All cyfraith newydd roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 29/10/2025

Ddydd Mawrth 4 Tachwedd, bydd y Senedd yn trafod cyfraith newydd arfaethedig a fydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer ei chynllun i wneud digartrefedd yn beth prin a byrhoedlog nad yw’n ailddigwydd.

Bydd Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn ceisio gwneud hyn mewn tair prif ffordd:

  • drwy ddod â’r profion angen blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol i ben, i symud tuag at wasanaeth mwy cyffredinol sy’n cynorthwyo unrhyw ymgeisydd cymwys;
  • drwy gynyddu atal cynnar, gyda dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymyrryd pan fydd rhywun chwe mis i ffwrdd o fod yn ddigartref, yn hytrach na’r 56 diwrnod presennol; a
  • drwy roi lefel o gyfrifoldeb statudol i gyrff cyhoeddus eraill y tu hwnt i awdurdodau lleol am fynd i'r afael â digartrefedd, gan gynnwys dyletswyddau ‘gofyn a gweithredu’.

Mae ein Crynodeb o’r Bil yn egluro'n fanylach beth mae'r Bil yn ei wneud a'i gefndir. Mae'r erthygl hon yn nodi themâu allweddol o waith craffu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Mae'r holl dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor yn cytuno y bydd gweithredu llwyddiannus yn gofyn am lawer mwy o adnoddau ar gyfer digartrefedd, cymorth tai, a chyflenwad tai cymdeithasol. Ond mae Llywodraeth Cymru yn honni y bydd yn arbed arian yn y tymor hir.

Pwysau “anghynaliadwy”

Mae'r Bil yn seiliedig ar Bapur Gwyn cynharach a oedd yn ei dro yn seiliedig ar argymhellion gan Banel Adolygu Arbenigol. Dywedodd llawer o dystion wrth y Pwyllgor fod y Panel wedi datblygu’r argymhellion hyn drwy ‘gyfaddawd adeiladol’.

Roedd academyddion, arbenigwyr cyfreithiol, a chynrychiolwyr y trydydd sector yn canmol y Bil fel un ‘trawsnewidiol’. Er hynny, roedd gwrthwynebiad gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i lawer o ddarpariaethau allweddol.

Er bod cynghorau wedi pwysleisio eu bod yn cefnogi amcanion polisi’r Bil, roeddent yn amheus a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o adnoddau iddynt i’w weithredu’n llwyddiannus.

Disgrifiodd awdurdodau lleol fod y pwysau ar hyn o bryd yn ‘anghynaliadwy a dywedodd Cyngor Caerdydd byddai'r Bil yn annog mwy o bobl i mewn i system sydd eisoes methu ag ymdopi. Cyfeiriodd CLlLC at brofiadau blaenorol o asesiadau cost rhy optimistaidd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd tystion eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn helpu awdurdodau lleol i reoli’r galw’n well. Dywedodd yr Athro Suzanne Fitzpatrick, a oedd yn cadeirio’r Panel Adolygu Arbenigol:

The way that you decrease the pressures on the temporary accommodation system and the homelessness system generally is by reducing the number of people who have to enter the system in the first place, by doing a lot more on prevention than we’re doing at the moment. And equally, you have to increase the flow of people out of the system into suitable accommodation, and that's precisely what the core package, that was presented by the Expert Review Panel and has found its way into the Bill, is intended to achieve.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wrth y Pwyllgor ei bod hi'n deall y pwysau sydd ar awdurdodau lleol:

that's why I've proposed a phased approach to this implementation, but recognising that the reforms need to be funded sufficiently and sustainably, reflecting that true cost of delivery.

Cefnogodd y Pwyllgor egwyddorion cyffredinol y Bil ond pwysleisiodd “na fydd y ddeddfwriaeth ynddi ei hun yn ddigon”, gan alw am “ymdrech fawr” gan Lywodraeth Cymru a’r sector tai i ddarparu cartrefi cymdeithasol.

Dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr ymdrech hon yn “flaenoriaeth drawslywodraethol ac nad yw’n cael ei danseilio gan bolisïau eraill”.

‘Cosbi’n anhygoel’

Un o ddarpariaethau mwyaf dadleuol y Bil yw dod â’r prawf digartrefedd bwriadol i ben.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y prawf yn rhwystr i roi terfyn ar ddigartrefedd. Dywedodd tystion o'r trydydd sector y gall y prawf effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n agored i niwed. Dywedodd Crisis ei fod yn “cosbi’n anhygoel”.

Mae’r Bil yn creu prawf ‘manipiwleiddio bwriadol’ newydd. Yn hytrach na thorri ymgeiswyr i ffwrdd o bob cefnogaeth, mae’n cael gwared ar flaenoriaeth ar gyfer tai cymdeithasol mewn achosion lle mae rhywun wedi manipiwleiddio’r system digartrefedd yn fwriadol i gael mynediad ffafriol at dai cymdeithasol. Fodd bynnag, byddai gan awdurdodau lleol ddyletswydd o hyd i helpu’r aelwydydd hynny i ddod o hyd i gartref newydd.

Dim ond 87 aelwyd a gafodd eu canfod yn fwriadol ddigartref yn 2024-25, ac ni ddefnyddiodd 13 o 22 awdurdod lleol y prawf yn ffurfiol y flwyddyn honno. Ond dywedodd awdurdodau lleol fod y prawf yn aml yn cael ei ddefnyddio'n anffurfiol mewn trafodaethau gydag ymgeiswyr a’i fod yn offeryn pwysig o ran egluro disgwyliadau ac opsiynau.

Roedd awdurdodau lleol yn amau a fyddai'r prawf newydd yn ddigon o ddatgymhelliad. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith nad yw rhentu preifat yn fforddiadwy i nifer o ymgeiswyr digartref, sy’n golygu y gallai gwrthod blaenoriaeth iddynt ar gyfer tai cymdeithasol olygu eu bod yn gorfod aros mewn llety dros dro.

Mynegodd eraill bryder nad yw manipiwleiddio bwriadol, fel y'i diffinnir yn y Bil, yn ddigon gwahanol i'r prawf bwriadoldeb presennol a gallai arwain at ailadrodd yr un problemau.

Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo ag awdurdodau lleol ond daeth i’r casgliad ar y cyfan ei fod o blaid dod â’r prawf i ben a chreu un newydd. Croesawodd y ffaith bod llawer o awdurdodau eisoes wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio bwriadoldeb yn ffurfiol, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mabwysiadu'r arfer da hwnnw yn ehangach. Tynnodd sylw hefyd at yr angen am wasanaethau cymorth mwy dwys, fel cymorth ataliol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn rhoi gwell offer i awdurdodau lleol reoli anghenion cymhleth.

Tai cymdeithasol

Elfen allweddol arall yn y Bil yw dyletswydd newydd ar gymdeithasau tai i beidio â gwrthod cais gan awdurdod lleol i ailgartrefu ymgeisydd digartrefedd yn afresymol.

Mae wedi'i fodelu ar ddyletswydd Adran 5 Llywodraeth yr Alban, a dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod yw mynd i'r afael ag anghysondebau yn y graddau y mae rhai cymdeithasau tai yn rhoi tenantiaethau i ymgeiswyr a oedd yn ddigartref yn flaenorol.

Disgrifiodd  yr Athro Fitzpatrick fod y ddarpariaeth yn un o’r ffyrdd pwysicaf y gallwn leddfu’r pwysau presennol ar y system llety dros dro.

Ar ôl rhywfaint o wrthwynebiad, derbyniodd y sector cymdeithasau tai y ddarpariaeth yn gyffredinol ond galwodd am ddyletswydd ddwyochrog ar awdurdodau lleol i rannu gwybodaeth am denantiaid a atgyfeiriwyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad oedd hi'n credu y byddai dyletswydd ddwyochrog yn ymarferol nac yn angenrheidiol. Dywedodd y Pwyllgor y dylid mynd i’r afael â rhannu gwybodaeth mewn canllawiau statudol “wedi’u diffinio’n fanwl” i nodi pryd y gall cymdeithasau tai wrthod atgyfeiriad.

Darpariaethau eraill

Mae’r Bil hefyd yn cynnwys:

  • camau i atal digartrefedd ymhlith y rhai sy’n gadael y carchar;
  • pwerau newydd i awdurdodau lleol ddiffinio ‘personau cymhwysol’ a all wneud cais am dai cymdeithasol; a
  • chamau i atal y rhai sy'n gadael gofal rhag gorfod dod yn ddigartref i gael mynediad at dai cymdeithasol.

Bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 4 Tachwedd 2025. Gallwch ddilyn y trafodion ar Senedd.tv neu weld y trawsgrifiad yn fuan wedyn.

Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru