Ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/08/2023   |   Amser darllen munud

Mae'r haf wedi hen ddechrau ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld â dyfroedd ymdrochi o gwmpas Cymru i fesur ansawdd eu dŵr. Efallai y gwelwch y wybodaeth hon, a'r dosbarthiadau ansawdd dŵr, yn cael eu harddangos mewn safleoedd ymdrochi – ond beth yw ystyr y canlyniadau, a pha mor lân yw dyfroedd ymdrochi yng Nghymru?

Beth yw dŵr ymdrochi?

Mae dyfroedd ymdrochi yn bwysig o ran hamdden ac economi Cymru, ac yn cyfrannu'n helaeth at dwristiaeth arfordirol. Fe'u nodir gan ddefnyddio arweiniad gan Reoliadau Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 (“Rheoliadau 2017”) a drawsosodwyd o Gyfarwyddeb 2000 Fframwaith Dŵr yr UE (“Cyfarwyddeb 2000”).

Maent yn cael eu dynodi gan Lywodraeth Cymru os oes nifer fawr o bobl yn ymdrochi yno drwy gydol y tymor ymdrochi, sy'n para rhwng 15 Mai a 30 Medi bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried unrhyw seilwaith neu gyfleusterau a ddarperir, neu fesurau eraill a gymerwyd i hyrwyddo ymdrochi ar y safle, wrth wneud penderfyniadau dynodi. Mae’r 109 o safleoedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru ar yr arfordir yn bennaf – dim ond un (Llyn Padarn yn Llanberis) sy’n fewndirol.

Mae'r rhestr o ddyfroedd ymdrochi yn cael ei hadolygu yn flynyddol, a gall unrhyw un wneud cais i gael dŵr ymdrochi wedi’i ddynodi.

Mae dŵr ymdrochi yn cael ei warchod gan y gyfraith

Mae Rheoliadau 2017 yn gosod fframwaith ar gyfer rheoli agweddau ecolegol, cemegol a ffisegol ar ansawdd dŵr amgylcheddol – trafodwyd hyn ymhellach yn ein briff ymchwil: ‘Ansawdd dŵr yng Nghymru’. Fodd bynnag, mae safleoedd ymdrochi yn ddosbarth arbennig o ddyfroedd gwarchodedig ac maent yn destun monitro ychwanegol a safonau ansawdd.

Mae'r safonau hyn i'w gweld yn y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 (Rheoliadau 2013), sy'n trosglwyddo arferion nodi, monitro a gwella ansawdd dŵr o Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi'r UE 2006 (Cyfarwyddeb 2006) i gyfraith y Deyrnas Unedig. Nodir mai’r hyn a ganlyn yw nod y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi:

… preserve, protect and improve the quality of the environment, and protect human health.

Mae Rheoliadau 2013 yn nodi meini prawf ar gyfer asesu statws dŵr ymdrochi. Mae statws dŵr ymdrochi yn ychwanegol at y statws cemegol ac ecolegol a aseswyd ar gyfer dyfroedd wyneb o dan Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE, a gall fod yn 'rhagorol', 'da', 'digonol', neu 'wael'. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol arddangos statws y dŵr ymdrochi wrth ymyl dŵr ymdrochi, ynghyd ag unrhyw gyngor priodol ar gyfer y rhai sy’n ymdrochi.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn goruchwylio gweithredu safonau dŵr ymdrochi a chydymffurfio â hwy. Mae ansawdd dŵr ymdrochi hefyd yn cael ei hyrwyddo gan gynlluniau gwirfoddol fel rhaglen y Faner Las. Gall traethau fod yn gymwys i gael statws 'baner las' os oes ganddynt ansawdd dŵr 'rhagorol', a bodloni gofynion ychwanegol yn ymwneud â chyfleusterau, addysg a glanweithdra traethau.

Mae dosbarthiad dŵr ymdrochi yn dibynnu ar lefelau bacteria

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro'r dyfroedd ymdrochi ledled Cymru, drwy gynnal profion drwy gydol y tymor ymdrochi. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd yn profi pob corff o ddŵr ymdrochi o leiaf 10 gwaith yn ystod tymor 2023.

