Cyhoeddwyd 18/07/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Bu gostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru rhwng 2010 a 2011, ond mae mwy i wneud i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020.
Mae amcangyfrifon diweddaraf
ystadegau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar, sy’n cynnwys y canlyniadau diweddaraf ar gyfer 2011. Mae cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynnwys chwe nwy; carbon deuocsid, methan, ocsid nitraidd, hydrofflworocarbonau, perfflworocarbonau a sylffwr hecsafflworid. Gellir mesur y rhain mewn dwy ffordd, sef y dull cynhyrchu a’r dull defnyddiwr terfynol.
-
- Mae’r dull cynhyrchu yn cyfrifo allyriadau yn ôl lle y cânt eu cynhyrchu. Mae hyn yn gymharol hawdd i’w gyfrifo a’i ddyrannu i gyfrifon cenedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’n ystyried cynnyrch a wnaed mewn lleoliadau eraill ac a gafodd ei fewnforio.
- Mae’r dull defnyddiwr terfynol yn cyfrifo allyriadau yn ôl lle y defnyddir cynnyrch yr allyriadau hynny. Mae hyn yn cynnwys yr holl allyriadau sy’n gysylltiedig â’r defnydd o ynni, yn hytrach na’r allyriadau sy’n gysylltiedig ag ardal ddaearyddol lle y caiff y gwaith cynhyrchu ei wneud. Mae allyriadau nad ydynt yn dod o gynhyrchu ynni yn dal i gael eu cyfrif yn y man y cânt eu cynhyrchu.
Caiff y rhan fwyaf o dargedau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr eu mesur gan ddefnyddio’r dull cynhyrchu.
- Gan ddefnyddio’r mesur hwn, allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn 2011 oedd 43.8 Mega tunnell (Mt), sydd 20.6% yn llai na’r flwyddyn gychwynnol.
- Gostyngodd allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru 2.5 Mt rhwng 2010 a 2011, gostyngiad o 5 y cant. Cred Llywodraeth Cymru mai’r rheswm am hyn yn bennaf yw gostyngiad mewn allyriadau preswyl yn 2011 yn dilyn gaeafau oer ar ddechrau ac ar ddiwedd 2010.
- Mae’r Alban a Lloegr wedi gweld lleihad canrannol mwy o ran allyriadau nag yng Nghymru, tra roedd y lleihad yng Ngogledd Iwerddon yn is.
Er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru erbyn 2020,
sef lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 40% islaw lefel y flwyddyn gychwynnol,
bydd angen lleihau allyriadau yng Nghymru 19.4 pwynt canran ymhellach dros y naw mlynedd nesaf. Mae’r duedd ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru ers y flwyddyn gychwynnol wedi’i hamlinellu isod yn ffigur 1.
Ffigur 1: Tueddiadau yng nghyfanswm net yr allyriadau nwyon tŷ gwydr rhwng 1990 a 2011 (yn erbyn y flwyddyn gychwynnol) ar gyfer Cymru yn erbyn targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020
Ffynhonnell: AEA,
Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990-2011, Mehefin 2013
Y sector cyflenwi ynni yw prif ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, gan gynhyrchu 36 y cant o’r holl allyriadau yng Nghymru yn 2011. Prif ffynonellau nwyon tŷ gwydr yn y sector ynni yn 2011 oedd cynhyrchu trydan mewn gorsafoedd pŵer ac allyriadau gan burfeydd. Mae Cymru’n allforiwr net o drydan i Loegr.
Mae gan Gymru, felly, allyriadau defnyddiwr terfynol is nag allyriadau a fesurir gan ddefnyddio’r dull cynhyrchu.
Yn 2011, cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr defnyddiwr terfynol yng Nghymru oedd 38.1 Mt, sef lleihad o 30.3% ers 1990.
Disgwylir i’r wybodaeth am berfformiad yn 2011
yn erbyn targed Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o fewn cymhwysedd datganoledig o leiaf 3 y cant bob blwyddyn o’u cymharu â gwaelodlin 2006-10 gael ei chyhoeddi yn ystod hydref 2013.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn y nodyn ymchwil ar
Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.
Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.