Ar y trywydd iawn? Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd

Cyhoeddwyd 21/10/2026   |   Amser darllen munud

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) yn gyfleuster profi rheilffyrdd arfaethedig sydd wedi'i leoli yn Nant Helen ac Onllwyn ar y ffin â Chastell-nedd Port Talbot a Phowys, a fyddai'n cael ei ategu gan gyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, canolfan ddata, gwesty a pharc technoleg. Mae'r gwaith ar y GCRE yn cael ei wneud gan GCRE Ltd, cwmni a sefydlwyd ac sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y prosiect gyntaf yn 2018, ac mae wedi cael £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £20 miliwn gan Lywodraeth y DU fel cyfraniad at ei gostau cyffredinol. Fodd bynnag, nid yw'r prosiect eto wedi sicrhau'r cyllid preifat angenrheidiol i fwrw ymlaen, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei ddyfodol.

Wrth i Bwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd y Senedd ddechrau darn byr o waith ar y GCRE, mae ein herthygl yn amlinellu'r cynigion ar gyfer y prosiect, yr heriau wrth symud y prosiect yn ei flaen, a'r datblygiadau diweddar.

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y GCRE?

Bwriedir i GCRE fod yn gyfleuster profi rheilffyrdd sy'n darparu ‘siop un stop’ ar gyfer profi cerbydau rheilffyrdd newydd a chefnogi gwaith ymchwil, datblygu ac ardystio seilwaith, technolegau, prosesau a sgiliau newydd. Bwriedir hefyd ddatblygu seilwaith ynni a chanolfan ddata ar y safle, ynghyd â gwesty a pharc technoleg. Ei nod yw cyflawni pedair cenhadaeth:

  • Ailadeiladu ffyniant lleol mewn cymuned yr effeithiwyd arni gan ddad-ddiwydiannu gan greu bron i 1,400 o swyddi yn ystod deng mlynedd gyntaf ei gweithrediad.
  • "Gwneud trafnidiaeth yn well" drwy ddatblygu “cyfleuster sy’n unigryw yn rhyngwladol am arloesedd ym maes rheilffyrdd a symudedd cynaliadwy”.
  • Arwain y ffordd gyda rheilffordd sero net gyntaf y DU a gaiff ei phweru gan ynni adnewyddadwy ar y safle ac a gaiff ei hadeiladu'n bennaf o ddeunyddiau wedi'u hailddefnyddio neu'u hailgylchu.
  • Adnewyddu "lle anhygoel" trwy adfywio hen safle maes glo a gwella bioamrywiaeth er mwyn helpu i greu cyrchfan ddeniadol i'r gymuned ac ymwelwyr.

Mae GCRE yn honni nad yw ei gynigion ar gyfer ‘siop un stop’ ar gyfer profi ac arloesi ym maes rheilffyrdd yn bodoli "ar un safle yn y DU nac yn Ewrop”. Mae’n dweud bod cyfleusterau profi cerbydau Ewrop yn “gyfyngedig o ran cwmpas ac nid ydynt yn gallu bodloni’r galw mawr”, a bod y cyfleuster profi seilwaith pwrpasol agosaf yn Colorado, UDA. Mae'r Rail Forum, sy'n cynrychioli bron i 400 o aelodau yn y DU gan gynnwys GCRE Ltd, yn dweud bod ei aelodau ar hyn o bryd yn gorfod "dod o hyd i opsiynau workaround aneffeithlon a llafurus i brofi cynhyrchion, systemau ac integreiddio systemau".

Dywed GCRE fod mwy na 200 o gwmnïau, un o bob pump y tu allan i'r DU, wedi cymeradwyo'r prosiect arloesi rheilffyrdd, ac mae wedi cyhoeddi llythyr agored yn rhestru cefnogwyr. Mae sefydliadau rheilffyrdd fel Network Rail, Trafnidiaeth Cymru ac Hitachi wedi llofnodi cytundebau neu Femoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda GCRE.

O ran elfennau eraill y prosiect, cynhaliodd GCRE gystadleuaeth i ganfod partner ar gyfer yr elfen ynni a'r ganolfan ddata yn gynharach eleni. Mae'n gobeithio ymrwymo i gontract gyda phartner erbyn diwedd 2026, yn amodol ar ganiatâd gweinidogol a thrafodaethau masnachol parhaus.

Beth yw'r heriau wrth symud ymlaen â datblygu’r GCRE?

Mae GCRE Ltd yn gweithio i sicrhau buddsoddiad fel y bydd y sector preifat yn dal cyfran fwyafrifol yn y cyfleuster. Mae angen buddsoddiad preifat sylweddol er mwyn cwblhau'r cyfleuster profi ac arloesi rheilffyrdd. Ar hyn o bryd byddai hyn oddeutu £330 miliwn, er y gellid lleihau'r ffigur hwn drwy gyllid ychwanegol gan y llywodraeth neu drwy incwm a geir yn sgil adeiladu canolfan ddata ar safle'r GCRE. Nid oes unrhyw fuddsoddiad preifat wedi'i sicrhau hyd yma.

O ganlyniad, nid yw elfen reilffordd y GCRE wedi gwneud y cynnydd a fwriadwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru. O dan y cynlluniau gwreiddiol, disgwylid i'r GCRE fod yn gwbl weithredol erbyn haf 2025. Fodd bynnag, mae hynny bellach wedi'i ohirio tan 2030.

Mae GCRE yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â sicrhau buddsoddiad. Dywedodd ei bapur diweddar i Bwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd, fod darpar fuddsoddwyr wedi nodi dau brif reswm pam nad oeddent yn gallu ymrwymo i'r prosiect:

Y cyntaf oedd ansicrwydd ym marchnad rheilffyrdd y DU, gan gynnwys gwelededd cyfyngedig o biblinell yn y dyfodol a diffyg refeniw wedi’i ymrwymo y gellid ei warantu ar gyfer busnes GCRE. Roedd yr ail oherwydd amgylchedd macro economaidd ehangach y DU.

Yn ogystal, hyd nes bod y farchnad yn hyderus bod elfen reilffordd y GCRE yn barod i'w defnyddio erbyn dyddiad penodol, mae GCRE yn dweud na fydd “unrhyw gwsmeriaid yn gwneud ymrwymiad cytundebol i'w ddefnyddio”. Mae GCRE hefyd yn nodi bod y diffyg incwm dan gontract sy'n deillio o hynny yn "rhwystr mawr rhag codi cyllid preifat”.

Mae'r Rail Forum yn dweud bod maint y buddsoddiad yn rhy fawr i unrhyw gwmni unigol yn y diwydiant rheilffyrdd ei wneud, ac yn awgrymu y byddai natur gystadleuol y farchnad gweithgynhyrchu cerbydau rheilffyrdd yn gwneud cydweithio rhwng cwmnïau yn anodd. Felly, mae'n dadlau y byddai trydydd parti sy'n berchen ar y safle ac yn gweithredu'r safle yn caniatáu mynediad i'r diwydiant cyfan, gan ddileu risgiau i gwmnïau unigol, gyda manteision yn cael eu rhannu ar draws y diwydiant ac economïau lleol.

Gweithiodd Llywodraeth flaenorol Cymru gyda GCRE i archwilio sut y gellid lleihau risg y prosiect ymhellach drwy gyllid cyhoeddus ychwanegol neu warant gan y llywodraeth i sicrhau buddsoddiad preifat. Cyflwynodd GCRE Achos Busnes Rhaglen wedi'i ddiweddaru i Lywodraeth newydd Cymru ym mis Mehefin, ac mae'n disgwyl darparu diweddariad pellach yr hydref hwn.

Yn ddiweddar, mae GCRE wedi "newid ei strategaeth" i archwilio a all buddsoddiad preifat yn elfennau ynni a chanolfan ddata'r prosiect helpu i ariannu'r gwaith o adeiladu'r elfen reilffordd. Ni fyddai'r datblygiadau hyn yn gofyn am gymorth ariannol cyhoeddus, ac mae GCRE yn dweud y byddent yn “cynhyrchu derbyniad cyfalaf untro sylweddol”. Byddai hyn yn helpu i leihau cost adeiladu elfen reilffordd y prosiect.

Mae GCRE hefyd yn awgrymu y gallai adeiladu canolfan ddata ar y safle, yn y tymor hwy, "gynhyrchu refeniw Ardrethi Annomestig newydd sylweddol, y gellid ei ddefnyddio mewn egwyddor i ariannu'r rheilffordd heb unrhyw gost ychwanegol net i Lywodraeth Cymru”. Nid yw maint y refeniw y gellid ei godi yn hysbys eto, a byddai mabwysiadu'r dull hwn yn gofyn am gytundeb Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, gan ei fod yn wahanol i'r drefn arferol ar gyfer casglu ac ailddosbarthu incwm o ardrethi busnes.

Beth yw’r datblygiadau diweddaraf?

Mae Llywodraeth newydd Cymru yn adolygu dyfodol y GCRE, gyda'r Prif Weinidog yn dweud:

…mae'n rhaid i ni ddeall yr hyn sydd wedi digwydd gan fod y degau o filiynau o bunnoedd hynny wedi cael eu gwario ar y safle, a'r hyn efallai nad yw wedi digwydd i ganiatáu i ni fod mewn sefyllfa lle mae cyllid preifat yn barod ac yn gallu ac yn awyddus i ddod i mewn.

Rhoddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ddiweddariad pellach fis diwethaf, gan nodi:

Rydym wedi cael y cyngor arbenigol hwnnw, ac rydym bellach yn y broses o adolygu a thrafod beth yw'r potensial gyda buddsoddwyr posibl eraill. Mae safle cyflogaeth hynod bwysig yma, ac rydym yn edrych ar y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd fel opsiwn, ond yn edrych ar y sefyllfa yn ei chyfanrwydd hefyd.

Mae denu buddsoddiad preifat ar raddfa fawr i Flaenau'r Cymoedd wedi bod yn heriol ar adegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae GCRE yn cydnabod bod risgiau yn ogystal â chyfleoedd yn gysylltiedig â'r prosiect. Gyda’r Prif Weinidog yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru "wneud penderfyniad yn fuan” ynghylch dyfodol y GCRE, mae’r amser tyngedfennol yn nesáu. A fydd uchelgeisiau GCRE ar gyfer y safle yn cael eu gwireddu, neu a fyddant yn mynd oddi ar y cledrau?


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru