Ar ôl y llifogydd: myfyrio ar Stormydd Bert a Darragh

Cyhoeddwyd 15/01/2025   |   Amser darllen munudau

Ymhen pythefnos ar ddiwedd 2024, tarwyd Cymru gan Storm Bert a Storm Darragh. Cafodd cymunedau o Bontypridd i Gaergybi eu taro gan lifogydd, tirlithriadau, a gwyntoedd mawr. Mae’r erthygl hon yn archwilio gwaith rhagolygon stormydd, eu heffeithiau, ac ymatebion iddynt, ochr yn ochr â hinsawdd Cymru heddiw ac yn y dyfodol.

Stormydd a llifogydd yng Nghymru

Mae gan ogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru, hinsawdd gefnforol fwyn a glawog. Mae cerhyntau cefnfor cynnes a gwyntoedd gorllewinol yn cyfuno i greu systemau tywydd llawn lleithder ar dir, lle gallant greu stormydd. Yn Ynysoedd Prydain, mae stormydd yn digwydd yn amlach yn ystod y gaeaf.

Bum mlynedd yn ôl, achosodd Stormydd Ciara a Dennis lifogydd a gwyntoedd mawr yng Nghymru. Ymhlith yr effeithiau, cafwyd llifogydd helaeth ym Mhontypridd a chwymp rhannol o domen lo segur ger Pendyrus, Rhondda Cynon Taf. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â thomenni mwyngloddiau a chwareli segur, ac mae'n parhau i ariannu Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd sy’n gyfrifol am lifogydd prif afonydd. Mae'n cyhoeddi rhybuddion llifogydd pan fo rhagolygon yn awgrymu bod llifogydd yn debygol. Fe wnaeth CNC gyhoeddi cynlluniau rheoli perygl llifogydd ar gyfer pob rhanbarth o Gymru yn 2023.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn gorff sy'n eiddo i Lywodraeth y DU sy'n darparu'r Gwasanaeth Tywydd Cyhoeddus a'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rhybuddion Tywydd Garw. Mae'n cyhoeddi rhybuddion melyn, ambr a choch pan ragwelir tywydd aflonyddgar.

Storm Bert

Rhwng dydd Gwener 22 a dydd Llun 25 Tachwedd 2024, achosodd Storm Bert ddifrod difrifol yng Nghymru. Yng nghymoedd de Cymru, roedd cyfanswm y glaw yn ystod Storm Bert rhwng 50% a 100% o'r cyfartaledd a ddisgwylir drwy gydol mis Tachwedd. Fe wnaeth rhai afonydd, fel Afon Ebwy yn Aber-bîg, gyrraedd eu lefel uchaf a gofnodwyd erioed. Cafwyd llifogydd mewn mwy na 700 o eiddo ledled Cymru.

Mae’r graffig isod yn dangos sut y newidiodd lefelau dŵr mewn tair afon rhwng 21 Tachwedd a 12 Rhagfyr 2024. Mae'r rhychwant hwn yn cynnwys Storm Bert a Storm Darragh, sy'n cael eu hamlygu gan fariau fertigol.

Graffeg yn dangos dyfnder dŵr dros amser yn Afon Conwy, Afon Teifi, ac Afon Taf rhwng 21 Tachwedd a 12 Rhagfyr 2024. Gwelwyd cynnydd cyflym mewn lefelau dŵr ym mhob un o’r tair afon yn ystod Storm Bert, gan gyrraedd uchafbwynt ychydig yn is na’r lefelau uchaf erioed. Gostyngodd lefelau dŵr i'r ystod arferol ar ôl wythnos. Yn ystod Storm Darragh, cyrhaeddodd afonydd Conwy a Theifi lefelau tebyg i'r hyn a welwyd yn ystod Bert, ond dim ond tua hanner mor uchel oedd lefel uchaf Afon Taf.

Roedd llifogydd helaeth ar Afon Taf, a Phontypridd, a darwyd yn wael gan Storm Dennis yn 2020, oedd un o’r trefi yr effeithiwyd arni waethaf unwaith eto. Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf, a wnaeth ddatgan argyfwng, fod dros 2000 o eiddo wedi’u diogelu gan gynlluniau lliniaru llifogydd a’i fod wedi gwario mwy na £100m ar wella amddiffynfeydd rhag llifogydd ers Storm Dennis.

Yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, fe wnaeth tomen lo segur ddymchwel yn rhannol, gan olygu y bu’n rhaid gwacáu tua 40 o gartrefi wrth i graig a mwd lifo i strydoedd preswyl. Aseswyd y domen fel 'Categori D' (risg uchaf) gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (yr Awdurdod Glo gynt) yn ystod archwiliadau a gynhaliwyd ers tirlithriad Pendyrus yn 2020.

Agorodd llyncdwll mawr ar stryd breswyl ym Merthyr Tudful ar ôl i gwlfert tanddaearol o oes Fictoria gael ei ddifrodi gan glogfeini.

Yn y gogledd, bu farw un person mewn llifogydd yn Nhrefriw, Conwy.

Arweiniodd llifogydd a difrod i seilwaith at darfu eang ar y rheilffyrdd, gan gynnwys cau llinellau Calon Cymru a'r Gororau. Hefyd caewyd nifer o ffyrdd oherwydd llifogydd a thirlithriadau, gan gynnwys yr A479 ym Mhowys a'r A4042 yn Sir Fynwy.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer glaw dros y rhan fwyaf o Gymru cyn Storm Bert. Dyma'r isaf o'r tair haen o rybuddion tywydd, a gall naill ai olygu bod rhai effeithiau lefel isel yn debygol, neu y gallai effeithiau llawer mwy difrifol ddigwydd, ond gyda sicrwydd isel.

Fe wnaeth CNC gyhoeddi 131 o rybuddion llifogydd ar y bore dydd Sadwrn, yn cynnwys dau rybudd llifogydd difrifol ar Afon Mynwy yn Sir Fynwy.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 26 Tachwedd 2024, mynegodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd yr Wrthblaid ar y pryd, bryder na chyhoeddwyd haen uwch o rybudd tywydd, gan ddweud:

Nododd llawer o bobl yn rhai o'r ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw'n fwyaf difrifol ym Mhontypridd mai'r cyntaf iddyn nhw sylweddoli bod y llifogydd yn digwydd oedd pan oedd cymdogion yn mynd o dŷ i dŷ yn curo ar y drysau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, arweinydd Plaid Cymru, nad yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru “wedi dysgu'r gwersi” o lifogydd 2020.

Yn yr un sesiwn, Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog: “Rwy'n derbyn bod angen gwell rhybudd ar bobl, ac mae hynny yn rhywbeth, yn amlwg, y bydd angen ei drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Swyddfa Dywydd”.

Ym mis Rhagfyr 2024, dywedodd llefarydd ar ran CNC wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin:

In Storm Bert, it is true to say that there was a rapid escalation on that Saturday morning, which was because the weather systems hit some of the steep-sided rapid-responding catchments and valleys, such as the Taff catchment. It makes forecasting extremely difficult in those sorts of circumstances.

Ar ôl y storm, ariannodd Llywodraeth Cymru grantiau o £500 a £1000 i gartrefi yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Roedd rhai awdurdodau lleol hefyd yn cynnig cymorth ariannol – darparodd Cyngor Rhondda Cynon Taf grantiau o £1000 i drigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt.

Storm Darragh

Cyrhaeddodd Storm Darragh bythefnos ar ôl Storm Bert ac fe'i nodweddwyd gan wyntoedd cryf dros ben. Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd coch prin ar gyfer 'gweithredu' oherwydd gwynt ar hyd gorllewin Cymru ac arfordir Môr Hafren. Hefyd fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi rhybudd argyfwng dros y ffôn i'r rhai yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, gan nodi'r defnydd cyntaf o'r system hon yng Nghymru ers ei chyflwyno yn 2023.

Roedd difrod sylweddol i’r rhwydwaith dosbarthu trydan foltedd isel ledled Cymru, sy’n cyflenwi pŵer yn uniongyrchol i eiddo. Caiff y rhwydweithiau hyn eu cynnal gan gwmnïau preifat, sef National Grid Electricity Distribution (NGED) yn y de, a SP Energy Networks (SPEN) yn y gogledd.

Roedd oddeutu 95,000 o gartrefi heb bŵer ar 7 Rhagfyr. Dywedodd llefarydd NGED fod pŵer wedi'i adfer i bob cwsmer erbyn 14 Rhagfyr. Dywedodd SPEN fod llai na 500 o gwsmeriaid yn parhau i fod heb bŵer erbyn 12 Rhagfyr..

Cafodd pier Llandudno, sy’n 150 oed, ei ddifrodi wrth i sawl ciosg gael eu rhwygo o’u seiliau. Fe wnaeth rheolwr cyffredinol y pier ddweud y gallai gostio tua £250,000 i drwsio’r difrod.

Oherwydd difrod i seilwaith angori yn ystod Storm Darragh, bu’n rhaid cau Porthladd Caergybi yn gyfan gwbl am dros fis. Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wrth y Senedd yn ddiweddar y byddai’n “sefydlu tasglu aml-randdeiliad newydd i helpu i gyflawni strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Porthladd Caergybi”, gyda ffocws ar “newidiadau sy'n cael eu gyrru gan yr hinsawdd ym mhatrymau tywydd garw”.

Addasu i stormydd yn y dyfodol

Mae stormydd wedi digwydd erioed yn Ynysoedd Prydain, ond yn ystod y degawdau diwethaf mae dwyster glaw yn y gaeaf wedi cynyddu oherwydd newid hinsawdd. Y gaeaf diwethaf (2023-24) oedd yr ail aeaf gwlypaf yn y DU ers i gofnodion ddechrau. Mae cynnydd pellach i law cyfartalog dros y gaeaf ac amlder stormydd yn debygol o ddigwydd yn y ganrif hon, gan roi 23% yn fwy o eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd o afonydd erbyn 2120.

Pwysleisiodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yr angen am atebion cynaliadwy a chadarn i reoli llifogydd yn y dyfodol yn ei adroddiad llifogydd ym mis Hydref 2024. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru hefyd yn argymell mwy o ddefnydd o ddulliau sy'n seiliedig ar natur a mwy o gyfranogiad cymunedol mewn dulliau gweithredu yn y dyfodol.


Erthygl gan Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru