Yr wythnos diwethaf gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad i nodi 25 mlynedd ers cychwyn Wythnos Ffoaduriaid (19-25 Mehefin).
Gan gyfeirio at thema eleni o ‘dosturi’, cyfeiriodd y Gweinidog at y gwaith parhaus a wneir gan lywodraeth leol, y trydydd sector ac eraill i gefnogi ffoaduriaid sy’n dod i Gymru.
Er bod polisi mewnfudo wedi’i gadw’n ôl gan Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu mabwysiadu dull gwahanol mewn rhai meysydd. Er enghraifft, mewn ymateb i'r argyfwng yn Wcráin, aeth Llywodraeth Cymru ati i noddi ffoaduriaid a darparu cymorth ychwanegol drwy greu canolfannau croeso.
Gan gydnabod y gellid gwneud mwy o waith i gefnogi ffoaduriaid, ymrwymodd y Gweinidog i ddiweddaru’r cynllun cenedl noddfa eleni. Fodd bynnag, gallai Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU gael effaith sylweddol ar ymrwymiad Cymru i fod yn Genedl Noddfa. Mae’r erthygl hon yn trafod effaith y Bil a’r materion allweddol y mae angen i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth ddiweddaru ei chynllun.
“Pryder dwys” am yr effaith ar blant
Wrth sôn am yr hyn y mae’r Bil Mudo Anghyfreithlon yn ei wneud, dywedodd Llywodraeth y DU:
The Illegal Migration Bill places a duty on the Secretary of State to make arrangements, as soon as reasonably practical, to remove any person who enters the UK illegally and has not come directly from a country where their life and liberty was threatened. They will be removed to either their home country (if safe to do so) or to a safe third country.
Un pryder allweddol gan rai rhanddeiliaid yw sut y bydd hyn yn berthnasol i blant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain. Os caiff y Bil ei basio, bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i symud plentyn ar ei ben ei hun o’r DU cyn iddo droi’n 18 oed. Dywedodd Llywodraeth y DU mai dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y byddai’n gwneud hynny (h.y. eu haduno ag aelodau’r teulu).
Mae’r Bil yn rhoi pwerau newydd i’r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu neu drefnu llety a chymorth i blant ar eu pen eu hunain nes bod awdurdod lleol yn eu derbyn i’w gofal. Byddai gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer hefyd i drosglwyddo plentyn yn ôl i lety’r Swyddfa Gartref o’r awdurdod lleol. Gellid defnyddio’r pŵer hwn i gadw plant cyn eu halltudio fel oedolyn, neu os penderfynir y byddant yn cael eu symud tra’n dal yn blentyn.
Bydd gwelliannau a wnaed i’r Bil hefyd yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried plentyn sy’n gwrthod rhoi caniatâd i gael ‘asesiad oedran gwyddonol’ (h.y. archwilio a mesur rhannau o gorff person ac asesiad radiolegol, gan gynnwys pelydrau-x deintyddol) i gael ei drin fel pe bai’n oedolyn.
Mae elusennau plant blaenllaw wedi mynegi “pryder dwys” am y plant y byddai’r Bil yn effeithio arnynt. Dywed elusennau plant yng Nghymru fod y Bil yn tanseilio’r agwedd “plant yn gyntaf, mudwyr yn ail” yng Nghymru.
Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio i atal cydsyniad
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan nad yw’n credu bod darpariaethau’r Bil yn ymwneud â materion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac felly’n debygol o fwrw ymlaen â’r Bil ar y sail honno.
Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno ac wedi nodi’r rhesymau dros hynny mewn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm) ar gyfer y Bil ym mis Mawrth a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol. Maent yn datgan bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol wedi’u datganoli’n llawn i Lywodraeth Cymru ac mai Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am bob penderfyniad polisi sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofalu am blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches.
Mae’r Memorandwm wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd i’w ystyried.
Daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i’r casgliad ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru ystyried yr hyn y gallai gweithredu’r Bil ei olygu i Gymru. Awgrymodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gynnal “Asesiad Effaith ar effaith y Bil yng Nghymru gyda'r bwriad o lywio ymateb polisi'r sector cyhoeddus datganoledig”.
Cafodd y Pwyllgorau dystiolaeth hefyd yn nodi pam y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cynllun gwarcheidiaeth annibynnol i ddarparu cyngor ac eiriolaeth i blant ar eu pen eu hunain.
Mae cynllun eisoes ar waith yn yr Alban a chafodd ei argymell gan Bwyllgor CCUHP ar Hawliau’r Plentyn. Nid oes cynllun ar gael yng Nghymru (er gwaethaf galwadau cyson i sefydlu un) ac mae rhanddeiliaid yn dadlau bod y Bil yn cryfhau’r dadleuon dros wneud hynny.
Ar 20 Mehefin, cytunodd mwyafrif o Aelodau o’r Senedd i atal eu cydsyniad i’r darpariaethau a gwmpesir gan y ddau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Disgrifiodd Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, y Bil fel darn o ddeddfwriaeth aneffeithiol a di-sail a dywedodd fod rhaid i gynrychiolwyr etholedig pobol Cymru gael yr hawl i benderfynu beth sydd o fudd i’w cymunedau eu hunain a phwy fyddent yn croesawu i’r cymunedau hynny.
Wrth gefnogi’r Bil, dywedodd Mark Isherwood, yr Aelod Ceidwadol Cymreig, gan fod mudo anghyfreithlon wedi’i gyfyngu, y bydd gan lywodraeth y DU fwy o gapasiti i ddarparu hafan ddiogel i’r rhai sydd mewn perygl o ryfel ac erledigaeth, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i gynyddu llwybrau diogel a rheolaidd.
Cynllun Cenedl Noddfa ar ei newydd wedd
Bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried effaith y Bil os caiff ei basio, yn enwedig ei effaith ar ei Chynllun Cenedl Noddfa, y mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i’w ddiweddaru eleni.
Dywedodd y Gweinidog wrth y Senedd yn gynharach y mis hwn ei bod yn sefydlu bwrdd gweinidogol ac yn ehangu cwmpas y tasglu ffoaduriaid presennol.
Wrth adolygu’r cynllun, bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried effaith y Bil ond hefyd materion eraill sy’n ymwneud â gweithredu polisi Cenedl Noddfa. Dyma rai o’r materion allweddol:
- Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am iechyd. Ond canfu astudiaeth ddiweddar i wasanaethau cyfieithu ar y pryd y GIG y gall fod yn anodd i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ceiswyr lloches a staff y GIG gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Gwnaeth ymchwiliad i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ganfod bod hyn hefyd yn broblem i fenywod mudol.
- Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi mynegi pryderon ynghylch a oes digon o lety ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin a oedd wedi cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru.
- Nododd adroddiad diweddar ddiffyg cyngor ar fewnfudo yng Nghymru. Argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd arweiniad strategol i sicrhau mynediad at gyngor i bob mudwr.
- Mae Sefydliad Bevan wedi annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ymagwedd bolisi eang, ragweithiol a chynhwysol tuag at yr holl fudwyr yng Nghymru. Yn hytrach na chanolbwyntio ar geiswyr lloches a ffoaduriaid maen nhw’n dweud y dylai cynllun ystyried anghenion yr holl fudwyr all fod angen cymorth, amddiffyniad a gwasanaethau arbenigol.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried sut i sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn croesawu’r syniad o genedl noddfa. Canfu dadansoddiad o ymgyrch ‘Stop the Boats’ Llywodraeth y DU gan y mudiad ‘Hope not Hate’ fod datganiadau’r llywodraeth a sylw yn y cyfryngau yn chwarae rhan o ran ysgogi ymgysylltiad adain dde eithafol ynghylch mudo.
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cydnabod bod yna faterion yn ymwneud â thwf y dde eithafol, a dywedodd “nad yw Cymru yn ddiogel rhag y casineb a'r anoddefgarwch yr ydym ni wedi eu gweld mewn mannau eraill”.
Bydd angen i’r cynllun Cenedl Noddfa ar ei newydd wedd ystyried ffyrdd o fynd i’r afael â’r mater hwn – gan gydnabod bod croeso cynnes hefyd yn dibynnu ar y bobl sy’n byw ochr yn ochr â’r rhai sy’n ceisio noddfa.
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru