Amser pwysig i hawliau plant yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

16 Tachwedd 2015 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4030" align="alignnone" width="320"]Delwedd o lun plentyn Llun: o Flickr gan LindaH. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ddydd Mawrth (17 Tachwedd), yn y Cyfarfod Llawn, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad Blynyddol diweddaraf Comisiynydd Plant Cymru. Bydd y drafodaeth yn gosod y ffocws unwaith eto ar p’un a yw hawliau plant yn cael eu cyflawni yng Nghymru. Mae gan blant a phobl ifanc o dan 18 mlwydd oed amrywiaeth o hawliau fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), gan gynnwys hawliau i gael eu hamddiffyn, i iechyd, i deulu, i addysg, i ddiwylliant ac i hamdden (gweler crynodeb o erthyglau (pdf19KB)). Cafodd Llywodraeth Cymru gydnabyddiaeth ryngwladol pan wnaeth ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i gyfraith ddomestig yng Nghymru drwy’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Fodd bynnag, mae hyn, yn anochel, wedi arwain at gwestiynau am beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol, ac a yw ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i hawliau plant yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru o ddydd i ddydd. Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd yn nodi’r wyth o ‘faterion pwysicaf’ y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu:
  • Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Darparu gwasanaethau eiriolaeth;
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed
  • Camfanteisio’n rhywiol ar blant;
  • Cefnogaeth i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal;
  • Strwythurau cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc;
  • Tlodi; a
  • Darparu gwasanaethau cymdeithasol.
Dechreuodd Sally Holland yn ei swydd fel Comisiynydd Plant newydd ym mis Ebrill 2015, ac mae’r adroddiad sy’n cael ei drafod yn cynnwys blwyddyn olaf Keith Towler, y Comisiynydd blaenorol, yn y swydd. Mae’r Comisiynydd newydd eisoes wedi dweud wrth Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad bod dros 1,000 o blant a phobl ifanc a thros 200 o rieni a gweithwyr proffesiynol wedi cymryd rhan yn ei hymgynghoriad, o’r enw ‘Beth Nesa’, a oedd yn llywio blaenoriaethau ar gyfer y saith mlynedd nesaf (linc i Senedd TV). Beth nesaf ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd Plant? Hon hefyd yw’r flwyddyn y cyhoeddwyd adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar yr Adolygiad Annibynnol o swyddogaethau’r Comisiynydd Plant. Roedd yr adroddiad hwn, a luniwyd gan Dr Mike Shooter, yn cynnig argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Plant ac ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae rhai gwahaniaethau barn amlwg ynghylch sut y dylai o leiaf un o’r argymhellion hyn gael eu gweithredu. Trafodwyd hyn yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ar 14 Hydref a 4 o Dachwedd (Senedd TV). Penodir y Comisiynydd Plant gan Brif Weinidog Cymru a chaiff y swydd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Canfu’r Adolygiad Annibynnol bod y Comisiynydd ‘yn atebol i’r union gorff y mae ganddo gyfrifoldeb dros ei ddwyn i gyfrif ‘ a bod hynny, nid yn unig yn swnio’n anghyson, ond mae’n foesegol groes i bob egwyddor a osodwyd ar gyfer Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol. Mae Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, wedi dweud yn glir ei bod yn gwrthod yr argymhelliad y dylai’r cyfrifoldebau dros benodi ac ariannu’r Comisiynydd Plant gael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae wedi dweud nad yw hi’n gweld y byddai’r ffaith bod y Comisiynydd yn cael ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud dim i wella’r annibyniaeth honno. Ar y llaw arall, mae’r Comisiynydd presennol, a’r mwyafrif o’r rhai a ymatebodd i’r adolygiad, yn cefnogi’r cam bod y Cynulliad yn penodi. Mae Sally Holland wedi dweud y byddai annibyniaeth oddi ar gangen weithredol y llywodraeth yn gwneud ei rôl yn llawer mwy eglur, ac nad yw’r gwrthdaro buddiannau sylfaenol yn rhywbeth y gellir ei anwybyddu. Hefyd yn ddiweddar, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi gofyn i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i nodi’r camau y maent wedi’u cymryd i sicrhau bod y pedwar Comisiynydd Plant yn yr awdurdodaethau datganoledig yn annibynnol o’r llywodraeth. Amlinellir rhagor o wybodaeth isod am y Cenhedloedd Unedig. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell y dylai’r cefndir cyfreithiol sy’n rheoli Comisiynydd Plant Cymru gael ei gyfuno a’i symleiddio mewn un darn o ddeddfwriaeth Gymreig, ac y dylai cylch gwaith Comisiynydd Plant Cymru gael ei ymestyn i gynnwys pob mater, boed wedi’u datganoli ai peidio, sy’n ymwneud â lles plant a phobl ifanc sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, er enghraifft mewnfudo a chyfiawnder ieuenctid. Barn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant yng Nghymru Ym mis Medi 2015, daeth cynrychiolwyr o’r Cenhedloedd Unedig ar ymweliad â’r DU ac â Chymru fel rhan o’i waith i weld beth arall y mae angen i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ei wneud i weithredu’r Confensiwn yn llawn. Yn fwy diweddar ym mis Hydref, cynhaliodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrandawiadau cyfrinachol yn Ngenefa i baratoi ar gyfer ei waith craffu ar gynnydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig o ran cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Rhoddodd hyn gyfle i’r pedwar Comisiynydd Plant yn y DU, cynrychiolwyr o’r sefydliadau anllywodraethol, a phobl ifanc i siarad am y cynnydd ac i ddweud beth arall y maent hwy’n ei feddwl sydd angen ei wneud. O ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid eraill, efallai, fydd yr amrywiaeth o dystiolaeth ysgrifenedig sydd eisoes wedi’i chyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig. Mae hon yn cynnwys: Bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn awr yn edrych yn ffurfiol ar Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ym mis Mai-Mehefin 2016, ac yn cyhoeddi eu hargymhellion ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud i gyflawni hawliau plant yng Nghymru a’r DU. Ar sail yr hyn y mae wedi’i glywed hyd yma, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn eisoes wedi cyhoeddi ei restr o faterion ac wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Yn ddiddorol, mae wedi nodi un mater penodol i Gymru ac wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am y dulliau sydd ar waith o ran cyfranogiad cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn cyd-fynd ag un o’r pryderon a amlygwyd yn adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant fod yr ‘agenda cyfranogiad yn wynebu heriau sylweddol, ac mae’r isadeiledd cefnogi wedi cael ei leihau yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf’. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg