Ailbrisio ardrethi busnes 2023: beth yw goblygiadau hyn i Gymru

Cyhoeddwyd 31/03/2023   |   Amser darllen munudau

O 1 Ebrill efallai y bydd pobl sy’n talu ardrethi busnes yn gweld newid yn y swm a godir arnynt.

Yn yr erthygl hon, edrychwn ar y broses ailbrisio, yr hyn a wyddom am y newidiadau, a’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i drethdalwyr.

Beth yw ailbrisiad?

Mae ardrethi busnes, y cyfeirir atynt hefyd fel ardrethi annomestig, yn dreth a godir yn erbyn y rhan fwyaf o eiddo a ddefnyddir at ddibenion annomestig. Cânt eu cyfrifo gan ddefnyddio 'gwerth ardrethol' eiddo, sy'n seiliedig yn fras ar werth rhent blynyddol yr eiddo. Diweddariad o werthoedd ardrethol pob busnes ac eiddo annomestig arall ar adeg benodol yw ailbrisiad.

Daw'r ailbrisiad nesaf i rym ar 1 Ebrill 2023, ac mae’n seiliedig ar werthoedd ardrethol ar 1 Ebrill 2021. Caiff eiddo annomestig ar draws y DU ei ailbrisio ar yr un amserlen yn fras. Yng Nghymru a Lloegr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n cyflawni’r gwaith ailbrisio . Dywed Asiantaeth y Swyddfa Brisio bod ailbrisiadau yn “cynnal tegwch yn y system” a’u bod:

…help to redistribute the total amount payable in business rates. They are not carried out to generate extra revenue.

Mae ailbrisiadau wedi'u trefnu i’w cynnal bob pum mlynedd. Fodd bynnag, ym mis Awst 2020, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ohirio yr ailbrisiad arfaethedig, a goblygiadau hynny yw bod bwlch rhywfaint yn hwy rhyngddo a'r ailbrisiad blaenorol, a gynhaliwyd yn 2017 (ac a oedd yn seiliedig ar werthoedd ardrethol ar 1 Ebrill 2015).

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwneud hyn fel bod “y gwerthoedd ardrethol y mae biliau ardrethi’n seiliedig arnynt yn adlewyrchu effaith COVID-19 yn well”. Roedd hefyd yn golygu y byddai'r ailbrisiad yn digwydd ar yr un pryd â Lloegr. Mae'r ailbrisiad felly yn adlewyrchu newidiadau yn y gwerth rhwng 2015 a 2021.

Caiff swm yr ardrethi busnes y mae'n rhaid ei dalu ar eiddo annomestig ei gyfrifo drwy ddefnyddio 'lluosydd' a bennir yn flynyddol i werth ardrethol eiddo, ac yna tynnir unrhyw ryddhad perthnasol.

Graff sy’n dangos sut y cyfrifir ardrethi busnes blynyddol. Caiff y gwerth ardrethol ei luosi gan y lluosydd, sy’n 0.535 yn 2023-24 i roi atebolrwydd ardrethi busnes blynyddol, y bydd unrhyw ryddhad yn cael ei ddidynu ohono.

Beth yw goblygiadau ailbrisio i fusnesau?

Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio restr ardrethu ddrafft. Mae ystadegau sy'n gysylltiedig â'r rhestr honno yn darparu gwybodaeth am newidiadau mewn gwerthoedd ardrethol, gan gynnwys dadansoddiad ar draws sectorau.

Mae eiddo trethadwy annomestig naill ai'n perthyn i restr ardrethu leol neu restr ardrethu ganolog. Mae siopau, tafarndai, swyddfeydd ac eiddo eraill ar y rhestr leol, tra bod y rhestr ganolog yn cynnwys eiddo sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth, cyfleustodau a thelathrebu, ymhlith pethau eraill.

O’i gymharu â rhestr 2017, bydd cyfanswm gwerth ardrethol y rhestr leol ledled Cymru a Lloegr yn cynyddu 7.1 y cant, i ychydig dros £70 biliwn, ac mae ychydig o dan £2.5 biliwn o’r cyfanswm hwnnw yn ymwneud â Chymru. Yn Lloegr mae cynnydd o 7.3 y cant mewn gwerthoedd ardrethol ar draws y sectorau, ond ar gyfer Cymru mae'n gynnydd o 1.3 y cant. Mae amrywiadau fesul rhanbarth yn Lloegr, gyda’r cynnydd mwyaf yn Nwyrain Lloegr (14.4 y cant) a’r cynnydd lleiaf yn y Gogledd Ddwyrain (2.2 y cant), sy’n parhau yn uwch nag yng Nghymru.

Ffigur 1: Canran y newid yn y Gwerth Ardrethol o Restr Ardrethu Lleol, 2017 hyd 2023, fesul gwlad a rhanbarth o Loegr

Dwyrain	 Lloegr 14.4%, De-ddwyrain Lloegr 	10.9%, De-orllewin Lloegr 	9.5%, Gorllewin Canolbarth Lloegr	 9%, Dwyrain Canolbarth Lloegr 8.6%, Gogledd Orllewin Lloegr 	7.4%, Lloegr	 7.3%, Swydd Efrog a’r Humber	 4.7%, Llundain 	3.3%, Gogledd Ddwyrain Lloegr 	2.2%, Cymru	 1.3%.

 

Ffynhonnell: Tabl 1.0, Ardrethu annomestig: y newid yng ngwerth ardrethol rhestrau ardrethu, Cymru a Lloegr, Ailbrisiad 2023, Asiantaeth y Swyddfa Brisio

O edrych ar sectorau yng Nghymru a Lloegr, mae cyfanswm gwerth ardrethol y sector manwerthu yn gostwng tua 10 y cant. Mae gwerth ardrethol eiddo yn y tri sector arall yn cynyddu, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector diwydiant (27.1 y cant). Unwaith eto, mae gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn y modd y mae hynny’n gostwng. Yng Nghymru mae gwerth ardrethol y sector diwydiant yn cynyddu tua 12.1 y cant, ond yn Lloegr mae'n cynyddu 27.8 y cant.

Ffigur 2: Canran y newid yn y Gwerth Ardrethol o Restr Ardrethu Lleol 2017 hyd 2023 fesul sector

Pob Sector	 - Lloegr 7.3%, Cymru 	1.3%, Manwerthu	 - Lloegr -10%, Cymru 	-10.1%, Diwydiant - Lloegr 27.8%, Cymru 	12.1%, Swyddfeydd – Lloegr 	10.3%, Cymru 	5.7%, Arall	 - Lloegr 4.4%	, Cymru 1.5%.

 

Ffynhonnell: Tabl 1.0, Ardrethu annomestig: y newid yng ngwerth ardrethol rhestrau ardrethu, Cymru a Lloegr, Ailbrisiad 2023, Asiantaeth y Swyddfa Brisio

O ran y rhestr ardrethu ganolog, bu gostyngiad cyffredinol o 0.6 y cant yn y gwerth ardrethol, ond eto, mae'r stori'n wahanol fesul gwlad. Yn Lloegr gwelir gostyngiad o 0.7 y cant, ond mae disgwyl cynnydd yng Nghymru, sef 1.7 y cant.

Yn y cyfnod rhwng cyhoeddi’r rhestr ddrafft a’r rhestr derfynol a luniwyd, sy’n fyw ar 1 Ebrill 2023, bydd newidiadau’n cael eu gwneud. Mae'r ystadegau wedi'u diweddaru, yn seiliedig ar restrau ardrethu byw 2023, sydd i'w cyhoeddi ym mis Ebrill 2023.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig rhyddhad trosiannol

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig rhyddhad yn benodol i’r rhai sy’n gweld cynnydd yn eu hardrethi busnes o ganlyniad i’r ailbrisiad. Mae'n darparu gostyngiad i'w bil i bob trethdalwr y mae ei atebolrwydd yn cynyddu o fwy na £300. O ganlyniad, bydd y cynnydd yn cael ei gyflwyno’n raddol dros ddwy flynedd, sy’n golygu y bydd trethdalwr yn talu 33 y cant o’i rwymedigaeth ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24), 66 y cant yn yr ail flwyddyn (2024-25) a 100 y cant o’i atebolrwydd yn y drydedd flwyddyn (2025-26).

Yn ogystal â rhyddhad sy'n gysylltiedig â'r ailbrisio, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig nifer o gynlluniau eraill hefyd. Mae rhai o'r rhain yn 'barhaol', fel y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, tra bod eraill yn cael eu diffinio fel rhai 'dros dro'. Er enghraifft, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr y byddai'n parhau i gynnig rhyddhad penodol ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, dros dro, yn 2023-24, gan leihau biliau 75 y cant ar gyfer eiddo cymwys (yn 2022-23 cynigiwyd rhyddhad o 50 y cant).

Yn debyg i Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr y byddai hithau hefyd yn rhewi'r 'lluosydd' ar gyfer 2023-24 ar 0.535. Fel arfer mae'r lluosydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant (CPI) yn flynyddol. Mae cynyddu'r lluosydd yn cynyddu'r swm a delir gan drethdalwyr.

Y broses apelio

Gall trethdalwyr apelio yn erbyn eu gwerth ardrethol newydd o 1 Ebrill 2023.

Mae’r modd y mae gwaith apeliadau yng Nghymru yn newid, a bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig dull gweithredu newydd sy’n debyg i’r broses yn Lloegr.

O 1 Ebrill 2023, bydd angen i dalwyr ardrethi yng Nghymru sydd am apelio yn erbyn eu gwerth ardrethol ddefnyddio 'cyfrif prisio ardrethi busnes', ar ôl gallu defnyddio'r gwasanaeth 'dod o hyd i brisiad ardrethi busnes'. Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ganllawiau ar beth i'w wneud ym mhob un o'r camau apelio.

Diwygio Ardrethi Annomestig

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei chynlluniau i ddiwygio ardrethi busnes, ochr yn ochr â chynigion i ddiwygio’r dreth gyngor. Cyhoeddodd grynodeb o waith ymchwil ym mis Chwefror 2021, gan edrych ar rôl trethi lleol.

Yn fwy diweddar, cynhaliodd ymgynghoriad ynghylch amrywiaeth o gynigion ar gyfer diwygio ardrethi busnes, a hynny yn hydref 2022. Roedd y crynodeb o ymatebion (Chwefror 2023) yn cynnwys opsiynau i symud i ailbrisiadau bob tair blynedd. Mae cynigion yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys:

  • gwella llif gwybodaeth rhwng y llywodraeth a threthdalwyr;
  • rhoi rhagor o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ddiwygio rhyddhadau ac eithriadau;
  • adolygiad o ryddhadau ac esemptiadau;
  • darparu rhagor o sgôp i amrywio'r lluosydd;
  • gwella gweinyddiaeth swyddogaethau prisio a rhestrau ardrethu;
  • rhagor o fesurau i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru barhau i fynd i’r afael ag osgoi talu trethi; ac
  • ystyried dull amgen, fel treth gwerth tir lleol, i godi trethi lleol dros y tymor hwy.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud fel a ganlyn:

… byddwn yn datblygu eich cynigion ymhellach ar gyfer ein Bil Cyllid Llywodraeth Leol arfaethedig. Yn benodol, byddwn yn parhau’n ymrwymedig i gyflwyno prosesau ailbrisio tair blynedd a’r mesurau sydd eu hangen i’w cefnogi..

Gyda diwygio ar y gorwel, efallai y byddwn yn ysgrifennu am yr ailbrisiad nesaf yn gynt nag y bydd neb yn tybio.


Erthygl gan Owen Holzinger a Joe Wilkes Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru