Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Cyhoeddwyd 06/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Cafodd yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2017-18 ei gosod gan Lywodraeth Cymru ar 6 Chwefror 2018. Mae’r gyllideb atodol hon yn diwygio’r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2017-18, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2017. Mae Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2017-2018 ar 5 Mawrth.

Mae’r siart yn crynhoi’r newidiadau i’r dyraniadau ariannol yn gyffredinol, ynghyd â’r dyraniadau o ran refeniw a gwariant cyfalaf rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth Cymru, gan gymharu’r gyllideb atodol flaenorol â’r un gyfredol. Mae newidiadau sylweddol yn y Gyllideb Atodol hon, gan gynnwys nifer o ddyraniadau o’r cronfeydd wrth gefn, newidiadau rhwng refeniw a chyfalaf, a throsglwyddiadau rhwng portffolios. Mae’n cynnwys addasiadau i floc Cymru i adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd yng Nghyllideb yr Hydref 2017, Llywodraeth y DU, ac mae hefyd yn cynnwys newidiadau yn rhagolygon y Gwariant a Reolir yn Flynyddol yn unol â’r diweddariadau a ddarparwyd i Drysorlys Ei Mawrhydi.

Roedd Cyllideb Hydref 2017 Llywodraeth y DU yn cynnwys cyllid trafodiadau ychwanegol o £90 miliwn ar gyfer 2017-18.

Mae’r dogfennau a gyhoeddwyd ochr yn ochr â chynnig y Gyllideb Atodol yn cynnwys Nodyn Esboniadol sy’n rhoi manylion am y canlynol:

  • trosglwyddiadau rhwng Adrannau, neu bortffolios Gweinidogol, a throsglwyddiadau mawr o fewn Adrannau;
  • trosglwyddiadau i/o Lywodraeth y DU;
  • trosglwyddiadau i/o Gronfeydd Wrth Gefn; a
  • dadansoddiadau o fewn Adrannau.

Y prif gyllid ychwanegol a ddyrennir yn y gyllideb hon o’r cronfeydd wrth gefn yw:

  • £146 miliwn o refeniw a £41 miliwn o gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys £50 miliwn ar gyfer perfformiad y GIG; £35 miliwn ar gyfer pwysau a diffygion yn y gaeaf; £30 miliwn ar gyfer y gyfradd ddisgownt yn achos hawliadau am anaf personol; £26 miliwn ar gyfer y diffyg yn y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol; £3.8 miliwn ar gyfer y gordal iechyd mewnfudo; a £41.2 miliwn o gyfalaf ar gyfer Rhaglen Gyfalaf Cymru Gyfan.
  • £3.7 miliwn o refeniw a £134.8 miliwn o gyfalaf ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys £4.1 miliwn o refeniw ar gyfer Cronfa Cymunedau’r Arfordir; £49.8 miliwn ar gyfer tai fforddiadwy; £40 miliwn ar gyfer y Gronfa Safleoedd sydd ar Stop; £30 miliwn ar gyfer ailwampio ffyrdd; £10 miliwn ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu; a £5 miliwn ar gyfer cynllun adfywio canol trefi.
  • £16.7 miliwn o refeniw a £51.6 miliwn o gyfalaf ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys £7.9 miliwn ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, £4 miliwn ar gyfer Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, £3.6 miliwn ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr ‒ y cyfan yn refeniw; £27.8 miliwn ar gyfer prosiect yr M4; £13 miliwn ar gyfer Neptune 6; £8.7 miliwn ar gyfer y diwydiant dur; a £2.1 miliwn ar gyfer rhaglen estyn band eang - y cyfan yn gyfalaf.
  • £3.1 miliwn o refeniw cyllidol a o £300 miliwn o refeniw anghyllidol a £41.7 miliwn o gyfalaf ar gyfer Addysg, gan gynnwys £300 miliwn o refeniw anghyllidol mewn perthynas â stoc Benthyciadau Myfyrwyr a chostau Cyfrifo a Chyllidebu Adnoddau. £30 miliwn i’r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, £6.2 miliwn ar gyfer cyflawni argymhellion Adroddiad Diamond a £5.7 miliwn o gymorth ar gyfer y sector addysg uwch – cyfalaf.
  • £3 miliwn o refeniw ar gyfer y cynllun effeithlonrwydd ynni.
  • £20 miliwn o refeniw ar gyfer Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu, gan gynnwys £4 miliwn ar gyfer costau rhedeg Awdurdod Cyllid Cymru; £3.8 miliwn ar gyfer arian cyfatebol cronfeydd strwythurol yr UE; £2.1 miliwn ar gyfer trethi datganoledig; a £2 filiwn ar gyfer costau’r Cynllun Ymadael Gwirfoddol.

Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru