Cyllideb Llywodraeth Cymru: Beth am gael golwg ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21 gyda’n delweddu rhyngweithiol

Cyhoeddwyd 18/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Cyllideb 2020-21 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae’n amlinellu faint o arian sydd wedi’i ddyrannu i’r Llywodraeth a’i hadrannau a’i hasiantaethau cysylltiedig, fel, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Cyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21 ar 16 Rhagfyr 2019.

Defnyddiwch y diagram rhyngweithiol isod i edrych ar ddyraniadau’r Gyllideb Ddrafft.

Cliciwch yma i symud
  Cyllideb 2020-21 (arian parod)
  Newid canran ar 2019-20 (arian parod)
  Newid canran ar 2019-20 (termau real)

 

  £ Miliwn
Cyllideb Ddrafft 2020-21:  
Cyllideb Ddrafft 2020-21
(ym mhrisiau 2019-20):
 
Cyllideb Atodol
Gyntaf 2019-20:
 
Newid 2020-21 ar 2019-20
Arian parod Termau real
   
   

Cliciwch yma os ydych am ddefnyddio fersiwn fwy hygyrch, neu os nad yw’r cynnwys yn llwytho.

Mae’r diagram rhyngweithiol yn caniatáu ichi weld dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft ar wahanol lefelau, o’r portffolio i’r Llinell Gwariant yn y Gyllideb (sef, y lefel fwyaf manwl sydd ar gael).

Y gwerthoedd a ddangosir yw refeniw ynghyd â dyraniadau cyfalaf. Caiff maint pob cylch ei raddio yn ôl ei gyfran o lefel y Gyllideb. Mae’r lliwiau’n cynrychioli portffolios gwahanol. Rhoddir rhagor o fanylion yn y gwymplen ‘Gwybodaeth am y Gyllideb’.

O dan ‘gweld opsiynau’, gallwch ddewis cymhariaeth o’r Gyllideb â’r flwyddyn ariannol flaenorol (y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2019-20). Gellir arddangos newid canrannol arian parod neu mewn termau real.

Yn y golygfeydd hyn, mae lliwiau’r cylch yn goch ar gyfer gostyngiad ac yn las ar gyfer cynnydd, gydag arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canrannol mwy. Graddfa maint y cylch gyda’r newid absoliwt.

Gellir llwytho’r daflen ddata, sy’n cynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd, oddi ar y we yma.

Cliciwch yma i weld amserlen y gyllideb.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Joe Wilkes a Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.