Llun o ganol tref Llanberis

Llun o ganol tref Llanberis

Adeiladu’r economi: A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i sicrhau gwaith teg, cynaliadwyedd ac economi’r dyfodol?

Cyhoeddwyd 13/09/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma’r drydedd mewn cyfres o ddeg erthygl sy’n ystyried i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn llwyddo i roi ei Rhaglen Lywodraethu ar waith. Yma, rydym yn ystyried yr amcan llesiant i “Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol".

Mae 10 ymrwymiad penodol o dan yr amcan eang hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhain yn ei hadroddiad blynyddol. Mae hefyd nifer o ymrwymiadau Gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Gyda'r DU hanner ffordd drwy’r gostyngiad mwyaf erioed mewn safonau byw, yn ôl y rhagolygon, a rhagolwg economaidd heriol, mae llawer wedi newid ers cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu ddwy flynedd yn ôl. Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni ei amcan i adeiladu economi ar sail diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol, gwaith teg a chynaliadwyedd? Yn yr erthygl hon, rydym yn ystyried yr hyn a gyflawnwyd hyd yma.

Adeiladu diwydiannau’r dyfodol

Yn ei Chynllun Gweithredu ar yr Economi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu “atgyfnerthu diwydiannau’r dyfodol”. Mae’r clwstwr lled-ddargludyddion o amgylch Casnewydd wedi bod yn faes allweddol, a chafodd busnesau yn y sector gymorth i ehangu gan Lywoddraeth Cymru. Dywedodd Gweinidog yr Economi “mae hwn yn faes lle gallai'r ddwy Lywodraeth wneud mwy trwy fod â pherthynas fwy ffrwythlon ac adeiladol â'i gilydd”. Mae’r Gweinidog hefyd wedi awgrymu fod strategaeth lled-ddargludyddion Llywodraeth y DU “ychydig yn siomedig”.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £100 miliwn dros gyfnod o 10 mlynedd yn rhaglen y Cymoedd Technegol. Mae’r prif fuddsoddiadau a wnaed fel rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol a’r campws technoleg gynaliadwy ym Mlaenau Gwent. Mae cwestiynau am nifer y swyddi a grëwyd hyd yn hyn o ganlyniad i’r buddsoddiad. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod potensial i greu rhagor o swyddi unwaith y bydd prosiectau wedi'u cwblhau.

Nod Llywodraeth Cymru yw creu cymdeithas carbon isel a buddsoddi mewn “seilwaith carbon isel, prosiectau ynni adnewyddadwy a chartrefi cynaliadwy”. Mae'n bwriadu hybu’r economi werdd drwy fuddsoddi mewn 'prosiectau magnet' i ysgogi buddsoddiad ehangach. Mae’n canolbwyntio ar feysydd fel ynni gwynt arnofiol ar y môr ac ynni’r llanw, yn ogystal â sectorau sy’n datblygu, fel hydrogen. Un enghraifft yw Cronfa’r Her Morlynnoedd Llanw, a agorodd ym mis Mehefin. Mae’r Gronfa’n derbyn ceisiadau am waith ymchwil i leihau neu ddileu rhwystrau sy’n atal cynlluniau i ddatblygu morlynnoedd llanw, cyn dyfarnu cyllid yng ngwanwyn 2024.

Mae'r ddau borthladd rhydd sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn ne-orllewin Cymru ac ar Ynys Môn hefyd yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a thechnoleg carbon isel. Y nod yw creu 20,000 o swyddi a sicrhau buddsoddiad o £5 biliwn bron. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud y bydd porthladdoedd rhydd y DU yn denu swyddi a buddsoddiad ychwanegol, ond bydd rhywfaint o hyn, meddai, yn digwydd ar draul ardaloedd eraill, neu ni fydd fawr o werth ychwanegol i’r buddsoddiad gan y byddai wedi digwydd beth bynnag. Wrth fesur llwyddiant y polisi, bydd yn bwysig ystyried i ba raddau y bydd hyn yn digwydd. Ystyriaethau pwysig eraill yw trefniadau llywodraethu, a'r effaith ar hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol.

Datblygu gweithlu medrus

Mae Gweinidog yr Economi wedi dweud y bydd sgiliau “yn ffordd allweddol o alluogi’r pontio i economi sero net”. Fodd bynnag, yn ôl Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “nid oes gan y system addysg a sgiliau y gallu i ailsgilio gweithwyr presennol a helpu i ddatblygu’r gweithlu ar gyfer y dyfodol”.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net: 'Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach’' yn egluro’i chynlluniau ar gyfer y maes hwn. Mae gan y cynllun saith maes blaenoriaeth, gan gynnwys meithrin dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol o ran sgiliau ym mhob sector, datblygu gweithlu medrus sero net; a chryfhau’r system sgiliau.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol yn cynghori Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ynghylch paratoi ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, ac mae ei ymateb i’r cynllun yn gymysg. Mae’n dweud ei fod yn galonogol ac yn well na’r hyn sy’n digwydd ar lefel y DU, ond bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant a mwy penodol yn y maes hwn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi mewn Cyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd, a fydd yn “cefnogi sgiliau sero net newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg a hynny mewn sectorau sydd wedi’u targedu”. Mae'r rhain yn caniatáu i’r rhai dros 19 oed astudio'n rhan-amser i ennill y cymwysterau y mae arnynt eu hangen i newid gyrfa neu uwchsgilio yn eu gyrfa bresennol.

Ar ddechrau’r Chweched Senedd, roedd pryderon y byddai’r pandemig yn arwain at “genhedlaeth goll” o bobl ifanc a fyddai wedi’u creithio gan ddiweithdra. Mewn ymateb i hyn, lansiodd Llywodraeth Cymru y Warant i Bobl Ifanc ym mis Tachwedd 2021. Mae’n cynnig rhaglenni o dan un ymbarel sy’n rhoi cyfle i bawb dan 25 oed gael gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth; Ers ei lansio, mae’r Warant “wedi helpu mwy nag 20,000 o bobl ifanc, ac mae 11,000 ohonynt wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd”.

Un o brif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu yw creu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Senedd hon. Ym mis Gorffennaf, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod “wedi creu dros 28,000 o brentisiaethau pob oed newydd ers mis Mai 2021”.

Fodd bynnag, dywedodd Gweinidog yr Economi yn gynharach eleni na fydd y targed yn cael ei gyrraedd erbyn diwedd y Chweched Senedd, ac y bydd yn cymryd chwe blynedd i wneud hynny yn lle pump.

Hybu economïau lleol

Gweithiodd nifer ohonom gartref yn rheolaidd am y tro cyntaf yn ystod y pandemig. I adeiladu ar hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed i 30% o bobl weithio gartref neu’n agos at eu cartref yn rheolaidd. Mae data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod rhwng 25% a 40% o weithwyr yng Nghymru yn gweithio yn rhywle heblaw’r gweithle am rywfaint o'r amser o leiaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amrywiaeth o bolisïau 'canol trefi yn gyntaf' i greu canol trefi mwy ystwyth. Drwy ei Rhaglen Trawsnewid Trefi, bydd yn rhoi £100 miliwn i awdurdodau lleol a’u partneriaid rhwng 2022 a 2025 i ailddatblygu a gwella canol trefi. Fodd bynnag, er bod Archwilio Cymru yn cydnabod bod “symiau mawr” wedi’u buddsoddi, mae’n amau a fydd y cyllid hwn “yn helpu i greu canol trefi cynaliadwy”.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn nifer y banciau sy’n cau yng nghanol trefi a’r tu hwnt. Mae Llywodraeth Cymru o blaid creu Banc Cymunedol i Gymru i fynd i'r afael â hyn ac mae wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf, penderfynodd y gymdeithas adeiladu roi’r gorau i weithio ar ei gynlluniau ar gyfer y banc cymunedol, gan sôn am yr ansefydlogrwydd presennol a’r heriau parhaus sy’n wynebu economi’r DU. Mae'n aneglur ble mae hyn yn gadael cynlluniau'r Llywodraeth er bod Gweinidog yr Economi wedi ymrwymo i ystyried “pob opsiwn ar gyfer creu banc cymunedol yng Nghymru”.

Mae pedair o bob deg swydd yng Nghymru yn sector yr economi sylfaenol, sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau bob dydd fel iechyd a gofal, manwerthu a thwristiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol i helpu busnesau yn y sectorau hyn i “greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref”. Nod y gronfa yw mynd i'r afael â phroblemau fel cyflogau isel “cyffredin” a gwaith ansicr, ynghyd ag ymrwymiadau eraill y Rhaglen Lywodraethu fel talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.

Sicrhau gwaith teg

Yn 2019, cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd yn cynnwys 48 o argymhellion. Mae pob un o’r chwe argymhelliad roedd y Comisiwn yn rhoi blaenoriaeth iddynt wedi eu cyflawni, yn ogystal â rhai blaenoriaethau eraill. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r argymhellion eraill yn ystod y Chweched Senedd, er y gallai’r dulliau gweithredu fod yn wahanol i'r hyn a awgrymwyd.

Un o brif argymhellion y Comisiwn oedd y dylai ei sylwadau fod yn sail i ddatblygu deddfwriaeth i roi sylfaen statudol i bartneriaethau cymdeithasol. Cafodd y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mai 2023, gan gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu “i roi sail statudol i bartneriaethau cymdeithasol”.

Mae’r sylw’n awr yn troi at roi’r Ddeddf ar waith. Er mwyn cyflawni potensial y Ddeddf, mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn gliriach ynghylch yr hyn y mae am ei gyflawni drwy’r ddeddfwriaeth. Wrth i Lywodraeth y DU roi’r ddeddfwriaeth ar waith, byddwn yn gweld faint o sylw a roddwyd i’r pryderon hyn.

Mae'r Contract Economaidd yn gofyn i fusnesau ymrwymo i bedair egwyddor er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru:

  • economi hyblyg a chryf;
  • gwaith teg;
  • hyrwyddo lles;
  • carbon isel a gwrthsefyll yr hinsawdd.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i gryfhau'r contract, a fydd yn cael ei lywio gan y gwaith gwerthuso sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Y llynedd, clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd fod diffyg dealltwriaeth o’r contract, a bod angen ei fonitro a’i orfodi’n well er mwyn cryfhau ei effaith. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod “mwy i’w wneud” i esbonio a hyrwyddo'r contract, ac mae'n monitro’r modd y caiff ei roi ar waith i nodi cyfleoedd i'w gryfhau.

Heriau tymor hir

Er bod llawer o'r heriau sy'n wynebu economi Cymru yn heriau tymor hir a strwythurol, mae llawer wedi newid ers cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu yn 2021. Disgwylir y bydd pobl yn wynebu’r gostyngiad mwyaf erioed mewn safonau byw, mae cartrefi a busnesau’n talu llawer mwy na’r disgwyl am ynni, ac mae cyfraddau llog ar eu huchaf ers 15 mlynedd.

Rhaid aros i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r heriau hyn, a sut y byddant yn effeithio ar ei gallu i roi’r Rhaglen Lywodraethu ar waith yn ystod y Chweched Senedd.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Gareth Thomas a Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru