Cafodd y Gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21 ei chyhoeddi ar 25 Chwefror. Ychydig iawn o newidiadau sydd o'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21. Mae ynagynnydd net mewn arian refeniw a dyraniadau cyfalaf o £4 miliwn, neu 0.02 y cant o gyfanswm y gyllideb a ddyrannwyd.
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i gael rhagor o fanylion am sut mae'r gyllideb yn cael ei dyrannu. Gellir gwneud cymariaethau â'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2019-20, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020.
Cyllideb 2020-21 (arian parod) | |
Newid canran ar 2019-20 (arian parod) | |
Newid canran ar 2019-20 (termau real) |
£ Miliwn | |
Cyllideb Derfynol 2020-21: | |
Cyllideb Derfynol 2020-21 (ym mhrisiau 2019-20): |
|
Ail Gyllideb Atodol 2019-20: |
Arian parod | Termau real |
Mae dogfen y gyllideb yn nodi bod gallu Llywodraeth Cymru i wneud dyraniadau cyllidebol ychwanegol yn y gyllideb derfynol hon wedi’i lyffetheirio gan y risg y bydd Cyllideb y DU, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 11 Mawrth, yn arwain at newidiadau sylweddol i'r gyllideb sydd ar gael i Gymru.
Gwnaeth Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ymrwymiad i wneud datganiad cynnar ar oblygiadau Cyllideb y DU ar ragolygon treth, gan roi manylion am gyllid canlyniadol i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried yr argymhellion y mae Pwyllgorau'r Cynulliad wedi'u gwneud wrth graffu ar y Gyllideb Ddrafft, a bydd yn ymateb cyn y ddadl ar y gyllideb derfynol ar 3 Mawrth.
Mae cyfeiriad at y £10 miliwn a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer rhyddhad brys mewn ymateb i’r llifogydd, ond dim ond y gallai rhywfaint o'r gwariant hwn ymestyn i mewn i flwyddyn ariannol 2020-21. Felly, nid oes unrhyw newid i’r cyllid sy'n gysylltiedig â'r llifogydd diweddar yn y gyllideb derfynol. Fodd bynnag, disgwylir i'r costau sy'n gysylltiedig â'r difrod o lifogydd fod yn sylweddol yn y tymor hwy. Byddai unrhyw gymorth ariannol pellach yn cael ei gyhoeddi wedi hynny a'i gynnwys mewn cyllideb atodol yn y dyfodol.
Mae rhagor o fanylion am newidiadau eraill ar gael yn Nogfen naratif y Gyllideb Derfynol a thablau cyllidebol cysylltiedig, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Beth mae'r adnodd yn ei ddangos?
Mae'r ddelwedd ryngweithiol yn caniatáu i chi weld dyraniadau o’r gyllideb ddrafft ar wahanol lefelau, o'r portffolio i lawr i’r llinell wariant yn y gyllideb (sef y lefel fwyaf manwl).
Y gwerthoedd a ddangosir yw’r refeniw ynghyd â dyraniadau cyfalaf. Mae maint pob cylch yn cyfateb i’r gyfran o’r gyllideb. Mae'r lliwiau'n cynrychioli gwahanol bortffolios. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y gwymplen 'Gwybodaeth am y Gyllideb'.
O dan 'gweld opsiynau', gallwch ddewis cymhariaeth o'r gyllideb â'r flwyddyn ariannol flaenorol (yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2019-20). Gallwch ddewis gweld y newid canrannol o ran arian parod neu’r newid canrannol mewn termau real.
Caiff y cylchoedd eu lliwio’n goch i ddynodi gostyngiad ac yn las i ddangos cynnydd, gyda lliw tywyllach yn dynodi newid canrannol mwy. Mae maint y cylchoedd yn adlewyrchu’r newid absoliwt.
Gellir llwytho’r daflen ddata, sy’n cynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd, oddi ar y we yma.
Erthygl gan Joe Wilkes a Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.