Twr o fflatiau

Twr o fflatiau

A yw cartrefi yng Nghymru yn diwallu anghenion poblogaeth sy’n heneiddio?

Cyhoeddwyd 03/10/2024   |   Amser darllen munudau

Mae galluogi pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y gallant yn uchelgais sydd wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru yn ei gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hon yn flaenoriaeth hollbwysig yng nghyd-destun ein poblogaeth sy’n heneiddio. Erbyn 2034, amcangyfrifir y bydd bron i 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru yn 65 oed neu’n hŷn.

Er bod pobl yn byw yn hirach, mae cyfartaledd disgwyliad oes iach – hynny yw, y blynyddoedd y disgwylir i rywun fyw mewn 'iechyd da' – wedi bod yn codi ar raddfa arafach. Mae hyn yn golygu bod pobl yn y dyfodol yn debygol o fyw am ragor o flynyddoedd â salwch, eiddilwch neu anabledd.

Derbynnir yn eang y gallai’r sector gofal cymdeithasol ei chael hi'n anodd bodloni gofynion poblogaeth sy'n heneiddio heb iddo gael ei ddiwygio. Fodd bynnag, mae llai o drafod ynghylch a fydd y system dai yng Nghymru yn gallu cefnogi nifer gynyddol o bobl hŷn i fyw bywydau iach.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar dair her y mae’r stoc dai bresennol yn eu cyflwyno o ran uchelgais Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl i fyw’n iach ac yn annibynnol, a pham y gallai problemau yn y sector tai arwain at bwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Tai o ansawdd gwael neu dai anniogel

Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod bron i 1 o bob 5 o gartrefi yng Nghymru yn 2017-18 yn cynnwys Perygl Categori 1, a ystyrir yn berygl difrifol i iechyd a diogelwch person.

Gall tai o ansawdd gwael fod yn niweidiol i iechyd a llesiant pobl o bob oed, ond maent yn arbennig o niweidiol i bobl hŷn ac i unigolion sydd â phroblemau iechyd.

Mae presenoldeb peryglon a all achosi i berson gwympo oherwydd dyluniad a chyflwr eiddo yn un o'r problemau a nodir amlaf, gyda llawer o bobl yng Nghymru yn byw mewn hen dai teras cul neu gartrefi a adeiladwyd ar lethrau serth. Pan fydd person hŷn yn cwympo, gall arwain at anaf neu at anabledd sy'n gysylltiedig ag anaf, tra gall byw mewn ofn o gwympo gyfrannu at lefelau is o weithgarwch corfforol ac ansawdd bywyd gwaeth.

Hefyd, amodau oer a llaith yw un o’r prif ffactorau sy’n achosi problemau iechyd sy’n ymwneud â thai.

Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn dadlau bod cyflwr tai pobl hŷn yng Nghymru yn eu rhoi mewn perygl o salwch ac anafiadau, ac o golli annibyniaeth yn y tymor hir.

Prinder tai hygyrch ac addasadwy

Rhagwelir y bydd nifer y bobl sy'n cael problemau o ran symudedd neu anawsterau wrth gyflawni tasgau domestig dyddiol yn cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

Yn aml, gall cartrefi gael eu haddasu i ddiwallu anghenion corfforol pobl wrth iddynt fynd yn hŷn neu ar ôl i salwch neu anabledd ddechrau. Fodd bynnag, mae elusennau anabledd wedi nodi bod llawer o gartrefi yn y DU ddim yn addas ar gyfer addasiadau, yn aml oherwydd diffyg lle neu ffactorau strwythurol.

Yn 2018, daeth adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar dai a phobl anabl yng Nghymru i'r casgliad a ganlyn:

Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a nifer y bobl anabl yn cynyddu, mae’r galw am dai hygyrch ac addasadwy yn mynd i gynyddu’n sylweddol yn y dyfodol. Oni bai bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â hyn, bydd pobl anabl yn gynyddol yn byw mewn tai, lleoedd neu gyd-destunau sy’n gwrthod yr hawl iddynt fyw’n annibynnol.

Mae pobl anabl o bob oed yn barod yn wynebu anawsterau wrth ddod o hyd i lety hygyrch. Canfu arolwg a gomisiynwyd gan elusen Leonard Cheshire yn 2022 fod 1 o bob 4 (25 y cant) o bobl yn y DU sydd ag anghenion o ran hygyrchedd tai yn ei chael hi’n anodd mynd i mewn i’w cartrefi eu hunain.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gall tai hygyrch helpu i leihau’r risg o faglu a chwympo, gwella annibyniaeth a chyfranogiad cymdeithasol, ac oedi neu osgoi’r angen i symud i ofal preswyl.

Diffyg opsiynau tai ar gyfer pobl hŷn

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2017, dadleuodd Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Ddarparu Tai ar gyfer Poblogaeth sy’n Heneiddio nad oedd y cyflenwad tai yng Nghymru yn adlewyrchu dymuniadau ac anghenion pobl wrth iddynt heneiddio.

Gall pobl wynebu heriau ymarferol sylweddol os ydynt yn aros yn eu cartref presennol wrth iddynt fynd yn hŷn. Gall ffactorau strwythurol mewn tai - megis stepiau a grisiau - ddod yn rhwystr sy’n atal trigolion rhag symud o gwmpas ac sy’n cyfrannu at golli annibyniaeth. Yn y cyfamser, mae dyluniad gofodau allanol ac ansawdd cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu cyfyngu ar allu pobl i aros yn actif neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, gan arwain at ynysu cymdeithasol cynyddol.

Er bod gwaith ymchwil wedi dangos bod pobl hŷn yn dueddol o fod eisiau aros yn eu cartref presennol cyhyd â phosibl, mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu y byddai rhai yn ystyried symud pe byddent yn cael y cyfle. Mae’r tebygolrwydd o ystyried symud i gartref arall yn uwch ymhlith pobl hŷn sydd ag anabledd neu salwch hirdymor, yn ogystal â’r unigolion hynny sy’n teimlo’n ynysig neu’n agored i niwed yn eu cartref.

Fodd bynnag, mae’r Ganolfan Heneiddio’n Well wedi dadlau bod gallu pobl i wneud penderfyniad cadarnhaol i symud yn yr achosion hyn yn cael ei gyfyngu gan argaeledd a hygyrchedd opsiynau sy’n cynnig ansawdd bywyd gwell mewn lleoliadau addas.

Mae mudiadau eraill wedi awgrymu bod diffyg tai ymddeol arbenigol neu dai sy’n cynnwys gofal yn arwain at ddiffyg opsiynau i bobl a fyddai’n elwa o fynediad rhwyddach at wasanaethau gofal a chymorth wrth iddynt fynd yn hŷn.

Yr galw ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Wrth i nifer y bobl hŷn yng Nghymru gynyddu, mae risg y gallai'r problemau tai hyn gyfrannu at gynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae tai o ansawdd gwael neu dai anaddas yn cynyddu’r risg o anafiadau i bobl hŷn a phobl anabl, a gallai lleoli nifer fwy o bobl hŷn mewn tai o ansawdd gwael gynyddu’r galw ar wasanaethau iechyd. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi rhagweld y bydd nifer y bobl sy’n cwympo mewn ffordd sy’n arwain at fynd i’r ysbyty yn cyrraedd 24,429 yn 2035, cynnydd o 63 y cant o gymharu â 2017.

Gall diffyg opsiynau tai addas a diogel olygu bod yn rhaid i bobl sydd wedi cael anaf neu salwch aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol cyn iddynt gael eu ryddhau, neu orfodi iddynt symud i leoliad gofal preswyl pan y byddai'n well ganddynt fyw'n annibynnol.

Gall amodau tai hefyd chwarae rhan bwysig wrth lunio anghenion gofal pobl. Mae gwaith ymchwil wedi canfod bod pobl hŷn sy'n byw mewn tai o ansawdd gwael yn fwy tebygol o fod ag anghenion gofal yn gynharach yn eu bywydau.

Beth sy'n cael ei wneud i ymdrin â'r materion hyn?

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai o'r camau y mae'n eu cymryd i ymdrin â'r heriau hyn yn ei Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio, a gyhoeddwyd yn 2021, ac yn ei fframwaith a’i chynllun gweithredu o 2019 ar yr Hawl i Fyw'n Annibynnol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ymdrin â thlodi tanwydd a chefnogi pobl i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi drwy'r Rhaglen Cartrefi Clyd;
  • sicrhau bod pobl hŷn yn cael mynediad cyfartal at addasiadau amserol o ansawdd da sy’n cefnogi eu hannibyniaeth; a
  • sicrhau bod yr holl dai newydd a ariennir drwy grant gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Safonau Cartrefi Gydol Oes.

Wrth i lunwyr polisi barhau i fynd i’r afael â goblygiadau poblogaeth sy’n heneiddio, mae’n debygol y bydd ffocws cynyddol ar y rôl y mae tai yn ei chwarae wrth alluogi pobl i heneiddio’n dda a byw’n iach yn hirach.

Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru