Archwilio etholaethau'r Cynulliad gyda WISERD DataPortal

Cyhoeddwyd 07/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

07 Tachwedd 2016 Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Sam Jones, WISERD. View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Rhaglen gwe yw WISERD DataPortal sy'n cynorthwyo ymchwilwyr i chwilio, canfod a mapio data ymchwil sosio-economaidd sy'n ymwneud â Chymru. Pwrpas y rhaglen yw annog pobl i ailddefnyddio ac addasu data sydd eisoes yn bodoli. Ym mis Rhagfyr 2015, cytunodd y sefydliad ymchwil rhyng-golegol, WISERD, i gydweithio â Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu'r DataPortal. Roedd y datblygiad hwn yn cynnwys rhyngwyneb newydd ar gyfer gwe-fapio sy'n canolbwyntio ar leoliad etholaethau'r Cynulliad. Pam datblygu rhyngwyneb y Cynulliad? Diben y rhyngwyneb newydd yw caniatáu i ymchwilwyr, staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad bori drwy ystod eang o ddata allweddol sy'n ymwneud ag etholaethau a rhanbarthau'r Cynulliad. Mae'r data sydd ar gael yn cynnwys canlyniadau etholiadau'r Cynulliad ynghyd â data sy'n ymwneud â phoblogaeth, yr economi, addysg, iechyd, tai a hygyrchedd. Mae rhyngwyneb Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwbl ddwyieithog a gellir cael mynediad ato yma . Nodweddion ychwanegol y mae WISERD DataPortal yn eu cynnig Yn ogystal â rhyngwyneb newydd a ddatblygwyd ar gyfer y Cynulliad, mae WISERD DataPortal yn cynnig nifer o nodweddion eraill trwy'r rhyngwyneb arferol. Mapio data o wasanaethau data Mae gwasanaethau data, fel NOMIS a StatsCymru, yn cynnwys llawer iawn o ddata ac ystadegau sy'n ymwneud â Chymru, fel ystadegau'r farchnad lafur, data'r Cyfrifiad a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Gellir defnyddio'r nodwedd Data o Bell ar WISERD DataPortal i chwilio'r data o fewn y gwasanaethau hyn trwy ddefnyddio geiriau allweddol a mapio ar sail lleoliad - hyn oll gan ddefnyddio'r un rhyngwyneb. Gellir mapio ffiniau daearyddol, pethau o ddiddordeb (fel lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus) a setiau data amgylcheddol drwy'r DataPortal, a hynny wedi'i wneud yn hygyrch gan Lywodraeth Cymru ac Adnoddau Naturiol Cymru. Mapio Data Personol Yn ogystal â chwilio data ynghylch pobl eraill, gall defnyddwyr fapio data personol sydd wedi'i gadw mewn taenlenni ar eu peiriant lleol, a hynny trwy ddefnyddio WISERD DataPortal. Gellir mapio data sy'n ymwneud ag ardaloedd yng Nghymru, fel Awdurdodau Lleol, etholaethau'r Cynulliad, rhanbarthau'r Cynulliad a gellir gweld mannau wrth eu cod post. Mae'r nodwedd hon wedi'i chreu'n arbennig ar gyfer mapio o fewn porwr gwe'r defnyddiwr, yn hytrach nag ar weinydd WISERD DataPortal. Golyga hyn na fydd data a all fod yn sensitif yn gadael peiriant y defnyddiwr ei hun. Chwilio Metaddata Yn ogystal â'r nodweddion ar gyfer mapio data, mae WISERD DataPortal yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio a chanfod metaddata ynghylch cydymffurfio â safonau sy'n ymwneud ag ystod eang o arolygon a gynhaliwyd gan y llywodraeth a sefydliadau eraill. Dylai'r nodwedd hon annog pobl i ailddefnyddio data'r arolygon cyfredol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am WISERD DataPortal yma. Ciplun o ryngwyneb Porth Data WISERD y Cynulliad Beth yw WISERD? Menter gydweithredol yw Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru, neu WISERD (Wales Institute of Social Economic Research Data and Methods) rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y sefydliad yma.