Mae dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro ar gyfer dau fath o facteria; Escherichia coli (E.coli) ac enterococci. Mae'r rhywogaethau hyn wedi'u targedu gan eu bod yn nodi bod ysgarthion yn bresennol, a all wneud pobl sy’n ymdrochi yn sâl.

Yna defnyddir data halogi bacteria o'r pedair blynedd diwethaf i ddosbarthu dyfroedd ymdrochi yn unol â safonau Rheoliadau 2013. Nid yw dyfroedd gwael yn cydymffurfio â'r safonau ac maent yn cynnwys lefelau annerbyniol o facteria. Ar y llaw arall, mae gan y dosbarthiadau digonol, da a rhagorol eu meini prawf trothwy eu hunain. Cyhoeddir y canlyniadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi blynyddol (mae gwybodaeth hefyd ar gael mewn map rhyngweithiol).

Mae ansawdd dŵr ymdrochi wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf

Mae'r siart bar isod yn crynhoi data adroddiad blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar ansawdd dŵr ymdrochi Cymru rhwng 2017 a 2022, yn dangos nifer y safleoedd dŵr ymdrochi ar gyfer pob dosbarthiad.

Nifer y dyfroedd ymdrochi yng Nghymru yn ôl dosbarthiad, 2017-2022

Siart bar yn dangos nifer y dyfroedd ymdrochi yng Nghymru y rhoddwyd dosbarthiad Rheoliadau 2013 iddynt bob blwyddyn rhwng 2017 a 2022.

 

Ffynhonnell: Adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar ansawdd dŵr ymdrochi (2017, 2018, 2019, 2020, 2021 a 2022).

Cynyddodd canran y dyfroedd ymdrochi a ddosbarthwyd fel rhai 'rhagorol' o 76.9 y cant i 80.2 y cant rhwng 2017 a 2022. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2022 y gwnaeth 105 o 106 o gyrff dŵr ymdrochi dynodedig gyrraedd y safonau ansawdd dŵr gofynnol, sy'n cynrychioli lefel cydymffurfio o 99 y cant â Rheoliadau 2013.

Cafodd Llyn Morol, Y Rhyl, ddosbarthiad 'gwael' yn 2022, a dyma'r unig ddŵr ymdrochi a aseswyd fel dŵr nad yw'n cydymffurfio ers 2017. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod yr halogiad bacteriol yn y Llyn Morol yn deillio o ddraenio ac ail-lenwi'r llyn yn ddiweddar, ynghyd â glaw trwm a oedd yn golygu bod carthffosiaeth yn cael ei gollwng i'r llyn cyn casglu samplau.

Mae ansawdd dŵr ymdrochi Cymru yn uwch na chyfartaledd y DU

Yn 2022, roedd 92.3 y cant o ddyfroedd ymdrochi Cymru yn cael eu hystyried yn 'dda' neu'n well, sef y ffigur uchaf o holl wledydd y DU. Roedd canran Cymru o ddyfroedd ymdrochi 'rhagorol', sef 80.2 y cant, hefyd yn uwch na chyfartaledd y DU.

Cyfran y dyfroedd ymdrochi ledled gwledydd y DU, fesul dosbarthiad yn 2022 (%)

Siart bar yn dangos canrannau’r dyfroedd ymdrochi ym mhob gwlad yn y DU y rhoddwyd dosbarthiad Rheoliadau 2017 iddynt yn 2022. Roedd 95.3 y cant o ddyfroedd ymdrochi Cymru yn 'dda' neu'n well, tra bod cyfartaledd y DU yn 92.0 y cant.

 

Ffynhonnell: Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru 2022, data dŵr ymdrochi SEPA, ystadegau dŵr ymdrochi DEFRA 2022, data dŵr ymdrochi DAERA 2022.

Fodd bynnag, mae Cymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill sy'n gweithredu safonau Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi’r UE. Yn 2022, y ganran gyffredinol o gyrff dŵr ymdrochi 'rhagorol' yn yr UE oedd 85.7 y cant.

Mae carthion yn ffynhonnell fawr o lygredd dŵr ymdrochi yng Nghymru

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, y pum prif ffynhonnell llygredd dŵr ymdrochi yw:

  1. gollyngiadau carthion yn deillio o’r diwydiant dŵr;
  2. dŵr yn draenio ac yn cario llygredd o dir amaethyddol;
  3. ysgarthion cŵn, adar ac anifeiliaid eraill ar draethau neu gerllaw;
  4. dŵr yn draenio ac yn cario llygredd o ardaloedd trefol;
  5. llygredd carthion domestig yn deillio o gamgysylltiadau draeniau a thanciau septig.

Mae 'systemau gorlif storm cyfun' (CSOs) yn gallu achosi niwed ecolegol a llygredd bacteriol, ond maent yn cael eu caniatáu mewn safleoedd ymdrochi a dyfroedd cysylltiedig. Mae defnydd y diwydiant dŵr o systemau gorlif storm cyfun i ryddhau carthion i'r amgylchedd yn aml yn cyrraedd y penawdau. Mae’r systemau hyn weithiau’n angenrheidiol yn ystod glaw trwm i atal llifogydd mewn mannau eraill mewn systemau carthffosiaeth, ac yn cael eu rheoleiddio drwy drwyddedau rhyddhau a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl data a gasglwyd gan ‘Top of the Poops', yn 2022, rhyddhaodd Dŵr Cymru garthion i safleoedd ymdrochi dynodedig am gyfnod amcangyfrifedig o 36,500 awr. Hwn oedd yr ail ffigwr uchaf ymhlith cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd Dŵr Cymru gynlluniau i gefnogi ansawdd dŵr ymdrochi Cymru. Mae hyn yn cynnwys darparu mwy o rybuddion manwl a rheolaidd ar ollyngiadau carthion mewn dyfroedd ymdrochi, a buddsoddi £560m rhwng 2020 a 2030 i wella gorlifiadau stormydd.

Mae gan Gymru ddyfroedd ymdrochi rhagorol ar ein harfordir - ond beth nesaf?

Mae gweithgareddau hamdden dŵr croyw yn boblogaidd yng Nghymru, gyda 26 y cant o'r ymatebwyr i arolwg Llywodraeth Cymru yn 2022 yn dweud eu bod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr mewn afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae bron pob un o ddyfroedd ymdrochi Cymru ar yr arfordir.

Yn ôl Surfers Against Sewage (SAS), mae'r diffyg safleoedd ymdrochi mewndirol lle mae lefelau bacteria yn cael eu monitro yn peri pryder. Mae SAS yn awgrymu bod dros 90 y cant o ollyngiadau carthion yng Nghymru a Lloegr yn mynd i afonydd, ac mae’n amcangyfrif bod tair o bob pedair afon yn peri risg i iechyd pobl.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-26 yn gwneud ymrwymiad i gryfhau’r gwaith o fonitro ansawdd dŵr mewndirol, drwy ddechrau “dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden”.

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod cam o'r fath yn cael ei ffafrio gan bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr. Roedd adolygiadau dyfroedd ymdrochi Llywodraeth Cymru yn 2022 a 2023 yn ailddatgan ei ymrwymiad i'r mesur hwn hefyd. Fodd bynnag, yr unig ddŵr ymdrochi mewndirol yng Nghymru o hyd ar gyfer tymor ymdrochi 2023 yw dŵr croyw Llyn Padarn yng Ngwynedd, a gafodd ei ddynodi yn 2014. Am y tro, nid yw'n glir pryd y byddwn yn darganfod a yw ein hafonydd mor ddiogel â'n moroedd ar gyfer nofio.


Erthygl gan Olivia Watts, intern PhD, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Olivia Watts gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei gwblhau.