Mae Llywodraeth y DU a'r UE wedi bod yn trafod cynlluniau i wella symudedd pobl ifanc, gan gynnwys cynllun profiad ieuenctid, o dan eu cytundeb Cyd-ddealltwriaeth yn 2025. Y bwriad oedd y byddai’r trafodaethau’n dod i ben yn Uwchgynhadledd y DU a'r UE ar 22 Gorffennaf.
Cafodd yr uwchgynhadledd ei gohirio ar ôl ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Keir Starmer AS, ond y gred yw bod y trafodaethau’n dal i fynd rhagddynt. Mewn galwad rhwng y Prif Weinidog newydd, Andy Burnham AS, a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, cytunwyd y dylai eu timau gydweithio’n agos i baratoi ar gyfer Uwchgynhadledd y DU a'r UE yn ddiweddarach eleni.
Mae'r erthygl hon yn asesu'r cynnydd a wnaed o ran yr ymrwymiadau ar symudedd pobl ifanc yn y cytundeb Cyd-ddealltwriaeth ac mae’n edrych ar yr hyn y mae’r datblygiadau'n ei olygu i Gymru a'i rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu, Taith.
Cytuno ar ymrwymiadau newydd yn 2025
Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd y DU a'r UE gytundeb Cyd-ddealltwriaeth newydd sy'n cwmpasu'r pum maes a ganlyn:

Mae’r cytundeb Cyd-ddealltwriaeth yn cynnwys ymrwymiadau i wneud y canlynol:
- gweithio tuag at gynllun profiad ieuenctid cytbwys; a
- gweithio tuag at gysylltiad y DU â rhaglen Erasmus+ yr UE.
Mae'r ddau’n faterion hirsefydlog sy’n codi yn y berthynas rhwng y DU a'r UE. Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau yn y gorffennol ar gael yn ein herthygl flaenorol ar symudedd pobl ifanc rhwng y DU a'r UE.
Cynnydd o ran Erasmus+
Cyhoeddodd y DU a'r UE ym mis Rhagfyr 2025 y byddai'r DU yn gysylltiedig â rhaglen Erasmus+. Mae hyn yn para hyd at flwyddyn academaidd 2027/28. Ar ôl hynny, bydd rhaid ailnegodi parhad cysylltiad y DU oherwydd bod rhaglen Erasmus+ yn gweithredu o dan Fframwaith Ariannol Amlflwydd yr UE. Dyma gynllun gwariant saith mlynedd yr UE, ac mae cynllun 2028-34 wrthi’n cael ei negodi.
Ym mis Rhagfyr 2025, dywedodd y cyn Weinidog dros Swyddfa’r Cabinet, Nick Thomas-Symonds AS, y byddai cyfranogiad y DU yn y rhaglen yn cael ei adolygu 10 mis ar ôl i’r DU ddod yn gysylltiedig â hi, ac y byddai penderfyniadau ynghylch parhau â’r cysylltiad yn seiliedig ar y data hynny a phrofiad y DU o fod yn gysylltiedig â’r rhaglen yn 2027.
Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru fod cysylltiad ag Erasmus+ yn un o'i phrif flaenoriaethau. Dywedodd y cyn Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, fod Llywodraeth Cymru yn falch o’r canlyniadau o ran Erasmus+, ond ei bod am weld cynnydd yn awr o ran cynllun profiad ieuenctid.
Cynnydd yn arafu o ran cynllun profiad ieuenctid
O gymharu ag Erasmus+, mae’r trafodaethau ynghylch cynllun profiad ieuenctid wedi wynebu mwy o anawsterau. O gymharu â'r rhaglen addysgol strwythuredig y mae Erasmus+ yn ei darparu, mae cynllun profiad ieuenctid fel arfer yn cyfeirio at gynllun hyblyg sy'n caniatáu i bobl ifanc deithio a gweithio dramor. O’r herwydd, mae’r trafodaethau’n fwy cymhleth, gyda'r ddwy ochr yn ôl pob sôn yn gwrthod rhai o brif ofynion y naill a’r llall.
Roedd yr UE yn awyddus i negodi trefniant lle byddai myfyrwyr yr UE yn talu ffioedd domestig ym mhrifysgolion y DU, sy'n is na ffioedd rhyngwladol, sef yr hyn a oedd yn digwydd cyn Brexit. Blwyddyn academaidd 2020/21 oedd y tro olaf i fyfyrwyr yr UE a oedd yn dechrau cwrs gradd fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol a ffioedd myfyrwyr cartref y DU. Ers hynny, gwelwyd 58% yn llai o fyfyrwyr o'r UE rhwng 2020/21 a 2024/25. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein herthygl ar gyllid addysg uwch.
Mae'r DU wedi bod yn ceisio rhoi cap ar nifer gwladolion yr UE sy'n gymwys i gymryd rhan mewn cynllun. Mae gan y DU eisoes gynlluniau profiad ieuenctid gyda 13 o wledydd eraill, sy’n caniatáu i'r rhai sydd â'r fisâu perthnasol ddod i'r DU am hyd at ddwy flynedd. Mae’r cynlluniau hyn hefyd yn cynnwys cwota blynyddol ar gyfer y fisâu a roddir. Dywedodd Nick Thomas-Symonds AS y dylai cynllun yr UE fod yn gydnaws â chynlluniau’r DU sydd eisoes ar waith.
Mater arall, y cyfeiriodd yr Athro Catherine Barnard a Denzil Davidson ato, yw nad oes gan yr UE ei hun bŵer dros dderbyn gwladolion trydydd gwledydd i weithio yn yr UE. Mae'r pŵer hwnnw yn nwylo'r Aelod-wladwriaethau. Mae gan yr UE bwerau i lunio cytundebau ar drefniadau cyfnewid i bobl ifanc o ran astudio, ymchwil, hyfforddiant, gwasanaeth gwirfoddol a threfniadau cyfnewid i ddisgyblion ond nid ar gyfer gweithio. Mae'r Athro Barnard a Denzil Davidson yn dadlau y gallai hyn greu anawsterau i'r UE o ran cyflwyno a gweithredu cynllun profiad ieuenctid sy'n cyflawni'r ymrwymiad yn y cytundeb Cyd-ddealltwriaeth.
Cynlluniau symudedd pobl ifanc sydd eisoes ar waith
Ar ôl pleidlais Brexit ac ymadawiad y DU ag Erasmus+, sefydlodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynlluniau symudedd pobl ifanc, sef Turing a Taith yn y drefn honno. Mae'r naill gynllun a’r llall yn cefnogi trefniadau cyfnewid a symudedd rhyngwladol ledled y byd, nid dim ond yn yr UE, ond maent yn gweithio’n wahanol o ran y ffordd y’u cyflwynir ac o ran eu strwythur.
Yn sgil cysylltiad y DU ag Erasmus+ ar ôl Brexit, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd Cynllun Turing yn weithredol ym mlwyddyn academaidd 2027 i 2028, pan fydd lleoliadau Erasmus+ yn dechrau.
Cafodd cyllid Taith ei estyn tan 2028 gan Lywodraeth flaenorol Cymru ond bydd y prosiectau olaf o dan y rhaglen yn cael eu cynnal rhwng mis Medi 2026 a mis Awst 2027. O ran y rhaglen, nid yw Llywodraeth newydd Cymru ond wedi dweud ei bod yn “ystyried opsiynau ar gyfer… y dyfodol.”
Gallwch ddarllen rhagor am fanylion y cynlluniau isod.
Yn 2021, lansiodd Llywodraeth flaenorol y DU Gynllun Turing, sy’n ariannu prifysgolion, colegau ac ysgolion yn y DU a Thiriogaethau Tramor Prydeinig i ddarparu lleoliadau rhyngwladol i fyfyrwyr.
Lansiodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu, Taith, yn 2022. Mae Taith yn cynnig cyfleoedd cyfnewid ar draws addysg oedolion, addysg bellach ac addysg uwch, ysgolion a gwaith ieuenctid, a’i nod yw gwella mynediad ar gyfer pobl o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol.
Siaradodd Susana Galván Hernández, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith, â phwyllgor y Chweched Senedd a oedd â chyfrifoldeb am gysylltiadau rhyngwladol ynghylch goblygiadau ailymuno ag Erasmus+ a llwyddiant Taith o gymharu ag Erasmus+ yng Nghymru. Dywedodd:
the number of Welsh organisations applying for Taith funding has been much, much higher than they ever were for Erasmus. So, my biggest nightmare at the moment is that we go back to Erasmus […] but the learnings from Taith are lost completely.
Yn ôl gwerthusiad interim o raglen Taith:
- rhagwelir y bydd yn cyflawni llawer mwy o gyfnewidiadau nag a gyflawnwyd gan Erasmus+ yng Nghymru dros gyfnod cymharol;
- mae wedi perfformio'n arbennig o gryf o ran ymgysylltu â chyfranogwyr ifanc o gymharu ag Erasmus+, sy’n dangos llwyddiant y rhaglen o ran ymgysylltu â sectorau addysg anffurfiol a rhai llai profiadol; ac
- mae wedi llwyddo i ymgysylltu â nifer cadarnhaol o sefydliadau, ac mae’r ffaith bod mwy na’r disgwyl wedi ceisio am y rhaglen a bod ceisiadau wedi dod i law o gronfa sylweddol fwy o sefydliadau o gymharu ag Erasmus+ dros gyfnod cymharol yn tystio i hynny.
Gyda chyfranogiad yn Erasmus+ wedi'i sicrhau a chynllun profiad ieuenctid arfaethedig, bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru ystyried rôl Taith, neu unrhyw raglen a allai olynu Taith, o ran creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl ifanc.
Beth nesaf o ran symudedd pobl ifanc yng Nghymru?
Mae datblygiadau diweddar yn y trafodaethau rhwng y DU a'r UE yn dynodi newid sylweddol yn y ffordd y mae’r DU yn ymdrin â symudedd pobl ifanc a rhaglenni cyfnewid addysgol ar ôl Brexit, er nad yw union natur y cynlluniau hyn wedi dod i’r amlwg eto.
Mae cwestiynau pwysig i'w hateb o hyd ynghylch dyfodol rhaglen benodol i Gymru. Gyda'r alwad ariannu olaf o dan Taith wedi’i gwneud, bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru wneud penderfyniadau cynnar wrth iddi baratoi i gyflwyno ei chynigion ar gyfer cyllideb ddrafft 2027-28 yn yr hydref.
Gallai'r rhain gynnwys penderfynu a ddylid parhau i ariannu Taith neu raglen olynol, sut y bydd unrhyw gynllun Cymreig yn cyd-fynd â chynllun newydd rhwng y DU a'r UE, a sut i sicrhau y gellir manteisio ar y gwersi pwysig a ddysgwyd yn sgil Taith a sicrhau eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn y dirwedd newydd hon.
Erthygl gan Maddy Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru