Mae rhestrau aros yng Nghymru bellach wedi cyrraedd 735,000 o lwybrau cleifion agored (ffigurau Rhagfyr 2022). Mae hynny'n cyfateb i tua 577,400 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth (oherwydd bod gan rai pobl nifer o lwybrau agored).
Mae nifer y bobl sy'n aros am driniaeth gan y GIG wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed. Roedd nifer y llwybrau cleifion (h.y. y llwybr y mae claf yn ei ddilyn o'i atgyfeiriad cyntaf hyd at ddechrau'r driniaeth) ar ddiwedd mis Rhagfyr 2022 59% yn uwch na mis Chwefror 2020. Yr amser aros cyfartalog (canolrif) ar gyfer triniaeth yw 22 wythnos (Rhagfyr 2022). Mae hynny'n fwy na dwbl yr hyn yr oedd cyn pandemig COVID-19 (pan yr amser aros cyfartalog oedd tua 10 wythnos).
Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru y llynedd, ymrwymodd i bum targed adfer (h.y. targedau amseroedd aros newydd/a oedd eisoes yn cael eu galw'n uchelgeisiau). Mae data ar berfformiad yn erbyn y targedau adfer hyn yn cael eu cyhoeddi’n fisol ar wefan StatsCymru (gydag oedi o ddau fis).
- Neb i aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022.
- Dileu nifer y bobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023.
- Cynyddu cyflymder profion diagnostig ac adrodd i wyth wythnos ac 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn gwanwyn 2024.
- Dileu nifer y bobl sy'n aros mwy na blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025.
- Diagnosis a thriniaeth canser i ddigwydd o fewn 62 diwrnod ar gyfer 80 y cant o bobl erbyn 2026.
Mae rhai sylwebwyr yn rhybuddio yn erbyn canolbwyntio'n unig ar fodloni targedau amseroedd aros. Dywed Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ei fod yn peri'r risg o “achosi canlyniadau anfwriadol” oherwydd gall ystumio ymddygiadau. Nid yw targedau bob amser yn arwain at welliannau yn ansawdd y gwasanaeth. Er bod hyn yn wir, mae'r targedau adfer yn dangos a yw polisïau a fwriedir i wella amseroedd aros yn effeithiol a/neu’n cael eu gweithredu'n ddigon cyflym.
Rydym yn diweddaru ein herthygl Lleihau'r ôl-groniad o ran rhestrau aros y GIG yn rheolaidd, sy'n nodi’r perfformiad yn erbyn y pum targed adfer. Mae'r erthygl hon yn tynnu ar ddata gweithgarwch GIG Cymru i ystyried y cynnydd yn ôl y ddau darged adfer cyntaf. Rydym wedi cynnwys linc hefyd i ddata lleol ar amseroedd aros y GIG.
Ceir rhagor o wybodaeth am y targedau adfer yn adroddiad monitro amseroedd aros y GIG. Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
Methu’r targed adfer cyntaf
Mae'r targed adfer cyntaf yn dweud na ddylai cleifion fod yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cyflawni hyn erbyn diwedd 2022.
Er gwaetha'r cynnydd diweddar mewn gweithgarwch, mae’r targed wedi’i fethu. Mae'r cynnydd wrth glirio'r ôl-groniad wedi bod yn arafach na'r disgwyl. Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2022, roedd 74,976 o lwybrau cleifion yn parhau i aros dros 53 wythnos (mwy na blwyddyn) am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf. Nid yw'r nifer wedi bod yn is na 75,000 ers mis Ionawr 2021.
Mae pwysau'r gaeaf a’r streicio ym mis Rhagfyr wedi effeithio ar weithgarwch y GIG.
Ffigur 1: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 53 wythnos am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf
Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl mis, wythnosau wedi'u grwpio a cham y llwybr
Mae’r ail darged adfer yn prysur agosáu
Yr ail darged adfer yw clirio'r ôl-groniad o bobl sy'n aros yn hirach na dwy flynedd i ddechrau triniaeth. Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd yn cyflawni hyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023.
Ym mis Rhagfyr 2022, roedd 45,386 o lwybrau cleifion yn aros 105 wythnos (mwy na dwy flynedd) i ddechrau triniaeth ar draws pob arbenigedd.
Mae ffigur 2 isod yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 105 wythnos wedi lleihau ers mis Mawrth 2022. Mae data mis Rhagfyr 2022 yn dangos 9 cwymp misol olynol ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol.
Fodd bynnag, mae rhagamcan sy'n defnyddio data o fis Mawrth i fis Tachwedd yn dangos, ar y gyfradd gyfredol o gynnydd (h.y. os bydd cyfradd y cynnydd ers mis Mawrth yn cael ei chynnal), ni fydd y targed adfer yn cael ei fodloni tan ganol 2024.
Bu gostyngiad mwy sydyn yn nifer y llwybrau cleifion rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2022. Byddai cynnal y gyfradd hon o gynnydd yn golygu bod y targed yn cael ei fodloni erbyn hanner olaf 2023.
Mae cyflawni'r targed adfer erbyn mis Mawrth 2023 yn gofyn am gynnydd cyflymach.
Ffigur 2: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 105 wythnos i ddechrau triniaeth a rhagamcanion yn seiliedig ar gyfnodau amser gwahanol.
Ffynhonnell: StatsCymru, Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau o ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth
Mae data mis Rhagfyr yn dangos bod bron 30% o'r holl lwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 105 wythnos i ddechrau triniaeth yn aros am driniaethau trawma ac orthopedig.
Mae’r arbenigeddau eraill sydd â niferoedd uchel sy’n aros mwy na 105 wythnos am driniaeth yn cynnwys; llawdriniaeth gyffredinol (6,705 llwybrau cleifion), triniaethau clust, y trwyn a’r gwddf (6,530) ac wroleg (4,690).
Ffigur 3: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 105 wythnos i ddechrau triniaeth, yn ôl triniaeth
Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl mis, wythnosau wedi'u grwpio a thriniaeth, o Ionawr 2021 ymlaen
Er bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros am driniaeth yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel yn yr arbenigeddau hyn, mae cynnydd yn cael ei wneud, ac mae’r niferoedd cyffredinol sy’n aros yn lleihau.
Dim 'bwled arian'
Mae’r pwysau sy’n wynebu GIG Cymru wedi'i gofnodi’n helaeth. Mae cyflawni'r targedau adfer yn gyflym yn gofyn am weithgarwch ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen.
Mae gweithgarwch y GIG wedi cynyddu. Mae ffyrdd newydd o reoli amseroedd aros wedi cael eu cyflwyno. Mae enghreifftiau o arloesi mewn arferion clinigol a gweithredol. Mae ffocws gwleidyddol clir – mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd, wedi gwneud gofal ac adfer wedi'u cynllunio yn flaenoriaeth Weinidogol. Ond nid yw gostyngiadau sylweddol mewn amseroedd aros wedi’u cyflawni eto.
A yw'r Gweinidog Iechyd wedi sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng herio a chefnogi sefydliadau GIG lleol i wella eu perfformiad? Neu a yw maint yr her yn anorchfygol (h.y. y galw am ofal iechyd ac argaeledd adnoddau i ymateb i’r galw hwnnw) a'r ymdrech sydd ei angen i leihau amseroedd aros wedi darfod eisoes?
Er bod mentrau polisi unigol yn gwneud gwahaniaeth, mae mynd i'r afael ag arosiadau hir yn gofyn am drawsnewidiadau. Ar y gyfradd gyfredol o gynnydd, mae’n ymddangos yn debygol y bydd yn cymryd mwy o amser nag un “tymor Senedd llawn” (a nodwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru) i fynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG – a llawer mwy o waith caled.
Galwodd adroddiad amseroedd aros Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhagor o ddata manwl am amseroedd aros y GIG, er mwyn caniatáu i gleifion ledled Cymru gael syniad mwy realistig o ran pa mor hir y mae’n debygol y byddant yn aros i gael triniaeth gan y GIG.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwefan y gwasanaeth 111 cenedlaethol i gyhoeddi data yn ôl arbenigedd a bwrdd iechyd.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru