Mae 1 o bob 13 o oedolion yng Nghymru yn byw gyda diabetes, gyda'r ffigur hwn yn cynyddu bob blwyddyn. Mae’r pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa oherwydd y seibiant yng ngweithgarwch y GIG yn y maes hwn, gan arwain at ganslo apwyntiadau. Gallai cyfraddau diabetes gael eu heffeithio ymhellach gan y cynnydd parhaus mewn costau byw wrth i fwydydd iach ddod yn ddrytach.
O gofio bod disgwyl i Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wneud datganiad yn y Senedd ar ddiabetes ddydd Mawrth 13 Mehefin, mae'r erthygl hon yn darparu'r ystadegau diweddaraf ar nifer yr achosion o'r cyflwr yng Nghymru a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal diabetes.
Diabetes yng Nghymru
Mae gan Gymru y gyfradd uchaf o ddiabetes yn y DU, gyda mwy na 200,000 o bobl (8 y cant o oedolion) yn byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod 65,500 o bobl eraill yng Nghymru yn byw gyda diabetes math 2 ond sydd heb gael diagnosis.
Ni all pobl â diabetes gynhyrchu inswlin, sef hormon sy'n rheoli lefelau siwgr yn y gwaed, yn y ffordd arferol. Ni all cleifion â diabetes math 1 gynhyrchu unrhyw inswlin o gwbl. Mae pobl â diabetes math 2 naill ai ddim yn cynhyrchu digon o inswlin neu nid yw’r inswlin y maent yn ei gynhyrchu yn gweithio'n gywir. Diabetes math 2 yw'r mwyaf cyffredin, gan fod yn gyfrifol am 90 y cant o achosion.
Cyfran yr achosion diabetes yn ôl math
Ffynhonnell: Faint o bobl yn y DU sydd â diabetes? 2021-2022 Diabetes UK.
Er y gall rhai pobl â diabetes math 2 leihau lefel y siwgr yn y gwaed i lefel ddiogel, drwy broses y cyfeirir ati fel lleddfu diabetes, nid yw'r newid hwn bob amser yn barhaol. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn byw gyda’r cyflwr am weddill eu hoes.
Yn y tymor hir, gall diabetes arwain at nifer o gymhlethdodau iechyd difrifol, gan gynnwys trawiad ar y galon, strôc a phroblemau â’r traed neu’r llygaid. Mae gofalu am bobl â diabetes yn costio £500 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru.
Mae diabetes yn dod yn fwy cyffredin, gyda nifer yr achosion a gafodd ddiagnosis yn dyblu yn ystod y 15 mlynedd hyd at 2021 yn y DU. Y prif reswm am hyn oedd oherwydd bod mwy o bobl yn datblygu diabetes math 2.
Fodd bynnag, yn wahanol i diabetes math 1, mae'n bosibl atal diabetes math 2. Mae diabetes math 2 yn gysylltiedig â nifer o ffactorau risg, gan gynnwys ennill pwysau gormodol. O ganlyniad i hyn, gall newidiadau i ffordd o fyw, fel cynyddu gweithgarwch corfforol a gwella diet, leihau'r risg o ddatblygu diabetes math 2.
Gellir atal bron i hanner yr achosion o ddiabetes math 2 trwy newid ffordd o fyw
Ffynhonnell: Prediabetes. Diabetes UK.
Effaith y pandemig
Cyhoeddodd Diabetes UK Cymru adroddiad yn 2021 a amlygodd effaith y pandemig COVID-19 ar bobl â diabetes.
Mae pobl â diabetes yn wynebu risg uwch o ganlyniadau difrifol oherwydd y coronafeirws. Mae Diabetes UK Cymru yn nodi yr oedd gan 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru a Lloegr a fu farw yn ystod y pandemig ddiabetes.
Effeithiwyd ar ofal diabetes yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ac mae hi wedi bod yn anodd adfer y gwasanaethau perthnasol ers i’r pandemig fod ar ei anterth. Mae angen apwyntiadau rheolaidd ar gleifion â'u tîm diabetes i leihau’r siawns o ddatblygu unrhyw gymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr.
Fodd bynnag, adroddodd Diabetes UK Cymru ym mis Tachwedd 2021 fod traean o bobl â diabetes wedi nodi bod ymgynghoriadau wedi’u canslo a’u bod heb eu haildrefnu o hyd. Nid oedd traean hefyd wedi cael unrhyw gysylltiad â'r tîm sy'n gyfrifol am eu gofal ers i'r pandemig ddechrau.
Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd ailddechrau gwasanaethau arferol i bobl â chyflyrau cronig, fel diabetes, yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros yng Nghymru.
Nododd Diabetes UK Cymru fod defnyddio technoleg diabetes, fel dyfeisiau sy’n monitro lefelau glwcos yn y gwaed yn barhaus, wedi helpu llawer o gleifion i reoli eu cyflwr yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, yn aml dim ond i gleifion â diabetes math 1 y cynigir y dechnoleg hon.
I fynd i'r afael â'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael, argymhellodd Diabetes UK Cymru fod Llywodraeth Cymru yn:
- buddsoddi mewn gofal, cymorth a chamau ataliol ym maes diabetes fel prif flaenoriaeth;
- sicrhau bod mwy o bobl yn gallu defnyddio technoleg diabetes sy'n newid bywydau; a
- chymryd camau i leihau anghydraddoldebau mewn gofal diabetes.
Effaith costau byw
Yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gostau byw, gallai prisiau bwyd uchel hefyd effeithio ar gyfraddau cyflyrau sy'n gysylltiedig â gordewdra, gan gynnwys diabetes. Mae prisiau bwyd wedi parhau i godi ers diwedd 2021, gyda'r gyfradd chwyddiant blynyddol ar gyfer bwyd yn y DU yn cyrraedd 19.1 y cant ym mis Ebrill 2023.
Mae bwyd iach bellach dair gwaith pris bwyd nad yw’n iach, sy’n golygu mai dewisiadau llai iach yw’r dewis mwy fforddiadwy. Fodd bynnag, mae'r opsiynau hyn llai iach hyn yn cynyddu’r risg o ordewdra, sydd yn ei dro yn ffactor risg allweddol ar gyfer diabetes.
Mae diabetes eisoes yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwy difreintiedig o Gymru. Fodd bynnag, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y bydd y cynnydd aruthrol mewn costau byw yn gwaethygu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli, gallai'r bwlch hwn mewn cyfraddau diabetes ehangu ymhellach.
Pan holwyd am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael ag effaith yr argyfwng costau byw ar ddiabetes ym mis Ionawr 2023, atebodd y Gweinidog fel a ganlyn:
Rŷn ni'n deall bod y problemau costau byw yn mynd i effeithio ar bobl, ac rŷn ni'n ymwybodol mai'r bobl sy'n mynd i dalu'r pris mwyaf yw'r bobl tlotaf yn ein cymdeithas. Dyna pam rŷn ni wedi bod yn anelu ein harian ni tuag at y rheini.
Mae rhagor o wybodaeth am gymorth ar gyfer costau byw ar gael yn ein canllaw.
Atal diabetes yng Nghymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth, Pwysau Iach, Cymru Iach yn 2019, gan fodloni un o ofynion Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Nod y strategaeth hon yw cefnogi pobl i gynnal pwysau corff iach trwy hybu arferion iachach o ran ffordd o fyw. Y gobaith yw y bydd y newidiadau hyn yn lleihau'r risg o ddiabetes, ochr yn ochr â chyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â gordewdra. Cefnogir y strategaeth gan £13 miliwn o gyllid, drwy gydol ei hoes, i gyflawni ei nodau erbyn 2030.
Fel rhan o'r strategaeth, cafodd Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan ei chyflwyno, sef y rhaglen gyntaf o’r fath yng Nghymru.
Trwy fonitro lefelau siwgr yn y gwaed, caiff pobl sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 eu nodi a'u cofrestru ar y rhaglen. Maent yn cael ymgynghoriad hanner awr gyda gweithiwr cymorth gofal iechyd arbenigol sy'n rhoi cyngor ar sut y gallant atal datblygiad diabetes math 2.
Wedyn, gellir cyfeirio cleifion at wasanaethau eraill i'w helpu i wneud newidiadau fel rhan o Lwybr Cymru Gyfan ar gyfer Rheoli Pwysau. Mae'r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn rhoi mynediad i raglen 16 wythnos o ymarfer corff wedi'i theilwra, tra bod gwasanaethau rheoli pwysau, fel Bwyd Doeth am Oes yn rhoi gwybodaeth i gyfranogwyr am batrymau bwyta a dewisiadau iach o ran ffyrdd o fyw.
Mae Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Atal Diabetes wedi cael peth llwyddiant, gyda chleifion a gymerodd ran yn yr astudiaeth beilot yn nodi lefelau is o siwgr yn y gwaed ar ôl blwyddyn na'r unigolion na chymerodd ran.
Yn sgil y llwyddiant hwn, mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ledled Cymru. Caiff y broses hon ei chefnogi gan £1 miliwn o gyllid y flwyddyn, a addawyd hyd at 2024, gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Pwysau Iach, Cymru Iach.
Yn fwy cyffredinol, mae diweddariad 2022-24 i'r strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach yn cynnwys cynlluniau pellach sydd â’r nod o helpu pobl i wneud dewisiadau iachach. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth ar labelu calorïau mewn bwytai a siopau tecawê, yn cyfyngu ar gynigion arbennig ar fwydydd nad ydynt yn iach ac yn cyfyngu ar hysbysebion bwyd sothach erbyn 2024. Bydd hefyd yn annog teithio llesol, fel beicio, drwy fesurau sy’n cynnwys buddsoddi £1 miliwn mewn cynlluniau beiciau trydan.
Erthygl gan Ailish McCafferty, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Ailish McCafferty gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.