Yn 2018, cafodd y terfynau cyflymder ar rannau o nifer o briffyrdd yng Nghymru eu gostwng o 70 i 50 mya, gyda'r nod o wella ansawdd aer wrth ymyl y ffordd. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae’r lefelau llygredd ym mhob safle sy’n destun terfyn cyflymder 50 mya bellach yn is na’r terfynau cyfreithiol. Fodd bynnag, ymddengys fod ffactorau eraill wedi chwarae rhan yn y newid hwn. Mae'r erthygl hon yn ymchwilio i effaith terfynau cyflymder a dylanwadau posibl eraill.
Nitrogen deuocsid a'i effeithiau ar iechyd
Mae nitrogen deuocsid (NO2) yn nwy gwenwynig. Wrth i berson ddod i gysylltiad â nitrogen deuocsid, gall cyflyrau fel asthma, clefyd yr ysgyfaint a chlefyd y galon waethygu, a gall achosion o lid yr ysgyfaint gynyddu. Mae dod i gysylltiad â nitrogen deuocsid dros y tymor hir yn gysylltiedig â disgwyliad oes is.
Mae ceir sydd ag injans tanio mewnol yn cynhyrchu amrywiaeth o nwyon llygrol, gan gynnwys NO2. Mae allyriadau llygrol yn cynyddu wrth i gerbydau gyflymu, felly gall cyflwyno terfynau cyflymder is leihau cynodiadau NO2 yn yr aer.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â throthwyon llygredd a bennir drwy Reoliadau Safonau Ansawdd Aer 2010, gan gynnwys terfynau NO2 wrth ymyl y ffordd:
- terfyn fesul awr cyfartalog o 200 microgram fesul metr ciwbig (μg/m3), na ellid mynd y tu hwnt iddo fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr; a
- gwerth terfyn blynyddol o 40 μg/m3 ar gyfartaledd.
Ble a pham y cyflwynwyd terfynau 50 mya?
Cyflwynwyd terfynau cyflymder 50 mya ar ôl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gael eu dwyn i'r llys yn llwyddiannus mewn perthynas â lefelau NO2 a oedd yn uwch na'r terfynau cyfreithiol. Cyflwynwyd terfynau 50 mya mewn pum lleoliad ar draws rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru – ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yn uniongyrchol:
- Wrecsam: A483, cyffyrdd 5–6;
- Glannau Dyfrdwy: A494, Cyfnewidfa Parc Dewi Sant i Gyfnewidfa Parc Glannau Dyfrdwy;
- Pontypridd: A470, rhwng cylchfannau Upper Boat a'r A4058;
- Casnewydd: M4, cyffyrdd 25–26;
- Port Talbot: M4, cyffyrdd 41–42.
Mae lefelau llygredd wrth ymyl y ffordd yn cael eu monitro yn y lleoliadau hyn, ac mae’r terfynau wedi cael eu gorfodi drwy’r defnydd o gamerâu cyflymder ers mis Hydref 2021 (ers mis Tachwedd 2022 yng Nghasnewydd).
Ffigur 1: Lleoliadau ar draffyrdd a chefnffyrdd sy’n destun terfyn cyflymder 50 mya

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd
Dadleuon ynghylch y terfyn cyflymder
Mae’r cam o gyflwyno terfynau 50 mya wedi bod yn bwnc dadleuol. Ers cyflwyno’r terfynau hyn, mae'r Senedd wedi cael tair deiseb sy’n eu gwrthwynebu, gyda’r deisebwyr yn sôn am dorri hawliau rhyddid a’r effeithiau economaidd cysylltiedig.
Tabl 1: Rhestr o ddeisebau y mae’r Senedd wedi’u derbyn sy’n ymwneud â chyflwyno terfynau cyflymder 50 mya
|
Teitl |
Dyddiad cwblhau |
Nifer y llofnodion |
|
11 Chwefror 2026 |
3,334 |
|
|
Dileu’r terfynau 50mya ar yr M4 ger Casnewydd ac Abertawe ac ar yr A470 ger Pontypridd |
13 Mai 2024 |
1,136 |
|
15 Tachwedd 2022 |
145 |
Mae Aelodau wedi codi pryderon ynghylch y gost o orfodi’r terfynau cyflymder. Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a ofynnwyd ym mis Tachwedd 2022, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd fod gweithredu camerâu cyflymder wedi costio £3.34 miliwn.
Sut mae ansawdd aer wedi newid ers cyflwyno’r terfynau cyflymder 50 mya?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data monitro blynyddol ar lefelau NO2 ar gyfer pob un o'r safleoedd sy’n destun terfyn 50 mya. Mae'r blwch isod yn disgrifio sut rydym wedi dadansoddi'r data dan sylw. Noder bod cerbydau ar y ffordd hefyd yn allyrru llygryddion niweidiol eraill. Serch hynny, mae'r gwaith dadansoddi hwn yn canolbwyntio'n llwyr ar NO2.
Mae pob safle sy’n destun terfyn 50 mya yn cael ei fonitro gan ddefnyddio nifer o diwbiau trylediad. Mae’r data a gyhoeddir yn darparu’r lefel flynyddol gyfartalog o NO2 ar gyfer pob gorsaf fonitro o fewn safle sy’n destun terfyn 50 mya. Yn yr erthygl hon, rydym yn cyfrifo’r lefel flynyddol 'gyfartalog' o NO2 ar gyfer y safle cyfan drwy gyfuno nifer o leoliadau wrth ymyl y ffordd. Felly, mae lleoliadau monitro ysbeidiol a lleoliadau mwy newydd wedi'u hepgor o'r cyfrifiad cyfartalog hwn. Er enghraifft, ar gyfer yr A470 ym Mhontypridd, roedd y data ar gyfer 2024 yn cynnwys 10 gorsaf fonitro wrth ymyl y ffordd. Fodd bynnag, rydym wedi cyfrifo’r cyfartaleddau gan ddefnyddio'r chwe safle sydd wedi bod yn weithredol yn barhaus ers 2018 yn unig. Mae safleoedd monitro 'cefndirol' wedi'u lleoli mewn lleoliadau trefol cyfagos, i ffwrdd o leoliadau wrth ymyl y ffordd, gan alluogi cymariaethau â’r tueddiadau a welir wrth ymyl y ffordd.
Mae gwelliant 'gormodol' mewn ansawdd aer mewn safle, a ddangosir yn Nhabl 2, yn adlewyrchu faint mae ansawdd aer wrth ymyl y ffordd wedi gwella y tu hwnt i lefelau cefndirol. Caiff ei gyfrifo drwy dynnu’r gwelliant cefndirol (% newid) o’r gwelliant wrth ymyl y ffordd (% newid). Er enghraifft, pe byddai’r crynodiad NO2 wrth ymyl y ffordd wedi gostwng 10%, tra bod yr NO2 cefndirol wedi gostwng 6%, byddai'r gwelliant 'gormodol' yn 4%.
Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cyfrifiadau traffig blynyddol ar gyfer pob safle, wedi'u cymryd o ystadegau'r Adran Drafnidiaeth. Mewn rhai achosion, mae nifer o 'bwyntiau cyfrif' wedi'u dosbarthu ar y naill ochr a'r llall i gyffyrdd. Er mwyn cyfrifo’r newid mewn lefelau traffig ar ffurf canran, gwnaethom ychwanegu cyfanswm y traffig ar gyfer pob lleoliad cyfrif o fewn y safle dan sylw.
Rhwng 2018 a 2024, gwelwyd gostyngiad o 42% i 63% mewn lefelau NO2 cyfartalog wrth ymyl y ffordd, ac roedd y lefelau o lygredd islaw'r trothwy cyfreithiol ar gyfer pob safle yn 2021, 2023, a 2024. Yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, a Phort Talbot, mae lefelau NO2 wedi bod islaw'r trothwy cyfreithiol bob blwyddyn ers 2020.
Ffigur 2: Tueddiadau o ran lefelau cyfartalog blynyddol o NO2 wrth ymyl y ffordd ers 2018

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd ar ddata gan Lywodraeth Cymru
*Mae’r trothwy yn drothwy dangosol yn unig. Mae diffiniadau cyfreithiol manwl gywir i’w gweld yn Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 2010
Gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn lefelau llygredd yn 2020, a hynny ar yr un pryd â phandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau teithio cysylltiedig. Adlamodd lefelau llygredd ym Mhontypridd, Casnewydd, a Phort Talbot yn 2022, ond maent wedi gostwng yn raddol ers hynny. Ni adlamodd lefelau NO2 yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy yn sylweddol ar ôl y pandemig, a chafwyd gwelliant pellach yn 2023 a 2024.
Rhwng 2018 a 2024, cafwyd gostyngiad o 32% i 41% mewn lefelau NO2 cefndirol (h.y. lefelau NO2 nad ydynt wrth ymyl y ffordd), sy'n awgrymu tuedd ehangach tuag at ansawdd aer gwell.
Yn syml, a oes llai o draffig nawr?
Roedd 1% i 6% yn llai o draffig yn 2024 nag yn 2018 ar gyfer pob safle, ond bu adferiad yn nifer y cerbydau, ar y cyfan, o'r lefelau isaf a welwyd yn 2020 a 2021.
Mewn termau cyfrannol, mae lefelau llygredd wedi gostwng yn fwy na lefelau traffig (Ffigur 3). Er enghraifft, roedd traffig ar yr M4 yng Nghasnewydd 1.5% yn is yn 2024 nag yr oedd yn 2018, tra bod llygredd wedi gostwng 63%. Felly mae llygredd NO2 fesul cerbyd, ar gyfartaledd, wedi gostwng.
Ffigur 3: Newid cyfrannol mewn lefelau traffig ac NO2, ar gyfartaledd, rhwng 2018 a 2024

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd ar ddata gan Lywodraeth Cymru
Pa rôl mae’r terfynau 50 mya wedi'i chwarae yn y gwelliant hwn?
Er bod ansawdd aer wrth ymyl y ffordd wedi gwella'n sylweddol, nid yw'n glir a yw’r terfynau cyflymder wedi sbarduno’r newidiadau hyn, o ystyried y gwelliant sylweddol sydd wedi dod i’r amlwg o ran ansawdd aer cefndirol.
Ym mhob safle sy’n destun terfyn 50 mya, gwelwyd gwelliant 'gormodol' mewn ansawdd aer y tu hwnt i’r lefelau cefndirol. Gallai gwelliant 'gormodol' uwch awgrymu bod y terfyn 50 mya wedi bod yn fwy effeithiol o ran lleihau llygredd aer, er na ellir diystyru ffactorau lleol eraill (megis y mathau o gerbydau ac effeithlonrwydd y tanwydd a ddefnyddir ar briffyrdd). Mae gwelliant 'gormodol' yn rhoi’r amcangyfrif uchaf o effaith bosibl y terfynau cyflymder 50 mya.
Cafwyd y gwelliant 'gormodol' mwyaf ym Mhontypridd a Chasnewydd, gyda gwerthoedd is i’w gweld yng Nglannau Dyfrdwy a Phort Talbot. Yn Wrecsam, dim ond gwelliant ychydig yn fwy na’r lefelau cefndirol a welwyd o ran ansawdd aer wrth ymyl y ffordd.
Tabl 2: Gwelliannau 'gormodol' mewn lefelau NO2 wrth ymyl y ffordd uwchlaw’r lefelau cefndirol, fesul safle
|
Lleoliad |
Gwelliant 'gormodol' wrth ymyl y ffordd |
|
Wrecsam (A483) |
2.8% |
|
Glannau Dyfrdwy (A494) |
7.0% |
|
Pontypridd (A470) |
23.9% |
|
Casnewydd (M4) |
24.6% |
|
Port Talbot (M4) |
7.6% |
Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd ar ddata gan Lywodraeth Cymru
Rhesymau eraill dros welliannau mewn ansawdd aer
Mae Cymru wedi gweld gwelliant cenedlaethol hirdymor yn ei hansawdd aer. Gwnaeth allyriadau ocsidau nitrogen ostwng 63% rhwng 2005 a 2023, yn sgil gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau o'r diwydiant ynni a’r diwydiant gweithgynhyrchu.
Mae allyriadau trafnidiaeth wedi mwy na haneru dros yr un cyfnod, er mai trafnidiaeth yw'r ffynhonnell unigol fwyaf o ocsidau nitrogen o hyd. Mae ystod o ddatblygiadau cymdeithasol, technolegol a pholisi yn helpu i esbonio'r newidiadau hyn. Mae gwell effeithlonrwydd ymhlith cerbydau, wedi'i sbarduno’n rhannol gan safonau allyriadau yr Undeb Ewropeaidd, wedi arwain at lai o lygredd o gyfeiriad injans petrol a diesel. Disgwylir y bydd safonau llymach fyth ar waith o 2026. Mae’r DU hefyd yn glynu wrth y safonau hyn.
Ar yr un pryd, mae'r cynnydd yn y defnydd o gerbydau trydan (EVs) wedi cyflymu: Roedd cerbydau trydan a cherbydau hybrid yn cyfrif am bron hanner y cerbydau newydd a gofrestrwyd yn y DU yn 2025, gan gynyddu o 7% yn unig yn 2018. Bellach, mae 2.8 miliwn o gerbydau trydan ar y ffyrdd yn y DU. Erbyn 2035, bydd angen i bob car newydd fod yn gwbl drydanol, er y bydd cerbydau petrol a diesel hŷn yn parhau i gael eu defnyddio am beth amser oherwydd oes hir cerbydau.
Efallai bod newidiadau mewn ymddygiad pobl o ran eu dulliau teithio hefyd wedi dylanwadu ar lefelau llygredd. Yn 2021, pennodd Llywodraeth flaenorol Cymru darged ar gyfer sicrhau bod 30% o'r gweithlu yn gweithio o bell yn rheolaidd. Ar ddechrau 2025, roedd 42% o weithwyr ledled y DU yn gweithio gartref, naill ai'n rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae’n bosibl bod gweithio gartref wedi chwarae rôl yn y broses o leihau llygredd yn 2020 a 2021. Ond, fel y nodir yn y gwaith dadansoddi a grybwyllwyd eisoes, dim ond gostyngiad bach a welwyd mewn lefelau traffig ar y pum ffordd dan sylw rhwng 2018 a 2024.
Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru hefyd hyrwyddo teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan fuddsoddi £218 miliwn mewn teithio llesol rhwng 2013 a 2024, a chan bennu targed i sicrhau bod 45% o deithiau yn cael eu gwneud drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040. Fodd bynnag, mae'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn debyg i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Roedd cyfanswm y teithiau bws a wnaed yn 2024-2025 tua 22% yn is na’r nifer a welwyd yn 2019-20. Yn y cyfamser, gwelwyd cynnydd bach yn unig yn y defnydd o’r rheilffyrdd, o 31 miliwn o deithiau yn 2018 i 31.7 miliwn yn 2025. Felly, mae'n annhebygol bod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi cyfrannu'n sylweddol at y broses o wella ansawdd aer.
Rhagolygon ar gyfer y terfynau 50 mya
Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru fod terfynau cyflymder 50 mya yn dangos ei hymrwymiad “i roi'r amgylchedd wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud”, er ei bod yn cydnabod “…nad yw terfynau cyflymder arafach yn ddewis poblogaidd”.
Ers cyflwyno terfynau 50 mya, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn mynnu y byddai’r terfynau yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. Ym mis Ionawr 2025, pan ofynnwyd cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y pryd am 'dagfeydd' traffig yr M4 ym Mhort Talbot, dywedodd:
Rydym yn obeithiol y bydd y mesur [50 mya] hwnnw'n llwyddiannus, ac wrth gwrs, os gall lefelau llygredd ostwng o dan y trothwy cyfreithiol ar hyd y llwybrau hyn, byddem yn ystyried cael gwared ar y cyfyngiadau cyflymder.
Erthygl gan Charlotte Morgan a Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Charlotte Morgan gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.