Rhes o dai brics coch wedi'u hadeiladu o'r newydd. Peth gwyrddni ar y ffryntiadau

Rhes o dai brics coch wedi'u hadeiladu o'r newydd. Peth gwyrddni ar y ffryntiadau

Adeiladu tai cymdeithasol: a all Llywodraeth Cymru wneud rhagor?

Cyhoeddwyd 16/02/2024   |   Amser darllen munudau

Mae cynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol yn gonglfaen i gynlluniau Llywodraeth Cymru i atal problemau tai a digartrefedd.

Gosododd Llywodraeth Cymru darged i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd ar rent cymdeithasol yn ystod cyfnod pum mlynedd y Senedd hon, rhwng 2021 a 2026. Yn y ddwy flynedd gyntaf, darparwyd 5,775 o gartrefi tuag at gyrraedd y targed.

Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys cartrefi newydd eu hadeiladu yn unig. Mae hefyd yn cynnwys cartrefi presennol y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu prynu, a chartrefi y maent yn eu sicrhau drwy adnewyddu neu ailfodelu tai. Darperir rhai gan ddatblygwyr preifat o dan gytundebau ag awdurdodau lleol.

Ni fu adeiladu tai cymdeithasol newydd 'erioed yn anoddach', yn ôl y corff cynrychioliadol ar gyfer cymdeithasau tai, sef Cartrefi Cymunedol Cymru.

Bydd ymchwiliad gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd nawr yn ystyried a all Llywodraeth Cymru wella ei dull gweithredu strategol.

Dychwelyd i gyfnod o ffyniant o ran adeiladu tai ar ôl y rhyfel?

Nid yw bob amser wedi bod mor anodd adeiladu tai cymdeithasol. Yn wir, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain rhwng canol y 1940au a chanol y 1970au, adeiladwyd tua 8,000 o gartrefi cymdeithasol newydd ar gyfartaledd bob blwyddyn yng Nghymru.

Mewn cyferbyniad i hyn, adeiladwyd 1,203 o anheddau newydd gan landlordiaid cymdeithasol yn 2022-23.

Ffigur 1: Anheddau newydd a adeiladwyd gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, 1946 i 2022-23*

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, cyrchwyd 7 Chwefror 2024.

* Mae data hyd at 1969 yn seiliedig ar flwyddyn galendr. Mae data ar ôl 1969 yn seiliedig ar flwyddyn ariannol.

Mae llawer wedi newid yn y farchnad dai ers y degawdau hynny ar ôl y rhyfel, ac ni chafodd llawer o'r cartrefi hynny eu hadeiladu i'r un safonau ag a geir heddiw. Serch hynny, mae llawer o academyddion, elusennau a melinau trafod y DU yn dadlau y dylai llywodraethau adfywio rhai o’r dulliau a oedd yn sail i’r ffyniant adeiladu tai hwnnw.

Thema gyffredin yn eu gwaith yw rôl gryfach ar gyfer y sector cyhoeddus wrth gynllunio, dylunio ac arwain y gwaith o gyflawni datblygiadau ar raddfa fawr mewn modd strategol. Mae sawl adroddiad yn argymell creu corfforaeth sy'n atebol i'r cyhoedd i arwain ar gydosod tir cyhoeddus a phreifat yn safleoedd mawr, i godi arian, i ddatblygu prif gynlluniau, i ymdrin â chaniatâd cynllunio, ac i wahodd cynigion gan ddatblygwyr am leiniau tir.

Yn y cyfnod ar ôl y rhyfel roedd y Corfforaethau Datblygu Trefi Newydd yn ymgymryd â’r rôl hon. Mae corfforaethau datblygu tir yn Nenmarc, Canada a De Corea ymhlith yr enghreifftiau rhyngwladol presennol.

Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dadlau y ‘gallai ailgynnau’r math hwn o ddatblygu ar raddfa fawr, i greu lleoedd newydd gwych i fyw a gweithio ynddynt, gyda gogwydd cryf tuag at ddeiliadaethau pro-ddiogelwch i’r rhai sy’n cael eu gwasanaethu’n wael gan y farchnad bresennol wneud cyfraniad sylweddol at ddiwallu’r angen am dai mewn ardaloedd ble mae galw mawr.’

Beth yw'r dull gweithredu ar hyn o bryd?

Y brif ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu tai cymdeithasol yw drwy sicrhau bod Grant Tai Cymdeithasol ar gael i landlordiaid.

Mae Llywodraeth yr Alban, sydd ag amcanion tebyg, i adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr yn cynnig ei bod am dorri cyllid ar gyfer tai fforddiadwy 26% yn 2024-25. Yn wahanol i hyn, mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn yn torri Grant Tai Cymdeithasol 1.5%, i £325 miliwn.

Grant arall sy'n cyllido’r ddarpariaeth tai cymdeithasol yw'r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP). Cyflwynwyd y Rhaglen hon yn 2022-23 i gefnogi prosiectau sy'n darparu tai yn gyflym mewn ffordd hyblyg, gan gynnwys drwy brynu tai sy’n bodoli eisoes, ailfodelu a dulliau adeiladu modern.

Yn ei blwyddyn gyntaf, cefnogodd y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol landlordiaid cymdeithasol drwy roi £76.4 miliwn, i ddarparu 936 o gartrefi. Nid oes llinell benodol yn y gyllideb ar gyfer y Rhaglen, ond fe'i hariennir drwy danwariant a brigdorri'r Grant Tai Cymdeithasol.

Mae darparu grant yn rhoi’r cyfrifoldeb ar landlordiaid cymdeithasol i gyflwyno cynigion ar gyfer safleoedd newydd, ond mae sawl ffactor yn gwneud hyn yn heriol i’w gyflawni ar gyfer landlordiaid.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig ar y gyllideb ddrafft, cyfeiriodd Cartrefi Cymunedol Cymru at rwystrau, gan gynnwys oedi a chymhlethdod cynllunio, costau cynyddol yn sgil chwyddiant, ac ansicrwydd parhaus ynghylch sut y gall y sector fforddio datgarboneiddio cartrefi presennol.

Beth arall sy'n digwydd?

Yn ogystal â darparu cyllid grant, mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddulliau gweithredu eraill. Mae'r Cytundeb Cydweithio yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu Unnos, sef cwmni adeiladu cenedlaethol.

Mae cynnig Plaid Cymru ar gyfer Unnos yn disgrifio cwmni sy’n eiddo i’r cyhoedd, sy’n atebol i’r Senedd, a fyddai’n codi cyllid hirdymor ac yn cydosod tir cyhoeddus a phreifat, gan hyrwyddo arferion adeiladu da a chadwyni cyflenwi yng Nghymru.

Darparodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn o gyllid refeniw i Unnos yn 2023-24 ac mae wedi addo £1 miliwn arall i’r Cynllun yn 2024-25 i ariannu ei ddatblygiad cychwynnol.

Ni soniwyd am Unnos yn adroddiad blynyddol y Cytundeb Cydweithio ar gyfer 2022-23, ond rhoddodd y Prif Weinidog ddiweddariad llafar yn ystod sesiwn graffu ar 8 Rhagfyr 2023. Dywedodd y cytunwyd ar amcanion craidd, gan gynnwys gwella cadwyni cyflenwi, hyrwyddo dulliau adeiladu modern, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, a goresgyn rhwystrau fel ffosffadau.

Yn ogystal â darparu grant a datblygu amcanion ar gyfer Unnos, mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â darparu tai drwy gyfres o 'safleoedd enghreifftiol' fel y'u gelwir.

Gan ddefnyddio tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, yn ogystal â phrynu rhagor, mae Is-adran Tir Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda datblygwyr a buddsoddwyr i gefnogi adeiladu oddeutu 6,000 o gartrefi ar draws 27 o safleoedd dros y pum mlynedd nesaf, a bydd tua 2,600 o’r rhain yn gartrefi fforddiadwy.

Wrth graffu ar y gyllideb ddrafft ar 18 Ionawr 2024, dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wrth y Pwyllgor:

We’re very keen to make sure that we use Welsh Government land to show people what can be done – what can be developed in a way that gives you a decent return on your money, but also really excellent mixed-use developments, mixed-tenure developments, as well.

Mae rhai safleoedd yn cael eu datblygu drwy bartneriaeth â Chartrefi Tirion, sef datblygwr preswyl dielw y gwnaeth Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu y Principality helpu i’w sefydlu yn 2012. Mae Tirion wedi arwain datblygiadau yn Y Felin yn Nhreganna, Caerdydd a Llys Brenhinol Victoria yng Nghasnewydd heb ddefnyddio Grant Tai Cymdeithasol.

Teclyn arall ym mlwch offer Llywodraeth Cymru yw'r Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo bod datblygiadau tai fforddiadwy penodol er budd y cyhoedd. Effaith hyn fyddai amrywio'r rheolau llywodraethu ar gyfer prynu gorfodol, a goblygiadau hyn fyddai ei bod yn rhatach i brynu tir ar gyfer y datblygiadau hynny.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatganiad am y pwerau newydd hyn ym mis Awst 2023, ond nid yw wedi dweud dim ers hynny.

A fydd hyn yn ddigon?

Ym mis Tachwedd dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n cadw at y targed o 20,000, ac ychwanegodd nad oeddent yn tybio y gellid darparu 4,000 y flwyddyn am bum mlynedd.

If you look at the last Senedd term, actually, the target accelerated because we put the money in this end, and it takes a while for it to come through and out the other end.

Os cyrhaeddir y targed, mae’r Pwyllgor yn awyddus i ystyried a yw’n ddigon i ddiwallu’r angen am dai.

Yn ystod yr ymchwiliad clywir gan amrywiaeth o arbenigwyr, a gofynnir a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud defnydd llawn o’i holl offer; a oes gwersi i'w dysgu o fannau eraill; ac a oes modd meddwl ar raddfa fwy a chynyddu yn hyn o beth, er mwyn cyflawni rhagor.

Mae’r alwad am dystiolaeth ysgrifenedig yn parhau tan 19 Ebrill 2024.


Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru