Llun o feicrosgop a thiwbiau profi, gyda gwyddonydd yn gweithio yn y cefndir.

Llun o feicrosgop a thiwbiau profi, gyda gwyddonydd yn gweithio yn y cefndir.

Ar y Gorwel: Golwg ar gyllid yr UE ar gyfer ymchwil, a Chymru

Cyhoeddwyd 20/11/2026   |   Amser darllen munud

Rhaglen flaenllaw yr UE ar gyfer ymchwil yw'r Rhaglen Fframwaith (FP) ar gyfer Ymchwil ac Arloesi. Mae'r rhaglen wedi bodoli ers 1984, gyda naw fersiwn hyd yma, a phob un yn cwmpasu cylch ariannu saith mlynedd. Ar hyn o bryd mae ar ganol y fersiwn FP9, a elwir yn Horizon Ewrop, sy'n parhau o 2021 hyd 2027 gyda chyllideb o €95.5 biliwn. Roedd ei ragflaenydd, Horizon 2020, ar waith o 2014 hyd 2020.

Mae’r rhaglen fframwaith wedi cefnogi gwaith ymchwil sylweddol yng Nghymru, gyda ffigurau’n dangos ei fod wedi sicrhau dros €400 miliwn ers 2022.

Fel rhan o Brexit, cytunodd y DU a'r UE y gallai'r DU gymryd rhan mewn rhai o raglenni'r UE ar ôl iddi adael y bloc. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y newid hwnnw yn y berthynas, a'r goblygiadau i sector ymchwil Cymru.

Cysylltiad y DU, a Chymru

Er bod y DU wedi negodi y bydd yn cymryd rhan yn Horizon ar ôl Brexit, fel rhan o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu , roedd angen iddi negodi telerau ei chysylltiad â'r rhaglen o hyd.

Cafodd cysylltiad y DU ei ohirio rhwng 2021-2023 tra bod y trafodaethau hyn yn digwydd. Rhoddwyd trefniadau trosiannol yn eu lle. Roedd hyn yn cynnwys Cynllun Gwarant a oedd yn darparu cyllid i'r rhai na allent ei gael o raglen Horizon Ewrop yn ystod proses gysylltu'r DU.

Daeth y DU a'r UE i gytundeb gwleidyddol ar y cysylltiad ym mis Medi 2023 a daeth y DU yn wladwriaeth gysylltiedig o fis Ionawr 2024 ymlaen. Nododd Llywodraeth Cymru ar y pryd fod ailymuno â Horizon yn flaenoriaeth, ac felly roedd yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn frwd. Dim ond drwy gysylltiad y DU y gall Cymru gymryd rhan yn Horizon. ac mae hyn wedi arwain at fod Cymru yn agored o ran trafodaethau ar lefel y DU a’r UE, ac mai cyfyngedig yw ei dylanwad dros y canlyniad.

Mae Cymru wedi sicrhau cyllid Horizon yn gyson, ac mae wedi dod yn ffynhonnell allweddol o gyllid ar ôl colli cronfeydd strwythurol yr UE, a oedd yn cyfrif am tua 80% o gyllid yr UE ar gyfer ymchwil cyn ymadael â’r UE (Brexit). Ar yr adeg y cytunwyd ar gysylltiad y DU, roedd Prifysgolion Cymru yn croesawu y datblygiad ac yn nodi pwysigrwydd cael mynediad at gydweithio rhyngwladol.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Adam Price AS, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, fod Cymru wedi ymuno â phrosiect UNITE, Dyffrynnoedd Iechyd Digidol Ewrop. Mae hwn yn brosiect a ariennir gan Horizon, sy'n cysylltu rhanbarthau Ewrop ar gyfer cefnogi datblygiad a chynnydd o ran “atebion gofal iechyd arloesol”. Galluogwyd cyfranogiad Cymru drwy gysylltiad y DU â Horizon Ewrop. Dywedodd y Gweinidog Cabinet hefyd mai dyma'r grant cyntaf gan yr UE y mae Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ers Brexit.

Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth ar gyfer ymchwil rhyngwladol a gweithgareddau arloesi drwy ei rhaglen Cymru Ystwyth. Nod Cymru Ystwyth yw cefnogi cydweithredu economaidd, ond mae hefyd yn darparu cymorth ariannol “gyda’r nod o ysgogi cyfranogiad Cymru yn […] Horizon Ewrop” ac mewn “ymchwil ac arloesi rhyngwladol tebyg, er enghraifft, cystadlaethau rhyngwladol UKRI, Eureka a COST”. Mae’r galwadau diweddaraf o ran cynigion ariannu Cymru Ystwyth yn cwmpasu prosiectau hyd at fis Mawrth 2027.

Nododd un o bwyllgorau’r Chweched Senedd, fel rhan o’i waith craffu ar y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, nad oedd cronfeydd newydd yr UE yn gymaradwy o ran gwerth a graddfa. Un enghraifft a roddwyd gan Mark Drakeford, y cyn Brif Weinidog, oedd bod Llywodraeth Cymru wedi cael fel a ganlyn:

€100 million in the last [EU inter-territorial cooperation budget]; all of that is gone. We are providing a very modest amount of money, £150,000, through Agile Cymru.

Cyllid o dan Horizon

Mae Ffigur un yn dangos y cyllid a ddyrannwyd i Gymru dros gyfnod o ddeng mlynedd, sef o 2014 hyd 2024. Mae'r cyfnod hwn yn cwmpasu Horizon 2020, Cynllun Gwarant y DU, a dechrau Horizon Ewrop. Mae'n dangos sut mae lefelau cyllido wedi newid dros y cyfnod ar ôl Brexit, hyd at gysylltiad y DU.

Ffigur 1: Cyllid a ddyrannwyd i Gymru o raglen Horizon a Chynllun Gwarant y DU (yn ôl gwerth, 2014-2024)

Siart llinell yn dangos dyraniad arian Horizon y DU a Gwarant y DU i Gymru rhwng 2014 a 2024.

Ffynhonnell:UK participation in EU Framework Programmes (Llywodraeth y DU, 2026)

Dros y cyfnod a ddangosir, dyrannwyd cyfanswm o tua €182 miliwn i Gymru. Cyrhaeddodd y cyllid a ddyrannwyd yn flynyddol uchafbwynt o €25 miliwn yn 2014 a gostyngodd i'w isafswm o €9 miliwn yn 2021.

Roedd cyllid yn tueddu i fod wedi lleihau yng Nghymru yn y blynyddoedd yn dilyn y bleidlais i ymadael â’r UE yn 2016, ac mae hyn yn cyd-fynd â dirywiad ehangach yng nghyllid Horizon y DU yn ystod y cyfnod hwnnw. Er hynny, bu cynnydd yn 2022, ac roedd hyn yn dilyn lansio Cynllun Gwarant y DU. Bu cynnydd sydyn yn 2024, ar ôl i'r DU gysylltu â'r rhaglen, ond nid oes digon o ddata ar gael eto i ddweud a yw hyn yn ddechrau adferiad cynaliadwy.

Mae ffigurau cyfredol ar gyfer Horizon Ewrop ar gael ar Ddangosfwrdd rhaglen Horizon. Mae'n dangos bod cyfraniad net yr UE i Gymru yn €37.2 miliwn, gyda thua 50 o sefydliadau unigryw yn cymryd rhan ers dechrau Horizon Ewrop. Cafodd y sector addysg uwch gyfran o 80%, sef cyfanswm o €29.8 miliwn. Prifysgol Caerdydd yw'r derbynnydd mwyaf, ar ôl sicrhau €22.9 miliwn, ac yna Prifysgol Abertawe gyda €4.3 miliwn.

Horizon Ewrop

Mae'r dewislenni isod yn edrych yn fanwl ar strwythur a chyllideb rhaglen Horizon Ewrop. Maent hefyd yn cwmpasu'r rhaglen olynol, a elwir ar hyn o bryd yn FP10.

Strwythur

Mae rhaglen fframwaith yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi wedi gweithredu mewn cylchoedd ariannu saith mlynedd er 1984, gyda Horizon Ewrop yn nawfed fersiwn ohoni. Lansiwyd y rhaglen hon yn 2020, ac mae hi i gau yn 2027. Mae'r strwythur presennol yn cynnwys tair colofn, y trefnir gweithgaredd oddi tanynt:

Bydd y rhaglen nesaf, a elwir yn FP10 ar hyn o bryd, yn cynnwys rhai newidiadau sylweddol, gan gynnwys ychwanegu pedwaredd golofn i’r Ardal Ymchwil Ewropeaidd.  Y bwriad yw y bydd y rhaglen hon hefyd yn gallu datblygu prosiectau 'uchelgeisiol a thrawsnewidiol’ a fyddai'n cefnogi defnyddio technolegau arloesol yn y byd go iawn.

Cyllideb

Mae Horizon yn gweithredu o dan gylch Fframwaith Ariannol Amlflwydd saith mlynedd yr UE. Mae cyllideb o €95.5 biliwn gan y rhaglen gyfredol. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau y bydd FP10 yn rhaglen annibynnol â chyllideb arfaethedig o €175 biliwn. Mae wedi pwysleisio y bydd FP10 wedi'i "chysylltu'n glos" i'r Gronfa Cystadleurwydd Ewropeaidd.

Mae cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhaglen 2028-34 yn cael eu cyd-drafod ar hyn o bryd. Mae anghydfodau rhwng sefydliadau wedi gohirio cytundeb ar y gyllideb gyffredinol a manylion y rhaglen newydd.

Unwaith y bydd telerau'r rhaglen newydd wedi'u cwblhau, bydd rhaid i'r DU hefyd drafod ei chysylltiad eto, fel y gwnaeth yn 2023.

Beth nesaf?

Wrth i Horizon Ewrop ddirwyn i ben, mae'r DU unwaith eto'n wynebu'r penderfyniad ynghylch a ddylid cysylltu â'r rhaglen nesaf ai peidio. Wrth siarad yn 2025, dywedodd yr Arglwydd Vallance o Balham, y Gweinidog Gwladol yn Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg y DU, fod Horizon “yn rhan bwysig iawn o’n system ariannu ac, ar yr amod ei bod yn agored, yn rhagorol ac yn werth am arian, a byddwn yn negodi i geisio bod yn rhan o FP10”.

Dim ond ar ôl i FP10 gael ei wneud yn derfynol y bydd y trafodaethau hynny'n digwydd. Gallai unrhyw ansicrwydd, fel yr hyn a welwyd yn ystod y cyfnod pontio o 2021 i 23, fod â goblygiadau difrifol i adferiad cynaliadwy cyllid ymchwil yr UE yng Nghymru.


Erthygl gan Maddy Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru