Nid yw cynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu seilwaith gwefru cerbydau trydan wedi cyrraedd 5 o'i 9 targed, yn ôl Ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI).
Yn flaenorol, nododd Llywodraeth Cymru mai cyflymu'r defnydd o gerbydau trydan oedd "un o'r camau gweithredu pwysicaf" wrth gyflawni ei Chynllun Sero Net. Nid dim ond rhywbeth dymunol yw'r broses hwn o newid - bydd y newid yn hollbwysig os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â’i chynllun i wahardd gwerthu ceir sy’n defnyddio petrol a diesel yn unig erbyn 2030.
Ni fydd y newid enfawr hwn yn ymarferol heb gael seilwaith gwefru cyhoeddus priodol i'w gefnogi.
Mae llawer o'r pwerau a'r cyfrifoldebau yn y broses bontio hon yn nwylo Llywodraeth y DU, sydd hefyd wedi cael ei beirniadu gan RAC am ei chynnydd yn erbyn ei thargedau seilwaith cerbydau trydan ei hun.
Datblygodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan yn 2021 a Chynllun Gweithredu atodol ar gyfer ei gweithredu. Mae ein ap gwe yn dangos cynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei Chynllun Gweithredu.
"Darparu un man gwefru cyhoeddus am bob 7 i 11 o gerbydau trydan sydd ar y ffyrdd erbyn 2025."
Statws y cam gweithredu: Wedi’i gyflawni
Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2022 fod gan Gymru 1,417 o wefrwyr cyhoeddus, neu tua 9 cerbyd trydan wedi'i bweru gan fatri fesul gwefrydd.
“Grŵp cysylltiadau i adrodd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (2021-22).”
Statws y cam gweithredu: Heb ei gyflawni
Erbyn hyn mae disgwyl y bydd grŵp cysylltiadau, a fyddai'n caniatáu i Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru weithio gyda chwmnïau grid trydan i fynd i'r afael â phroblemau o ran capasiti'r grid, yn cael ei sefydlu yn gynnar yn hydref 2023.
"Rhwydwaith o flaengyrtiau gwefru ledled Cymru oddeutu bob 20 milltir ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd strategol erbyn 2025."
Statws y cam gweithredu: Ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd ei phrosiect SRN Rapid yn gosod 36 o bwyntiau gwefru cyflym mewn 19 o leoliadau erbyn diwedd 2023, neu un bob 20 milltir ar gyfer 'y rhan fwyaf' o'i rhwydwaith ffyrdd strategol ac un bob 25 milltir i'r gweddill. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gosod gwefrwyr cyflym mewn 6 o'r 19 o’r lleoliadau yn ei chynlluniau hyd yn hyn, ac mae disgwyl i 9 o wefrwyr eraill gael eu cyflwyno eleni.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Safon Ansawdd Genedlaethol i’w defnyddio wrth gaffael yn y sector cyhoeddus erbyn diwedd 2021.”
Statws y cam gweithredu: Wedi'i gyflawni’n hwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Safonau Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan yng Nghymru, ac yn nodi eu bod wedi cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi ers mis Ionawr 2022. Nododd ym mis Mai 2023 y bydd y canllawiau hyn ar gael ar-lein o fewn yr wythnosau nesaf.
“Adolygu polisïau a rheoliadau erbyn 2022 a gwneud diweddariadau, lle y bo’n briodol, i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan.”
Statws y cam gweithredu: Heb ei gyflawni
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd yn lansio ymgynghoriad ar ddiwygio rheoliadau adeiladu yn ystod haf 2023.
“Sefydlu gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn 2021.”
Statws y cam gweithredu: Heb ei gyflawni
Byddai sefydlu gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn caniatáu i sefydliadau preifat, cyhoeddus a dielw gyfathrebu a rhannu gwybodaeth am seilwaith gwefru cerbydau trydan. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn dweud y bydd yn sefydlu gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn ystod haf 2023.
“Gwell hyder mewn gwefru cerbydau trydan ymhlith y cyhoedd, gan symud Cymru o’r cam arloeswr i gam mwyafrif cynnar aeddfedrwydd y farchnad erbyn 2030.”
Statws y cam gweithredu: Cynnydd yn aneglur
Clywodd y Pwyllgor nad oedd llawer o ymwybyddiaeth na hyder gan y cyhoedd mewn seilwaith gwefru cerbydau trydan yng Nghymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cynllunio rhaglen gyfathrebu i fynd i'r afael â hyn, ac y byddai'n ceisio gwneud ei chynnydd yn y maes hwn yn fwy mesuradwy.
“Cwblhau adolygiad o’r gadwyn gyflenwi a chyfleoedd erbyn diwedd 2021.”
“Sefydlu rhaglen… ar gyfer arloesi a mewnfuddsoddi.”
Statws y cam gweithredu: Cynnydd yn aneglur
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd fframwaith caffael gwefru cerbydau trydan yn barod yn haf 2023. Nid yw rhaglen arloesi a buddsoddi wedi'i chyhoeddi, er bod Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn dod â'i thimau Datgarboneiddio Trafnidiaeth a Busnes a Rhanbarthau at ei gilydd i archwilio a chynnig cyfleoedd ar gyfer buddsoddi ac arloesi yn y sector preifat.
“Seilwaith gwefru i’w ystyried yn yr holl gynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol perthnasol newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, gan ddechrau yn 2021.”
Statws y cam gweithredu: Cynnydd yn cael ei wneud
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod wedi datblygu teclyn 'cydleoli' ar gyfer nodi lle y gellid cyfuno seilwaith gwefru cerbydau trydan a ffynonellau ynni adnewyddadwy, ond nid yw'n glir a yw’n cael ei ddefnyddio.
Bydd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon.
Oes gan Gymru ddigon o wefrwyr cerbydau trydan?
Roedd 1,417 o wefrwyr cyhoeddus yng Nghymru ym mis Medi 2022. Mae dosbarthiad mwy diweddar wedi’i ddangos ar y mapiau isod, ynghyd â dosbarthiad gwefrwyr cerbydau trydan ar draws gweddill y DU.
Mapiau yn dangos a) Yr holl bwyntiau gwefru fesul 100,000 o bobl ar draws awdurdodau lleol y DU, b) Pwyntiau gwefru cyflym a chyflym iawn (25 kW neu fwy) fesul 100,000 o bobl ar draws awdurdodau lleol y DU ac c) Lleoliadau mannau gwefru ar draws y DU. Data ar gyfer a) a b) o Ebrill 2023 ac ar gyfer c) o 31 Mai 2023.
Ffynhonnell: a) a b) yr Adran Drafnidiaeth; c) y Gofrestrfa Pwyntiau Gwefru Genedlaethol. Mae data’r Gofrestrfa Pwyntiau Gwefru Genedlaethol yn ddata ffynhonnell agored ac yn cael eu cynnal ar sail dreigl. Nid yw’r Gofrestrfa yn cynnwys pob pwynt gwefru yn y DU. Ar gyfer pwyntiau gwefru gyda mwy nag un cysylltydd â gwahanol lefelau pŵer, defnyddiwyd y cysylltydd â’r pŵer uchaf yn y dadansoddiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hyn yn cyfateb i 9 BEV (cerbydau trydan wedi'u pweru gan fatri) fesul gwefrydd cyhoeddus, gan gyrraedd ei darged o "un man gwefru cyhoeddus am bob 7 i 11 o gerbydau trydan sydd ar y ffyrdd erbyn 2025". Fodd bynnag, nid yw’n glir ai dyma'r ffordd orau o asesu a oes digon o wefrwyr yn cael eu gosod i gyflawni’r nod a ganlyn yn y strategaeth gwefrwyr cerbydau trydan:
Erbyn 2025, bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael at seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr adeg ac yn y man lle y mae arnynt ei angen.
Mae hyn oherwydd y bydd y nifer sy’n berchen ar gerbydau trydan yn cynyddu'n aruthrol dros y degawd nesaf.
Mae'r nifer sydd â cherbyd trydan yn isel yng Nghymru ar hyn o bryd. Dim ond 1.2 y cant o'r ceir sydd wedi'u cofrestru ledled Cymru sy’n rhai y gellir eu gwefru, llai na hanner y ffigur o 2.9 y cant ledled y DU. Dywedodd SP Energy Networks (SPEN) wrth y Pwyllgor, wrth sôn am y rhanbarth maent yn ei wasanaethu, sef Gogledd Cymru, eu bod yn disgwyl i nifer y cerbydau trydan gyrraedd rhwng 99,000 a 284,000 erbyn 2030, sydd gryn dipyn yn uwch na’r ffigur o tua 21,000 o gerbydau trydan sydd wedi'u cofrestru ledled Cymru yn 2022 (mae hyn yn cynnwys tua 12,000 o gerbydau trydan wedi’u bweru gan fatri).
I gyfrif am y newid hwn, nod Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru yw un gwefrydd cyhoeddus ar gyfer pob 25 o gerbydau trydan wrth i fwy o bobl ddechrau eu defnyddio. Y llynedd, gosodwyd 534 o wefrwyr ledled Cymru, ond mae’n debygol y byddai angen i’r broses hon gyflymu ymhellach i gyd-fynd â thargedau.
Gwnaeth y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd (RHA) leisio pryderon hefyd nad oedd y Cynllun Gweithredu yn ystyried anghenion cerbydau masnachol o ran gwefru cerbydau trydan.
Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, cydnabu Llywodraeth Cymru y bydd angen buddsoddiad pellach sylweddol i gyrraedd y lefelau defnydd a galw a ragwelir o ran cerbydau trydan, ond gwrthododd argymhelliad yr adroddiad i adolygu ei strategaeth gwefru cerbydau trydan yn unol â hynny.
Mae gwefru cyflym yn hanfodol ar gyfer ennyn hyder gyrwyr mewn cerbydau trydan
Dywedodd Paul Bevan, o Gymdeithas Cerbydau Trydan Cymru (EVA Cymru), wrth y Pwyllgor nad yw’r targedau presennol ar gyfer gwefrwyr cerbydau trydan yn adlewyrchu ffactorau eraill sy'n effeithio ar ba mor addas yw’r ddarpariaeth gwefru, fel argaeledd, hygyrchedd, neu ddibynadwyedd. Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd gwefru cyflym a chyflym iawn sydd ar gael yn rhwydd ar hyd y daith er mwyn ennyn hyder gyrwyr mewn defnyddio cerbydau trydan ar gyfer teithiau hirach.
Bellach mae 207 y cant yn fwy o wefrwyr cyflym yng Nghymru na phan gyhoeddwyd y strategaeth gwefru cerbydau trydan. Daeth hyn â nifer y gwefrwyr cyflym fesul 100,000 o bobl yng Nghymru i 11.3, yn unol â chyfartaledd y DU. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi dechrau rhaglen o osod 36 o wefrwyr cyflym ar draws 19 o leoliadau ar hyd y rhwydwaith ffyrdd strategol erbyn 2023.
Rhybuddiodd Paul Bevan y Pwyllgor na fyddai hyn yn ddigon o hyd i ateb y galw am wefrwyr cerbydau trydan. Beirniadodd targed y llywodraeth o gael gwefrydd cyflym ‘tua’ phob 20 milltir ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd strategol fel darpariaeth sylfaenol iawn, ac adleisiodd pryderon eraill bod y diffyg uchelgais a brys yn atal pobl rhag manteisio ar gerbydau trydan.
Mae hyn yn debyg i’r hyn a ddywedodd Dr Neil Lewis o Ynni Sir Gaerfyrddin, bod diffyg cerbydau trydan yng Nghymru oherwydd diffyg isadeiledd.
Datgloi capasiti’r grid trydan yn hollbwysig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig
Clywodd y Pwyllgor fod capasiti’r grid yn rhwystr mawr rhag gosod seilwaith gwefru. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig. Nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod rhai awdurdodau lleol wedi aros misoedd am gysylltiadau grid â phwyntiau gwefru. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi bod yn gweithio gyda’r ddau gwmni Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu yng Nghymru, SPEN a'r Grid Cenedlaethol, i sicrhau bod capasiti’r grid yn gallu ymdopi â gofynion gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw 'grŵp cysylltiadau' a addawyd ar draws y partïon hyn wedi'i sefydlu eto.
I ddarparu ar gyfer galw uwch am drydan o ganlyniad i dechnolegau glân, dywedodd SPEN a’r Grid Cenedlaethol eu bod eisiau buddsoddi £615 miliwn a £6.7 biliwn yn y drefn honno yn eu rhwydweithiau grid ar draws y DU. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor fod ffyrdd eraill o fynd i'r afael â phroblemau capasiti'r grid, fel gwefru deallus, a chydleoli gwefrwyr gyda'u ffynonellau ynni adnewyddadwy a storio eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi datblygu dull ar gyfer nodi lle y gellid gosod safleoedd o'r fath, ond nid yw effaith hyn yn ymarferol yn glir eto.
Cynnydd cymysg o ran cydweithio â’r sector preifat
Pwysleisiodd strategaeth gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru y "bydd gweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar gydweithredu gan y sectorau cyhoeddus a phreifat."
Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r un o'r grwpiau cydweithredol sy'n cynnwys y sector preifat a addawyd yn ei Chynllun Gweithredu: y Grŵp Cysylltiadau a Gweithgor Gweithredwyr Mannau Gwefru. Mae cynnig arall o’r Cynllun Gweithredu, sef "rhaglen i wireddu cyfleoedd ar gyfer arloesi a mewnfuddsoddi," hefyd yn dal i fod heb ei gyflawni.
A yw rheoliadau wedi dal i fyny â’r anghenion o ran gwefru cerbydau trydan?
Ymrwymodd y Cynllun Gweithredu i adolygu rheoliadau adeiladu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno seilwaith gwefru mewn cartrefi a gweithleoedd erbyn 2022. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bellach yn dweud y bydd yn dechrau’r gwaith ymgynghori yn haf 2023. Nododd (EVA) Cymru fod hyn yn golygu bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU:
In Scotland, a standard (7kW) charge point must be provided for each residential building with at least one parking space and a ratio of 1:10 for every non-residential building. England has in place similar requirements and these regulations also extend to substantial renovations.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd yn cyhoeddi Safon Ansawdd Genedlaethol yn fuan. Cynigiwyd y canllawiau hyn yn y Cynllun Gweithredu i sicrhau seilwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus sy’n ddiogel, hygyrch a dibynadwy yng Nghymru, sy'n diwallu anghenion penodol i Gymru fel hygyrchedd dwyieithog.
Edrych tua’r dyfodol
Er bod y ddarpariaeth gwefru wedi bod yn gwella yng Nghymru, roedd adroddiad y Pwyllgor yn gresynu at "gynnydd siomedig, addewidion sydd wedi’u torri" gan Lywodraeth Cymru o ran hyrwyddo cerbydau trydan. Roedd ei adroddiad hefyd yn adlewyrchu pryderon rhanddeiliaid am ddiffyg tryloywder ynghylch cynnydd.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru wrthod argymhelliad y Pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy rheolaidd am y dangosyddion perfformiad allweddol, gan ddweud y byddai'n rhoi’r rhain ar adegau strategol. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd o’r farn bod barn y Pwyllgor ar ei pherfformiad yn annheg. Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor nododd ei bod wedi targedu ei hadnoddau cyfyngedig i ddarparu gwefrwyr ac offer a fyddai'n cyflymu'r broses o gyflwyno rhagor ohonynt.
Fodd bynnag, mae’r canlynol yn amlwg: Mae cerbydau trydan bellach yn cynrychioli 12 y cant o gofrestriadau ceir newydd yng Nghymru, ac mae disgwyl i'r galw am wefrwyr dros y degawd nesaf gynyddu’n aruthrol. Cwestiwn arall yw a fydd mannau gwefru ar gael yn y lleoliadau cywir ac a fydd digon ohonynt ar gyfer y cerbydau hynny.
Erthygl gan Olivia Watts a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru