25 Ebrill 2017
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Er nad yw'r union llinell amser a'r manylion ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud â Brexit yn hysbys, mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fil y Diddymu Mawr yn ei gwneud yn glir, yn ogystal â'r Bil ei hun, y bydd angen i ddarnau eraill o ddeddfwriaeth sylfaenol y DU a nifer sylweddol o is-ddeddfwriaeth gael eu pasio cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Yng Nghymru, yn ogystal ag ystyried is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â Brexit a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru, mae Aelodau’r Cynulliad a Phwyllgorau yn debygol hefyd o graffu ar effeithiau unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol y DU ar Gymru.
Mae'r trafodaethau ar y DU yn gadael yr UE yn cyd-daro â chyfnod o newid cyfansoddiadol sylweddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chyflwyno model cadw pwerau o dan Ddeddf Cymru 2017 a chyflwyno trethi datganoledig am y tro cyntaf. Mae hyn yn golygu 24 mis prysur i'r Cynulliad.
Mae'r inffograffeg isod yn ceisio plotio'r rhannau gwahanol hyn o ddeddfwriaeth a newid cyfansoddiadol ar linell amser i roi syniad o sut y gallai'r digwyddiadau hyn gyd-blethu. Amcangyfrif yw'r llinell amser yn seiliedig ar y wybodaeth gyhoeddus orau sydd ar gael ac mae'n sicr yn debygol o newid wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt. Mae'n bosibl y bydd angen ychwanegu digwyddiadau eraill a gallai'r amserlenni newid. Byddwn yn diweddaru'r llinell amser hon wrth i'r trafodaethau ddatblygu wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael dros y 24 mis nesaf.
Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Amcangyfrifo'r llinell amser ar gyfer Deddfwriaeth Brexit
Cyhoeddwyd 25/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau