyfer chwyddiant na ffactorau eraill).

Cynlluniau newydd ar gyfer cyllid Ewropeaidd

Cyn Brexit, cafodd Cymru rywfaint o gyllid yr UE drwy gronfeydd strwythurol yr UE, drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Llywodraeth Cymru oedd yn gweinyddu’r arian hwn. Yn ôl yr Institute for Government, derbyniodd Cymru €780 y pen mewn cronfeydd strwythurol yr UE rhwng 2014 a 2020, sy’n llawer mwy na Lloegr (€130), yr Alban (€180) a Gogledd Iwerddon (€280).

Ar ôl Brexit, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) yn lle’r ERDF a’r ESF, gan ddefnyddio pwerau yn Neddf Marchnad Fewnol 2020 a dyrannu arian trwy gyfres o gynlluniau ar wahân. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol. O dan y SPF, bydd Llywodraeth y DU yn dyrannu cyllid yn uniongyrchol i awdurdodau lleol yn hytrach na thrwy weinyddiaethau datganoledig.

Beth yw Deddf Marchnad Fewnol y DU?

Ymhlith pethau eraill, mae’r Ddeddf Marchnad Fewnol yn fecanwaith i Weinidogion y DU wneud penderfyniadau cyllido mewn meysydd datganoledig. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn gwrthwynebu’r Ddeddf yn gryf a phleidleisiodd y Senedd i atal ei chydsyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth. Cymeradwyodd Tŷ’r Cyffredin y Ddeddf a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 17 Rhagfyr 2020.

Cyhoeddodd yr Adolygiad o Wariant y 105 o brosiectau a oedd wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad. Mae deg o’r prosiectau hyn yng Nghymru a dyrannwyd £121m ar eu cyfer. Mae hyn yn cynrychioli 7.2% o gyfanswm y gronfa a ddyrannwyd hyd yma (£1.7bn). Mae’r prosiectau’n cynnwys deuoli ffordd yr A4119 rhwng Tonypandy a Chaerdydd, adfywio Aberystwyth, adfywio Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte ac ailddatblygu Canolfan Gelf Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, ymhlith prosiectau eraill.

Beth yw Cronfa Codi’r Gwastad?

Mae Cronfa Codi’r Gwastad yn rhan o’r SPF, a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Llywodraeth y DU Mawrth 2021, gyda phot cychwynnol o £4.8bn i fuddsoddi mewn seilwaith lleol gwerth uchel tan 2024-25, gyda £0.8bn ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig. Mae’r Gronfa wedi achosi dadlau, gyda Llywodraeth Cymru yn ei disgrifio fel ffordd o wyro oddi wrth setliad datganoli Cymru.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dyrannu £464k drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer prosiectau yn Llandwrog, Pen-y-Waun a Thredegar. Roedd hefyd yn cynnwys manylion y prosiect SPF cyntaf ledled y DU, gyda £560m wedi’i ddyrannu i raglen sy’n anelu at wella rhifedd oedolion. Fel rheol, byddai cyllid o’r math hwn yn Lloegr yn arwain at gyllid canlyniadol i Gymru gan y byddai’n cael ei ariannu trwy adran benodol yn Whitehall. Fodd bynnag, gan fod cyllid yn cael ei ddyrannu trwy’r SPF, ni fydd unrhyw gyllid canlyniadol ychwanegol yn dod i law.

Ar 3 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod £203.2m arall wedi’i ddyrannu trwy’r SPF ar gyfer 477 o brosiectau ledled y DU, gyda £46.9m ar gyfer 165 o brosiectau Cymru, sef 23.1% o gyfanswm y DU.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?

Ar 28 Hydref, disgrifiodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans y rhagolygon ar gyfer safonau byw a’r economi yn “eithaf tila”. Ailadroddodd wrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ddyrannu cyllid drwy Gronfa Codi’r Gwastad, gan ddweud bod y cronfeydd a ddyfarnwyd yn cynrychioli 7% o’r cyllid a ddyrannwyd yn y rownd gyntaf, o’i gymharu â’r 24% a dderbyniwyd yn flaenorol drwy gronfeydd strwythurol yr UE. Mae hyn er gwaetha’r ffaith i Lywodraeth y DU gadarnhau yn yr Adolygiad o Wariant y byddai cyfanswm y cyllid gan y SPF o leiaf yn cyfateb i faint Cronfeydd yr UE ym mhob gwlad.

Disgrifiodd y Gweinidog fod y dyraniadau cyntaf o dan Gronfa Codi’r Gwastad yn is “na’r cyllid disodli llawn a addawyd i ni er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb”, cyn datgan:

Rydym yn parhau i lwyr wrthwynebu’r defnydd gormesol o’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU i gyflwyno cyllid mewn meysydd sydd wedi’u datganoli…

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Disgwylir i Gyllideb Ddrafft 2022-23 Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr a bydd yn cynnig cynllun ar gyfer dosbarthu cyllid i adrannau Llywodraeth Cymru. Bydd Pwyllgorau’r Senedd yn craffu ar y cynigion ac yn adrodd ar eu casgliadau erbyn 4 Chwefror, cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Chwefror.

Yna bydd y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyhoeddi ar 1 Mawrth ac ar 8 Mawrth ac y cynhelir dadl a phleidlais arni.


Erthygl gan Owain Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru