Adferiad economaidd ar ôl y pandemig

Cyhoeddwyd 08/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru, o ganlyniad i'r pandemig, yn wynebu ei "her economaidd fwyaf o fewn cof yr oes hon". Bydd y Senedd yn trafod ei hadroddiad ar adferiad hirdymor o'r pandemig ar 10 Mawrth.

Maint yr her economaidd

Mae dangosyddion economaidd allweddol yn dangos maint effaith y pandemig ar economi Cymru. Roedd Cynnyrch Domestig Gross (CDM) Cymru wedi gostwng 2.4% yn chwarter cyntaf 2020, a 15.1% yn yr ail chwarter. Y nifer sy'n hawlio budd-dal diweithdra yng Nghymru, sy'n dangos nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd diweithdra, oedd 110,025 ym mis Ionawr 2021, bron i ddaywaith y lefel yr oedd ar ddechrau'r pandemig.

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal, SYG - addasir yn dymhorol

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi bod yn cynnal ymchwiliad i'r mater hwn. Mae wedi clywed tystiolaeth gan ystod eang o sefydliadau am yr heriau y mae economi, busnesau a gweithwyr Cymru yn eu hwynebu, gan gynnwys:

  • Rhannodd sectorau sydd wedi'u taro'n galed megis lletygarwch, twristiaeth, manwerthu a gwallt a harddwch eu profiadau mewn blwyddyn lwm iawn, gan dynnu sylw at y risgiau o ansolfedd busnesau a cholli swyddi yn eu sectorau. Dywedodd David Chapman o UK Hospitality wrth y Pwyllgor mai dyma'r sefyllfa fwyaf pryderus a pheryglus i'r sector iddo ei gweld oherwydd dwyster yr argyfwng.
  • Tynnodd y sectorau gweithgynhyrchu fel awyrofod a dur sylw at y tebygolrwydd y bydd galw yn parhau i ostwng yn y tymor byr, a risgiau dilynol i swyddi a'r gadwyn gyflenwi. Cyfeiriwyd hefyd at gyfleoedd yn y dyfodol megis defnyddio technolegau newydd a datgarboneiddio.
  • Amlinellodd yr undebau llafur effeithiau'r pandemig ar weithwyr ar gyflogau isel, sy'n methu fforddio byw ar ddim. Codwyd hefyd faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch ac ofnau gweithwyr o golli eu swyddi. Dywedodd Shavanah Taj o TUC Cymru ei bod yn bwysig dros ben nawr ein bod yn dechrau edrych ar gadw swyddi, diogelu swyddi a'r fargen uwchsgilio hefyd.
  • Tynnwyd sylw hefyd at y cenhedlaeth o bobl ifanc sydd wedi’u creithio gan yr effaith ddiweithdra ymysg pobl ifanc, gyda David Hagendyk o'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyfleu’r potensial y gallai hyn greu problemau cymdeithasol ac economaidd mawr i ni yn y dyfodol.
  • Roedd effeithiau economaidd anghyfartal y pandemig ar wahanol grwpiau o bobl hefyd yn amlwg. Nododd y tystion fanylion yr effeithiau ar fenywod, pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi tueddu i lunio polisïau sy'n 'ychwanegu' y grwpiau hyn yn hytrach nag ystyried cydraddoldeb fel colofn ganolog.

Yn ogystal â heriau sydd wedi deillio o'r pandemig, soniodd yr Athro Dylan Jones-Evans am heriau sylfaenol y mae economi Cymru yn eu hwynebu, gan gynnwys cynhyrchiant isel, lefelau cymharol isel o gyllid arloesi, a datblygu sgiliau digidol.

Cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad economaidd

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £1.9 biliwn ar gyfer cymorth busnes ers dechrau'r pandemig. Mae hyn yn cynnwys £100 miliwn mewn grantiau datblygu busnes i gefnogi busnesau i bontio i'r dyfodol, i ddatblygu, ac i sicrhau cyflogaeth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud dyraniadau ehangach i gefnogi ailadeiladu. Mae wedi dyrannu £320 miliwn ar gyfer buddsoddi cyfalaf, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chymorth i bobl ifanc ym mis Hydref 2020, i helpu i gyflawni'r blaenoriaethau yn Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau. Mae Cyllideb Derfynol 2021-22 Llywodraeth Cymru yn nodi dyraniadau cyfalaf o £224.5 miliwn i gefnogi ailadeiladu a chreu swyddi.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi ym mis Chwefror 2021 sy'n nodi ei chynlluniau i sicrhau economi ffyniannus, werdd a chyfartal ochr yn ochr â £270 miliwn o gyllid tan 2030 i gefnogi Banc Datblygu Cymru i ddarparu cyllid busnes hygyrch, hirdymor. Mae hwn yn nodi pum 'ffagl' a fydd yn ganolbwynt i weithgarwch Llywodraeth Cymru i sicrhau adferiad economaidd dros y tymor canolig a'r tymor hwy.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru Cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi

O ran yr economi sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynyddu arfer da a ganfuwyd drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol; gwella arferion caffael; cymryd camau i addasu ac ail-ddylunio canol trefi; a buddsoddi mewn seilwaith digidol a sicrhau bod pobl Cymru yn ddigidol hyderus.

I ddiogelu a galluogi sgiliau a chyflogaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i ddarparu "Twf Swyddi Cymru newydd"; datblygu rhaglen gyflogadwyedd newydd ar gyfer pobl dros 18 oed; cefnogi grwpiau difreintiedig y mae'r pandemig wedi effeithio'n arbennig arnynt; ac uwchsgilio ac ehangu'r gweithlu mewn sectorau twf gwyrdd.

Mewn perthynas â chyflymu ymaddasu ar gyfer adferiad a ffyniant, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu cynllun adfer gyda'r sectorau twristiaeth a lletygarwch; defnyddio rowndiau'r Gronfa Cadernid Economaidd yn y dyfodol i gefnogi busnesau; darparu cymorth ar gyfer arloesi ac allforion; cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau sy'n eiddo i weithwyr; a chymryd camau i gefnogi'r economi werdd.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio prosiectau adfer gwyrdd mawr fel 'magnedau' i ddenu buddsoddiad ehangach. Mae'n cynnig cyflawni hyn drwy ddatblygu canolfannau ymchwil a rhagoriaeth; sicrhau mewnfuddsoddiad mewn sectorau lle mae gan Gymru arbenigeddau; datblygu'r gweithlu; a manteisio ar gyfleoedd mewn technoleg werdd a chynhyrchu ynni.

Er mwyn sicrhau gwerth cymdeithasol mwy, nod Llywodraeth Cymru yw cryfhau ei Chontract Economaidd â busnesau sy'n cael arian cyhoeddus i gyflawni ei gofynion; sicrhau cenedl gwaith teg drwy wella amodau gwaith; a sicrhau gwerth cymdeithasol drwy brosiectau seilwaith.

Sicrhau 'yfory mwy disglair' i Gymru

O'r dystiolaeth y mae wedi'i chymryd, mae'r Pwyllgor wedi awgrymu nifer o atebion a chamau gweithredu a allai gefnogi adferiad economaidd a sicrhau "yfory mwy disglair", gan wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar draws ystod eang o feysydd:

  • Blaenoriaethu cymorth ar gyfer sectorau sydd wedi dioddef ergyd drom, gan gynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru amlinellu ei chynlluniau ar gyfer 2021-22; gweithio i ddatblygu strategaeth rheoli cyrchfannau ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch; a nodi cynigion ar gyfer y dyfodol i gefnogi'r rhai yn y celfyddydau a diwydiannau creadigol.
  • Cefnogi busnes drwy'r adferiad, gan gynnwys annog entrepreneuriaeth a busnesau newydd; sicrhau bod gan Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru ddigon o adnoddau i barhau i gefnogi busnesau; ac archwilio sut y gall y byd academaidd a busnes gydweithio i sicrhau twf a mwy o gynhyrchiant.
  • Darparu adferiad sy'n cael ei arwain gan sgiliau ac arloesi, lle mae sgiliau wrth wraidd rhaglen lywodraethu nesaf Llywodraeth Cymru; datblygu dull cydgysylltiedig o ddarparu sgiliau; a darparu cyllid ychwanegol i weithredu gweddill argymhellion yr Adolygiadau Reid a Diamond yn llawn.
  • Cefnogi adferiad gwyrdd, gan gynnwys blaenoriaethu buddsoddiad trawsnewidiol mewn adferiad gwyrdd; cyflymu buddsoddiad seilwaith gwyrdd sy'n barod i gychwyn, er mwyn hybu creu swyddi; a defnyddio cyllid sgiliau i gefnogi swyddi gwyrdd a mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau.
  • Hyrwyddo gwaith teg, gyda Llywodraeth Cymru yn cefnogi talu'r Cyflog Byw Go Iawn drwy ei chyllid adfer; gweithio i gryfhau ac ehangu cyrhaeddiad ei Chontract Economaidd, a datblygu trefniadau monitro ffurfiol; a nodi'r cynnydd o ran gweithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg.
  • Sicrhau adferiad i bawb, drwy brif ffrydio cydraddoldeb i fuddsoddiadau adfer Llywodraeth Cymru; sefydlu grŵp cynghori Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i weithio gyda'r llywodraeth ar adferiad economaidd, sgiliau a thrafnidiaeth hirdymor; ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau wneud ymrwymiadau hygyrchedd i weithwyr anabl gael cyllid adfer; a dyrannu cyllid adfer i gefnogi sectorau sy'n cyflogi menywod yn bennaf yn ogystal â rhai lle mae mwy o ddynion.
  • Atal cynnydd mewn diweithdra ymysg pobl ifanc a 'chenhedlaeth wedi'i chreithio', gan gynnwys asesiad brys gan Lywodraeth Cymru, ynghylch a ddylid cyflwyno Gwarant Cyfle Ieuenctid i bobl ifanc 16-24 oed; a datblygu cynlluniau cadarn i roi hyfforddiant a phrofiad gwaith o ansawdd uchel i bobl ifanc.
  • Cefnogi adferiad trafnidiaeth, gan gynnwys datblygu cynllun adfer ar gyfer bysiau a rheilffyrdd; ac ystyried sut i roi sicrwydd ariannu hirdymor ar fuddsoddiad trafnidiaeth awdurdodau lleol.

Gallwch wylio'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor drwy Senedd TV ar 10 Mawrth.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru