Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru
Cyhoeddwyd 20/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
20 Ionawr 2016
Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1244" align="alignnone" width="682"]
Llun: o Flickr gan Kevin Saff. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Y prynhawn yma (dydd Mercher 20 Ionawr 2016), bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael dadl ar yr Adolygiad annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru.
Cafodd adroddiad interim ffeithiol yr adolygiad ei gyhoeddi ar 18 Rhagfyr 2015. Mae’r adroddiad interim yn grynodeb ffeithiol o’r dystiolaeth a gafodd yr adolygiad. Mae’r adroddiad terfynol a’r argymhellion i gael eu cyflwyno i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yr hydref hwn.
Yr Adolygiad
Sefydlwyd yr adolygiad gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ym mis Ebrill 2014.
Gofynnwyd i’r Athro Syr Ian Diamond gadeirio’r panel adolygu. Yr Athro Diamond yw Pennaeth ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Cylch gwaith yr Adolygiad
Mae blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer yr adolygiad yn cynnwys:

- ehangu mynediad - sicrhau mai ehangu mynediad yw amcan canolog unrhyw system yn y dyfodol, a’i bod yn system flaengar a theg;
- cefnogi anghenion sgiliau Cymru;
- cryfhau’r ddarpariaeth ran-amser a darpariaeth ôl-raddedig yng Nghymru; a
- chynaliadwyedd ariannol hirdymor.
- Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Prifysgolion Cymru;
- Rob Humphreys: Cyfarwyddwr Cymru y Brifysgol Agored ac Is-gadeirydd Prifysgolion Cymru; a
- Stephanie Lloyd yna Beth Button: Llywyddion Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru.
- Gareth Jones OBE: Cyn-brifathro a chyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru;
- Yr Athro David Warner, CBE: Cyn Is-Ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Enwebai y Blaid Geidwadol yng Nghymru
- Yr Athro Michael Woods: Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru. Enwebai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
- Roedd mwyafrif yr ymatebwyr a fynegodd farn yn credu nad oedd cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn;
- Ar y cyfan, mae diffyg consensws o ran y ffordd ymlaen. Mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd angen gwneud dewisiadau anodd;
- Ar y cyfan, mae’r sector addysg uwch yng Nghymru wedi elwa o gynnydd net mewn incwm ers cyflwyno’r gyfundrefn bresennol o ffioedd a chyllido – er ei bod yn bosibl na fydd y cynnydd mor uchel ag y rhagwelwyd a bod newidiadau mewn lefelau incwm yn wahanol iawn rhwng sefydliadau;
- Mae pryder, yn enwedig ymysg ymatebwyr yn y sector Addysg Uwch, ynghylch bwlch ariannu mawr sy’n cynyddu o ran y lefel o fuddsoddiad mewn addysg uwch yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU;
- Mae barn gref nad yw’r gyfundrefn bresennol o ariannu’r sector Addysg Uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol;
- Mae myfyrwyr Addysg Uwch sy’n byw yng Nghymru yn elwa o gael lefelau dyled myfyrwyr is na’r rheini sy’n byw yn Lloegr;
- Ceir cytundeb cryf, yn enwedig ymysg myfyrwyr, cyrff sy’n cynrychioli myfyrwyr, staff cymorth a gweithwyr proffesiynol ehangu cyfranogiad, bod lefel y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael yn annigonol i dalu am gostau gwirioneddol myfyrwyr a bod hyn yn fwy o broblem i fyfyrwyr na lefel y ffioedd dysgu a’r cymorth ffioedd dysgu.