Adolygiad Canol Tymor y Comisiwn Ewropeaidd o Strategaeth Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd hyd at 2020

Cyhoeddwyd 02/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

02 Mawrth 2016 Erthygl gan Rachel Prior, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4783" align="alignnone" width="500"]Delwedd o goetir Llun o Flickr gan Tim Green aka atoach[/caption] Ym mis Hydref 2015, cyhoeddwyd adolygiad canol tymor y Comisiwn Ewropeaidd o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE hyd at 2020. Ers hynny, mae Cyngor y Gweinidogion drwy Gyngor yr Amgylchedd a Senedd Ewrop wedi bod yn trafod eu hymatebion i ganfyddiadau’r Comisiwn. Gallwch ddarllen yr adolygiad canol tymor yma: Adolygiad canol tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE hyd at 2020, adroddiad Cyngor yr Amgylchedd yma: Adolygiad canol tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE hyd at 2020 – casgliadau’r Cyngor ac adroddiad Senedd Ewrop yma: Adolygiad canol tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE. Beth yw amcanion Strategaeth Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd hyd at 2020? Amcan y Strategaeth yw atal colli bioamrywiaeth a dirywiad ecosystemau yn yr UE erbyn 2020. Mae’n cynnwys chwe tharged sydd wedi’u nodi’n flaenoriaethau; yn gryno, y targedau hyn yw:
  1. Gweithredu’r Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd yn llawn
  2. Cynnal ac adfer ecosystemau a’u gwasanaethau
  3. Cynyddu cyfraniad amaethyddiaeth a choedwigaeth at fioamrywiaeth
  4. Sicrhau bod adnoddau o ran pysgodfeydd yn cael eu defnyddio’n gynaliadwy
  5. Mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron
  6. Cyflymu camau i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth fyd-eang
Pa gynnydd sy’n cael ei wneud tuag at yr amcanion hyn? Mae adolygiad canol tymor y Comisiwn yn asesu cynnydd tuag at bob un o’r targedau unigol, yn ogystal ag at y prif darged. Yn ôl yr adolygiad, nid oes cynnydd arwyddocaol cyffredinol wedi’i wneud tuag at y prif darged. Mae’n mynd ymlaen i fanylu ar y cynnydd a wnaed ar bob un o’r chwe tharged:
  1. Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud tuag at y targedau ar gyfer statws cadwraeth diogel/ffafriol rhywogaethau, cynefinoedd ac adar o dan y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd, ond nid yw cyfraddau presennol y cynnydd hwn yn ddigonol i gyrraedd y targed erbyn 2020.
  2. Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran cynnal ac adfer ecosystemau a’u gwasanaethau, ond ar gyfradd annigonol i gyrraedd y targed o adfer 15 y cant erbyn 2020.
  3. Nid oedd unrhyw gynnydd arwyddocaol yn amlwg o ran bioamrywiaeth amaethyddol, gyda 84 y cant o gynefinoedd a aseswyd wedi dirywio neu wedi aros naill ai’n anhysbys neu’n anffafriol yn ystod y cyfnod adrodd. Mewn cynefinoedd sy’n gysylltiedig ag ecosystemau coetiroedd a choedwigoedd, y ffigur oedd 82 y cant.
  4. Mae Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf wedi’i gyflawni mewn nifer o bysgodfeydd y gogledd, er bod cynnydd yn wael ym Môr y Canoldir a’r Môr Du.
  5. Mae’r Rheoliad newydd ynghylch Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn golygu mai rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yw’r unig darged a ddisgrifiodd y Comisiwn i fod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed.
  6. Bernir bod cynnydd tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang yn annigonol i gyrraedd y targed erbyn y dyddiad cau, er gwaethaf y ffaith mai’r UE yw’r cyfrannwr mwyaf at gymorth sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth, gan ddyblu’r cyllid perthnasol rhwng 2006 a 2013.
Ymateb Cyngor y Gweinidogion Mae casgliadau Cyngor yr Amgylchedd ar yr adolygiad canol tymor yn nodi sylwadau ar y cynnydd tuag at bob un o’r targedau yn unigol, yn ogystal â nodi rhai materion sy’n effeithio ar yr holl dargedau. Er enghraifft, mae’r Cyngor yn galw ar Aelod-wladwriaethau i wella ymhellach y ffordd y maent yn rhoi strategaethau cadwraeth bioamrywiaeth ar waith ac yn awgrymu y dylid datblygu mecanwaith i ddilyn y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ynghylch bioamrywiaeth. Mae casgliadau’r Cyngor yn cadarnhau pwysigrwydd y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd ac yn nodi’r rôl y mae’r rhwydwaith Natura 2000 o safleoedd gwarchodedig, a grëwyd gan y Cyfarwyddebau hyn, yn ei chwarae o ran gwella statws cadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd. Ymateb Senedd Ewrop Mae adroddiad Senedd Ewrop yn feirniadol o’r diffyg cynnydd a nodwyd yn yr adolygiad canol tymor. Mae’n mynegi pryder difrifol ynghylch y methiant i wneud cynnydd da tuag at y rhan fwyaf o’r targedau ar gyfer 2020. Mae’n nodi bod y duedd gyffredinol o ddirywiad parhaus mewn cynefinoedd a cholli bioamrywiaeth oherwydd hynny yn sefyllfa dywyll iawn sy’n peri pryder, gan nodi bod yr adolygiad yn cadarnhau canfyddiadau ‘The European Environment, State and Outlook 2015 Synthesis Report’ (SOER 15) a’r adroddiad ‘State of Nature’ bod y broses o golli bioamrywiaeth yn parhau. Mae’r adroddiad hefyd yn galw am fwy o ewyllys gwleidyddol tuag at gyflawni’r nodau, gan bwysleisio manteision economaidd a chymdeithasol bioamrywiaeth, yn ogystal ag amlygu barn dinasyddion yr UE. Mae’n datgan bod wyth allan o ddeg o ddinasyddion yr UE yn teimlo bod effaith colli bioamrywiaeth yn sylweddol, a bod ymgynghoriad ar-lein diweddar ar y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd wedi denu’r nifer uchaf erioed o gyfranogwyr. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod llesiant natur a lles cenedlaethau’r dyfodol yn annatod, felly mae angen ymdrech fwy cydunol ar frys i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn Ewrop a ledled y byd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg