Ar 19 Mai, cyhoeddodd y DU a'r UE eu cytundeb diweddaraf, Common Understanding. Mae'n paratoi'r ffordd ar gyfer trefniadau newydd yn y pum maes a ganlyn:
Mae rhywfaint o gyfatebiaeth rhwng naw blaenoriaeth y Prif Weinidog ar gyfer cysylltiadau â'r UE a'r hyn y cytunwyd arno, gan gynnwys ar gyfer masnach, cyfleoedd i bobl ifanc ac ynni. Yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mai, dywedodd y Prif Weinidog fod “llawer o bethau arwyddocaol iawn a fydd o fudd i Gymru” ac ar 3 Mehefin dywedodd fod hon yn fargen dda i Gymru.
Fel gyda phob un o’r prif gytundebau rhwng y DU a'r UE, mae ‘Common Understanding’ yn ymdrin â meysydd lle y mae cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli y bydd angen i Lywodraeth Cymru, y Senedd ac eraill eu rhoi ar waith.
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar feysydd datganoledig y mae’r cytundeb yn ymdrin â nhw ac mae’n amlinellu’r hyn y gallai ei ymrwymiadau newydd o ran pobl, masnach ac ynni ei olygu i Gymru.
Pobl
Gwnaeth y DU a'r UE ymrwymiadau er mwyn rhoi pobl wrth wraidd y berthynas rhyngddynt. Defnyddiwch y cwymplenni i gael gwybod mwy.
Mae'r DU a'r UE wedi cytuno i weithio tuag at sefyllfa lle y gall y DU ailymuno ag Erasmus+ a thuag at gynllun fisa newydd i bobl ifanc i hwyluso gweithgareddau fel gweithio, astudio, gwneud gwaith au-pair, gwirfoddoli a theithio, gyda’r cyfnodau a’r niferoedd i'w cytuno.
Lansiodd Llywodraeth Cymru raglen Taith yn 2022 sy’n cynnig cyfleoedd cyfnewid ym meysydd addysg oedolion, addysg bellach ac addysg uwch, ysgolion a gwaith ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru a’r UE yn gweld y rhaglen yn llwyddiant, ond roedd ei dyfodol yn ansicr hyd nes y cyhoeddwyd ar 3 Mehefin y byddai’n cael ei hestyn tan fis Mawrth 2028. Yn 2024, torrwyd cyllideb Taith o £8.1 miliwn i £6.5 miliwn a chadwyd y swm llai ar gyfer 2025-2026, pan oedd disgwyl yn wreiddiol i Taith ddod i ben.
Mae tystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd yn ystod nifer o ymchwiliadau yn dangos cefnogaeth ar gyfer parhau â Taith ac ar gyfer ailymuno ag Erasmus+, gan gynnwys yn y gwaith sy’n mynd rhagddo ar yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru. Ar 3 Mehefin, dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn falch iawn fod Cymru wedi gallu cyflwyno ei rhaglen Taith ei hun, ond y byddai’n well o lawer pe gellid gwneud hynny ar lefel y DU hefyd.
Nid yw ‘Common Understanding’ ond yn dweud bod y DU a’r UE yn cydnabod gwerth teithio a chynlluniau cyfnewid diwylliannol ac artistig, gan gynnwys gweithgareddau artistiaid teithiol, ac y byddant yn parhau i gefnogi teithio a chyfnewid diwylliannol.
Mae adroddiad pwyllgor diwylliant a chysylltiadau rhyngwladol y Senedd, Sioc Ddiwylliannol, a gyhoeddwyd yn 2024, yn rhoi darlun digalon ar gyfer y sector creadigol o golli cyfleoedd, llai o weithgarwch, costau uwch a cholli incwm ar ôl Brexit.
Bydd y rhai sy'n gobeithio am welliannau yn siomedig nad yw ‘Common Understanding’ yn mynd ymhellach.
Masnach
Mae'r DU a'r UE wedi cytuno i ddatblygu trefniadau masnach newydd ar gyfer cynhyrchion penodol. Defnyddiwch y cwymplenni i gael gwybod mwy.
Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am fioddiogelwch, diogelwch bwyd a rheolaethau iechydol a ffytoiechydol yng Nghymru. Mae rheolaethau iechydol a ffytoiechydol yn diogelu iechyd anifeiliaid, iechyd planhigion ac iechyd y cyhoedd.
Mae tystiolaeth y Senedd yn dangos cefnogaeth ar gyfer cytundeb iechydol a ffytoiechydol rhwng y DU a'r UE, a allai leihau neu hyd yn oed gael gwared ar yr angen am reolaethau iechydol a ffytoiechydol. Mae pwyllgor masnach y Senedd wedi canfod y gallai cytundeb iechydol a ffytoiechydol olygu efallai na fydd angen y Safleoedd Rheolaethau’r Ffin newydd yn Abergwaun, Doc Penfro a Chaergybi, sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ym mis Ionawr 2024, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl na fyddai costau pellach Safleoedd Rheolaethau’r Ffin yn fwy na £70 miliwn. Mae ei chyllideb ar gyfer 2025-26 yn cynnwys cyfraniad gan Lywodraeth y DU o £28.96 miliwn o gyfalaf a £357,000 o refeniw.
Mae ‘Common Understanding’ yn dweud y dylai cytundeb iechydol a ffytoiechydol yn y dyfodol gael gwared ar ofynion penodol, fel tystysgrifau iechyd allforio, a gwrthdroi gwaharddiadau ar allforio cynhyrchion fel pysgod cregyn a thatws hadyd.
Dylai sicrhau bod yr un rheolau'n gymwys bob amser rhwng y DU a'r UE. Er mwyn i hynny ddigwydd, byddai'r DU yn dilyn rheolau presennol yr UE a’i reolau yn y dyfodol, a elwir yn aml yn 'gydweddu deinamig'.
Mae ein herthygl ar gydweddu â’r UE yn egluro sut y gallai'r dull hwn greu diffyg democrataidd oherwydd nad yw'r DU wedi'i chynrychioli yn sefydliadau'r UE. Fodd bynnag, mae ‘Common Understanding’ yn dweud y gall y DU roi ei barn ar bolisi a deddfwriaeth yr UE yn gynnar yn y broses.
Bydd rhaid i’r DU hefyd wneud cyfraniad ariannol priodol i gefnogi gwaith yr UE.
Os bydd anghydfodau’n codi, bydd panel cymrodeddu annibynnol, a Llys Cyfiawnder yr UE fydd yr awdurdod pennaf ar gyfraith yr UE.
Nid yw'n glir sut y byddai hyn i gyd yn cael ei reoli'n fewnol yn y DU lle y mae cyfrifoldebau wedi'u datganoli. Mae’r cwestiynau allweddol y cynnwys sut y byddai’r llywodraethau datganoledig yn cyfrannu, a fyddai rhaid iddynt wneud cyfraniad ariannol, a sut y byddai penderfyniadau'n dryloyw i’r seneddau. Mae’r Senedd wedi codi pryderon ynghylch tryloywder proses gwneud penderfyniadau’r DU a'r UE.
Bydd mynediad cilyddol llawn at ddyfroedd i bysgota ynddynt yn parhau tan 30 Mehefin 2028.
Mae trefniadau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu o ran pysgodfeydd yn arwyddocaol i'r holl berthynas rhwng y DU a'r UE. Gellir dod â’r trefniadau hynny i ben unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig, ond byddai gwneud hynny hefyd yn dod â threfniadau’r DU a’r UE ar fasnach, hedfan a thrafnidiaeth ffordd i ben ymhen naw mis o ddyddiad yr hysbysiad.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bysgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod ym mharth Cymru, a rhoddwyd cymhwysedd deddfwriaethol llawn ar eu cyfer i’r Senedd yn Neddf Pysgodfeydd 2020.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai wedi hoffi gweld mwy o drafod ar yr hyn y cytunwyd arno ynghylch pysgodfeydd ond croesawodd y posibilrwydd o wrthdroi'r gwaharddiad ar allforion pysgod cregyn i'r UE. Pe bai hynny’n cael ei negodi, byddai’n dod o dan y cytundeb iechydol a ffytoiechydol arfaethedig yn hytrach nag o dan ddarpariaethau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu o ran pysgodfeydd.
Mae ein canllaw’n esbonio’r hyn y mae trefniadau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer pysgodfeydd yn ei olygu i Gymru.
Ynni
Mae'r DU a'r UE wedi cytuno i estyn eu cydweithrediad ar ynni. Defnyddiwch y cwymplenni i gael gwybod mwy.
Cytunodd y DU a'r UE i edrych ar gyfranogiad y DU ym marchnad drydan sengl yr UE, gan gynnwys llwyfannau masnachu’r UE.
Fel gyda'r cytundeb iechydol a ffytoiechydol uchod, dylai cytundeb trydan sicrhau bod y DU yn cydweddu’n ddeinamig â'r UE – sy'n golygu y byddai'r DU yn dilyn rheolau presennol yr UE a’i reolau yn y dyfodol. Dylai barchu rôl Llys Cyfiawnder yr UE o fewn mecanwaith datrys anghydfodau sy'n seiliedig ar gymrodeddu a chaniatáu i'r DU gyfrannu at wneud penderfyniadau.
Dywedodd y Prif Weinidog y gallai hyn “helpu i ostwng biliau yn y wlad hon”.
Dylai'r DU a'r UE weithio tuag at gysylltu eu systemau masnachu allyriadau drwy gytundeb newydd a ddylai eithrio nwyddau'r DU a'r UE rhag Mecanweithiau Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau y naill a’r llall.
Fel gyda'r cytundebau newydd arfaethedig ar faterion iechydol a ffytoiechydol ac ar drydan, dylai’r cytundeb cysylltu sicrhau bod y DU yn cydweddu’n ddeinamig â'r UE, sy'n golygu y byddai'r DU yn awtomatig yn dilyn rheolau presennol yr UE a’i reolau yn y dyfodol.
Ar gyfer y cytundeb cysylltu:
- gall y DU roi ei barn ar bolisi a deddfwriaeth yr UE yn gynnar yn y broses; a
- rhaid i’r DU wneud cyfraniad ariannol priodol i gefnogi gwaith yr UE.
Os bydd anghydfodau’n codi, bydd panel cymrodeddu annibynnol, a Llys Cyfiawnder yr UE fydd yr awdurdod pennaf ar gyfraith yr UE.
Casgliad
Mae ‘Common Understanding’ yn dangos y ffordd ar gyfer y cam nesaf yn y berthynas rhwng y DU a'r UE.
Yn gyntaf, mae'n gosod trywydd ar gyfer negodiadau yn y dyfodol. Yn ail, mae'n ymddangos yn anochel bellach y bydd cynnydd mawr yn nifer y cytundebau rhwng y DU a'r UE wrth i'r negodiadau esgor ar sawl trefniant newydd. Mae'r dull gweithredu hwn yn bwysig oherwydd bod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn gosod rheolau ar gyfer y cytundebau rhwng y DU a'r UE a ddaw ar ei ôl, fel sut y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.
Un agwedd sydd o bwys mawr i'r gwledydd datganoledig yw beth fydd eu rôl nhw. Un arall yw sut y bydd y trefniadau newydd yn gweithio'n ymarferol: a fyddant yn disodli'r hyn sydd eisoes ar waith neu a fyddant yn ychwanegol ato?
Ac er ei fod, yn ôl pob golwg, yn cymryd camau tuag at leihau rhwystrau i rai, nid yw'n cwmpasu pob sector. Mae ‘Common Understanding’ yn gam digynsail tuag at gydweddu â'r UE ers ymadawiad y DU, ac mae'n siŵr y bydd yn sbarduno dadlau dwys ar flaenoriaethau ar ôl Brexit ac ar gyfaddawdu arnynt.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.