Athro gyda disgybl

Athro gyda disgybl

Adolygu’r diwygiadau ADY: Pigion

Cyhoeddwyd 10/10/2025

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn rhoi datganiad llafar ar ddiwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Senedd ddydd Mawrth. Rydym yn cynnig rhywfaint o wybodaeth cefndir isod.

  • Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi bod yn craffu ar weithrediad y system ADY newydd. Cyhoeddodd adroddiad ym mis Gorffennaf 2024, a drafodwyd gan y Senedd ym mis Hydref 2024.
  • Cafwyd gostyngiad o 53% yn nifer y disgyblion y nodwyd bod ganddynt ADY dros y pedair blynedd ers i’r system newydd gael ei chyflwyno. O 92,668 (19.5% o’r holl ddisgyblion) yn 2020/21 i 43,885 (9.5% o’r holl ddisgyblion) yn 2024/25.
  • Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gydnabod bod mwy o blant yn ymgyflwyno ag anghenion mwy cymhleth. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch a yw eu hanghenion yn cael eu bodloni a sut.
  • Yr wythnos hon lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y data i fonitro'r system ADY.
  • Yn ei hanfod, mae’r diffiniad o ADY yr un peth a’r diffiniad blaenorol o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Fodd bynnag, mae pryderon hirsefydlog bod y llwyth gwaith ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r system ADY – darparu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) i bob dysgwr sydd ag ADY- yn gallu ‘codi’r bar’ o ran mynediad at gymorth. Mae’r pryderon hyn yn dyddio yn ôl i’r ymgynghoriad ar y Cod ADY drafft yn 2019.
  • Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y cwymp yn y niferoedd ag ADY yn deillio o or-adrodd o AAA yn y gorffennol a ‘darpariaeth gyffredinol’ fwy effeithiol, sy’n bodloni anghenion llawer o ddisgyblion yn well (yn hytrach na gofyn Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol – y prawf ynghylch a yw anghenion yn golygu ADY).
  • Mewn ymateb ym mis Medi 2024 i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sefydlodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg adolygiad o’r deddfwriaeth a’r Cod ADY, a sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu. Yn dilyn datganiad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Cabinet ym mis Gorffennaf, disgwylir i’r adolygiad gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth (14 Hydref 2025) ynghyd â’i datganiad llafar.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.