Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Amser pwysig i hawliau plant yng Nghymru
Cyhoeddwyd 16/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
16 Tachwedd 2015
Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4030" align="alignnone" width="320"]
Llun: o Flickr gan LindaH. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Ddydd Mawrth (17 Tachwedd), yn y Cyfarfod Llawn, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad Blynyddol diweddaraf Comisiynydd Plant Cymru. Bydd y drafodaeth yn gosod y ffocws unwaith eto ar p’un a yw hawliau plant yn cael eu cyflawni yng Nghymru.
Mae gan blant a phobl ifanc o dan 18 mlwydd oed amrywiaeth o hawliau fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), gan gynnwys hawliau i gael eu hamddiffyn, i iechyd, i deulu, i addysg, i ddiwylliant ac i hamdden (gweler crynodeb o erthyglau (pdf19KB)). Cafodd Llywodraeth Cymru gydnabyddiaeth ryngwladol pan wnaeth ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i gyfraith ddomestig yng Nghymru drwy’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Fodd bynnag, mae hyn, yn anochel, wedi arwain at gwestiynau am beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol, ac a yw ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i hawliau plant yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru o ddydd i ddydd.
Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd yn nodi’r wyth o ‘faterion pwysicaf’ y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu:

- Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Darparu gwasanaethau eiriolaeth;
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed
- Camfanteisio’n rhywiol ar blant;
- Cefnogaeth i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal;
- Strwythurau cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc;
- Tlodi; a
- Darparu gwasanaethau cymdeithasol.
- Cyfraniad Llywodraeth Cymru i adroddiad Plaid y Wladwriaeth y DU i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ym mis Hydref 2013, a oedd wedi’i gynnwys yn ddiweddarach yng nghyflwyniad ysgrifenedig (Saesneg yn unig) Llywodraeth y DU i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ym mis Mai 2014;
- Adroddiad (pdf 1.05MB, Saesneg yn unig) a gyflwynwyd gan bedwar Comisiynydd Plant y DU;
- Tystiolaeth gan y gynghrair o Sefydliadau Anllywodraethol yn adroddiad y Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Cymru; (pdf 474KB, Saesneg yn unig);
- Dau adroddiad gan blant a phobl ifanc, gan gynnwys yr adroddiad Lleisiau Bach yn Galw Allan (4.69MB) a’r FUNC + Report (Saesneg yn unig).