A yw pob plentyn sydd angen ‘Dechrau’n Deg’ yn gwneud hynny oherwydd rhaglen Lywodraeth Cymru?

Cyhoeddwyd 21/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Rhwng 2007 a 2018, dyrannodd Llywodraeth Cymru dros £600 miliwn i ariannu Dechrau’n Deg, sef ei rhaglen i drechu tlodi yn ystod y blynyddoedd cynnar. Dyrannwyd £76 miliwn yn ychwanegol i’r rhaglen yn 2018-19. Ddydd Mercher 23 Mai 2018, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod i ba raddau y mae’r rhaglen hon yn cyrraedd y plant sydd fwyaf ei hangen.

Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar argymhellion Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad a’i adroddiad, sydd â’r teitl ‘Dechrau’n Deg: Allgymorth’. Penderfynodd Aelodau’r Cynulliad ar y Pwyllgor ymchwilio i’r rhaglen mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan randdeiliaid fod targedu’r rhaglen yn ddaearyddol yn creu ‘loteri cod post’ a allai greu anghydraddoldeb pellach oherwydd nad oedd yn cyrraedd nifer sylweddol o blant sy’n byw mewn tlodi. Llun o blentyn yn chwarae gyda paent

Beth yw Dechrau’n Deg?

Cyflwynwyd Dechrau’n Deg yn 2007, a gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad allweddol i barhau â’r rhaglen yn ‘Symud Cymru Ymlaen 2016-21’ (PDF 118KB). Gweithredir Dechrau’n Deg gan awdurdodau lleol ac o fewn ardaloedd daearyddol diffiniedig. Mae’r rhaglen yn cynnwys pedair elfen graidd. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael yn gyffredinol i bob plentyn o dan 4 oed a’u teuluoedd yn yr ardaloedd lle mae’r rhaglen ar waith:

  • Gofal plant rhan-amser ‘o ansawdd’ am ddim: i bob plentyn rhwng dwy a thair blwydd oed sy’n gymwys am 2.5 awr y dydd, pum diwrnod yr wythnos am 39 wythnos. Dylai hyn hefyd gynnwys o leiaf 15 o sesiynau gofal plant i deuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol;
  • Gwasanaeth ymweliadau iechyd gwell: gydag un ymwelydd iechyd i bob 110 o blant yn ardaloedd Dechrau’n Deg, sy’n nifer llawer llai y pen o’i gymharu â’r gwasanaeth arferol;
  • Rhaglenni cymorth rhianta ar sail yr angen yn lleol. Credir bod y rhain wedi ysgogi deilliannau cadarnhaol i blant;
  • Darpariaeth ynghylch lleferydd, iaith a chyfathrebu: dylai pob teulu cymwys gael mynediad at ‘grŵp iaith a chwarae’. Gellir cynnig cymorth mwy arbenigol lle bo angen.

Cyhoeddir yr ystadegau diweddaraf ar gyfer Dechrau’n Deg yn 2016-17 y bwletin hwn gan Lywodraeth Cymru.

Ble mae Dechrau’n Deg ar waith?

Targed gwreiddiol Dechrau’n Deg oedd dalgylchoedd ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig. Arweiniodd y gwaith o ehangu’r cynllun y tu hwnt i 2011 at newid y meini prawf, lle dyrannwyd cyllid yn ôl amcangyfrifiad o’r nifer o blant rhwng 0 a 3 oed sy’n byw mewn cartrefi sy’n cael incwm o fudd-daliadau mewn ardaloedd awdurdod lleol mewn ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOAs). Gweler y map ar dudalen 9 (PDF 2.3 MB) o’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i weld yr ardaloedd Dechrau’n Deg diweddaraf fel yn 2016.

Pa waith allgymorth sy’n gysylltiedig â Dechrau’n Deg a phwy sy’n gymwys?

Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Dechrau’n Deg – Canllawiau Allgymorth (134 KB). Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi’r plant hynny sy’n byw y tu allan i ardaloedd diffiniedig o ran Dechrau’n Deg a fyddai’n elwa ar wasanaethau’r rhaglen. Mae’r canllawiau yn caniatáu i awdurdodau lleol ddewis o blith cyfres o opsiynau o ran allgymorth, ac yna mae’n ofynnol iddynt eu hamlinellu yn eu Cynlluniau Darparu Dechrau’n Deg. Mae canllawiau diweddarach, a gyhoeddwyd yn 2017 (PDF 523 KB), yn nodi bod tri grŵp o blant yn gymwys i gael gwasanaeth allgymorth:

  • Plant sy’n symud allan o ardaloedd Dechrau’n Deg
  • Plant y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg; a
  • Chymunedau o ddiddordeb, gydag annibynniaeth i dimoedd Dechrau’n Deg benderfynu pa grwpiau yn eu hardaloedd fyddai’n elwa fwyaf ar elfennau penodol o’r rhaglen.

Cyllid ar gyfer gwasanaeth allgymorth sy’n gysylltiedig â Dechrau’n Deg?

Nododd y Canllawiau Rheolaeth Ariannol Dechrau’n Deg 2017-18 gan Lywodraeth Cymru:

The funding level for outreach activities is set at 2.5 per cent of the uplift from 2012 funding levels. This should be used to deliver elements of Flying Start to children, with an identifiable need, across the wider local authority.

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, newidiodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, ganran cyllid cyffredinol Dechrau’n Deg y gall awdurdodau lleol ei defnyddio ar gyfer gwaith allgymorth. Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog:

In November 2017, following discussions with local authorities and in recognition of the need some expressed for greater flexibility, Ministers relaxed the funding limit to allow authorities to use up to 5 per cent of their full Flying Start budget allocation on outreach with immediate effect. This was in line with the amount that could be vired between programmes.

Beth oedd canfyddiadau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg?

Nododd adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018, fod y ‘rhaglen Dechrau’n Deg yn ffynhonnell bwysig o gymorth i’r plant a’r teuluoedd sy’n gallu elwa arni’. Aeth y Pwyllgor ymlaen i nodi ei fod yn ‘croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar’. Fodd bynnag, ychwanegodd y Pwyllgor y bydd angen ‘newid sylweddol yng nghyrhaeddiad y rhaglen... i ganiatáu i’r rhai sydd fwyaf angen gwasanaethau Dechrau’n Deg gael gafael ar gymorth’. Pwysleisiodd adroddiad y Pwyllgor rai o’r heriau a wynebir wrth dargedu’r holl blant y mae angen cymorth o’r fath arnynt, gan ddweud:

Mae’r aelodau’n ymwybodol bod y mwyafrif o blant sy’n byw mewn tlodi i’w cael y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg fel y’u diffiniwyd, ac felly maent yn llai tebygol o elwa ar wasanaethau Dechrau’n Deg. Mae’r Pwyllgor yn dal i fod yn argyhoeddedig mai parhau i ddyrannu adnoddau ar sail y cod post yw’r sail fwyaf priodol ar gyfer parhau i weinyddu’r rhaglen ehangach.

Seiliwyd hyn ar dystiolaeth gan gyrff fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ddywedodd[...] nearly two thirds of people who are income deprived live out-side of geographical areas that are defined as deprived’. Aeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ymlaen i ddweud:

It is therefore highly unlikely that the relatively small proportion of Flying Start funding available for outreach work is sufficient to meet the needs of families living outside of Flying Start areas.

Mewn ymateb i gamau gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r swm o arian ar gael ar gyfer gwaith allgymorth, a gymerwyd wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo, dywedodd y Pwyllgor ei fod ‘yn falch bod y sylw y mae wedi’i roi i’r mater hwn eisoes yn dechrau arwain at rywfaint o gynnydd. Fodd bynnag, nid yw’r Pwyllgor wedi’i ddarbwyllo y bydd yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yn ddigon i ddiwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth (neu blant a theuluoedd a ddylai fod yn ddefnyddwyr y gwasanaeth).’

Ym mhennod 4 yr adroddiad, mae’r Pwyllgor yn trafod a oedd tystiolaeth bod y buddsoddiad cyffredinol yn rhaglen Dechrau’n Deg yn gwneud gwahaniaeth i’r canlyniadau ar gyfer y plant hynny sy’n cael cymorth drwy’r rhaglen. Cafodd y Pwyllgor rhywfaint o dystiolaeth ynghylch canlyniadau cadarnhaol, er enghraifft y canlyniadau gwell a gyflawnwyd gan therapyddion iaith a lleferydd fel rhan o raglen Dechrau’n Deg. Fodd bynnag, mewn perthynas â data a gasglwyd a chyhoeddwyd yn genedlaethol ar draws y pedair elfen o Dechrau’n Deg, dywedodd y Pwyllgor:

Yn seiliedig ar ganlyniadau’r gwerthusiadau o’r rhaglen Dechrau’n Deg a gyhoeddwyd hyd yn hyn, mae’r Pwyllgor yn pryderu mai ychydig iawn o dystiolaeth bendant o fudd i blant a rhieni sy’n cael cymorth y mae’r data yn ei ddangos. Noda’r Pwyllgor hefyd mai ychydig iawn o ddata gwaelodlin a gasglwyd o ddechrau’r rhaglen.

Gwnaeth yr Is-bwyllgor 7 o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyniodd Llywodraeth Cymru ddau o argymhellion y Pwyllgor, gan dderbyn pedwar arall mewn egwyddor a gwrthod un. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru:

Ar hyn o bryd mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn cael ei darparu i dros 37,000 o blant o dan 4 oed sy’n byw yn rhai o ardaloedd sydd â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru. Mae hyn gyfwerth â thua 25% o’r holl blant o dan 4 oed yng Nghymru.

Mae’n mynd ymlaen i nodi:

Ym mis Hydref, cytunodd Gweinidogion i gynnal adolygiad cyflym o’r rhaglen Dechrau’n Deg er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas at y diben. Rydym eisiau adeiladu ar gyflawniadau sylweddol y rhaglen a dysgu o’r hyn sy’n gweithio’n dda, yn enwedig o ran sut y gallwn ddwysáu trefniadau gweithio mewn partneriaeth, yn gydweithredol ac aml-asiantaeth ar draws sectorau er mwyn cefnogi plant ifanc a’u teuluoedd. Mae gwaith yn mynd rhagddo a rhagwelwn y gallwn roi diweddariad i’r Pwyllgor ar hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Pixabay gan anaterate. Dan drwydded Creative Commons.