- Yn 2012, llwyddodd Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged blynyddol, sef sicrhau gostyngiad o 3% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli , ac roedd allyriadau yn 2012 10% islaw’r llinell sylfaen;
- Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, fodd bynnag, wedi cydnabod bod angen gwneud rhagor i gyrraedd y targed mwy hirdymor i sicrhau bod holl allyriadau tŷ gwydr Cymru yn gostwng 40% islaw llinell sylfaen 1990 erbyn 2020, o gofio bod yr allyriadau yn 2012 17.9% islaw’r llinell sylfaen.
Beth yw’r allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli, a beth yw targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r rhain?
Yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli yw’r allyriadau hynny yn y meysydd lle y mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i gymryd camau i leihau allyriadau. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys allyriadau yn y sector cyhoeddus datganoledig, cartrefi pobl a’r sector busnes. Mae’r holl allyriadau a gynhyrchir yng Nghymru yn y meysydd hyn wedi’u cynnwys yn y targed, yn ogystal ag allyriadau a gynhyrchir drwy ddefnyddio trydan. Y prif feysydd nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ffigurau hyn yw allyriadau a gynhyrchir gan ddiwydiannu trwm ac ynni a gynhyrchir gan osodiadau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Targed Llywodraeth Cymru yw sicrhau gostyngiad o 3% yn yr allyriadau hyn bob blwyddyn, o’i gymharu â’r llinell sylfaen, a chaiff hyn ei fesur drwy ddefnyddio allyriadau cyfartalog rhwng 2006 a 2010. Gan mai 2012 yw’r ail flwyddyn yn y targed, bydd angen sicrhau gostyngiad o 6% o’i gymharu â’r llinell sylfaen er mwyn cyrraedd y targed. Mae’r modd y caiff y targed ei fesur yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyrraedd y targed hyd yn oed os yw allyriadau’n cynyddu o’r naill flwyddyn i’r llall mewn maes lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli, mewn rhai amgylchiadau. Digwyddodd hyn yn 2012, pan fu cynnydd o 3.3% mewn allyriadau o’u cymharu â 2011. Fodd bynnag, gan mai 13% oedd y gostyngiad rhwng y llinell sylfaen a 2011, mae’r targed cyffredinol o sicrhau gostyngiad o 6% dros ddwy flynedd wedi’i gyrraedd. Mae’r siart isod yn dangos yr allyriadau yn y meysydd lle y mae cynhwysedd wedi’i ddatganoli ym mhob sector. [caption id="attachment_2180" align="alignnone" width="682"] Ffynhonnel: Llywodraeth Cymru, Adroddiad Blynyddol ar y Newid yn yr Hinsawdd 2014[/caption]Gan nad yw’r ffigurau hyn yn cynnwys holl allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, beth yw’r darlun ehangach?
Bu cynnydd o 5% yng nghyfanswm yr allyriadau tŷ gwydr a gynhyrchwyd yng Nghymru rhwng 2011 a 2012, sydd 17.9% islaw llinell sylfaen 1990. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hyn i’w briodoli i newidiadau ym mhrisiau tanwydd byd-eang sydd wedi arwain y sector ynni i ddefnyddio mwy o lo yn hytrach na nwy naturiol, ac mae hynny, yn ei dro, wedi arwain at gynnydd mewn allyriadau. Gan nad yw allyriadau a gynhyrchir gan ddiwydiannu trwm a diwydiannau cynhyrchu ynni wedi’u cynnwys yn y targed o 3% a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, mae cyfanswm yr allyriadau wedi cynyddu mwy na’r rheini mewn meysydd lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli. I gyrraedd targed 2020, sef sicrhau gostyngiad o 40% islaw llinell sylfaen 1990 o ran cyfanswm yr allyriadau tŷ gwydr, bydd yn rhaid sicrhau gostyngiad pellach o 22.1 pwynt canran yng Nghymru dros yr wyth mlynedd nesaf. [caption id="attachment_2183" align="alignnone" width="682"] Ffynhonnell: AEA, Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990-2012: Devolved Administration GHG Pivot Tables, (Saesneg yn unig) Gorffennaf 2014[/caption]Beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau allyriadau ymhellach?
Aeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ati i adnewyddu Strategaeth Newid Hinsawdd ym mis Hydref 2014, yn bennaf i ymateb i’r perfformiad yn erbyn y targed o 40% a goblygiadau adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn cynnwys rheoli peryglon llifogydd, gwella effeithlonrwydd ynni a buddsoddi yn yr economi werdd. Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y targedau statudol ar gyfer lleihau allyriadau a chyllidebau carbon. Mae’r materion y nododd y Prif Weinidog ym mis Mehefin 2014 eu bod yn destun pryder yn cynnwys y ffaith nad yw rheolaeth gyllidebol dros rai sectorau sy’n cynhyrchu llawer o allyriadau wedi’u datganoli’n llawn felly mae’n bosibl na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyrraedd y targedau. Wrth edrych i’r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd allyriadau wedi gostwng oddeutu 3.8% rhwng 2012 a 2013 mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, ond y bydd cynnydd o oddeutu 10% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyffredinol yng Nghymru. Mae hyn i’w briodoli i’r cynnydd disgwyliedig o 20% yn yr allyriadau a gynhyrchir gan ddiwydiannau trwm a gosodiadau sy’n rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Mae hyn yn debygol o olygu y bydd yr adroddiad blynyddol nesaf a gyhoeddir ddiwedd 2015, yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyrraedd ei tharged o sicrhau gostyngiad o 3% mewn allyriadau o’r naill flwyddyn i’r llall, ond na fydd Cymru yn cyrraedd y targed o sicrhau gostyngiad o 40% yng nghyfanswm yr allyriadau.Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.