Dwy fenyw yn cael sgwrs mewn lleoliad gofal iechyd.

Dwy fenyw yn cael sgwrs mewn lleoliad gofal iechyd.

A oes gofyn i ganolfannau iechyd menywod ddatrys gormod o broblemau?

Cyhoeddwyd 04/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/09/2026

Mae canolfannau iechyd menywod bellach yn ganolog i’r dull gweithredu yng Nghymru ar gyfer gwella iechyd menywod. Dywed Llywodraeth Cymru bod canolfan ym mhob ardal bwrdd iechyd, ac maen nhw’n un o'r ymrwymiadau mwyaf gweladwy yng Nghynllun Iechyd Menywod GIG Cymru 2025-2035. Eu bwriad yw sicrhau ei bod yn haws cael mynediad at ofal, a hwnnw’n ofal sy’n fwy cydgysylltiedig ac yn agosach at adref. Maent hefyd yn adlewyrchu uchelgais ehangach y Cynllun i ailgynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion menywod.

Caiff y canolfannau eu cyflwyno fel rhan o'r ateb i broblemau hirdymor ym maes gofal iechyd menywod. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau tameidiog, oedi i gael diagnosis, llwybrau gynaecoleg dan bwysau a menywod yn teimlo nad oes clust bob amser i wrando ar beth yw eu symptomau, ac na chaiff eu symptomau eu cymryd o ddifrif. Ond mae maint y disgwyliadau hynny'n codi cwestiwn yn ymwneud â chraffu. A oes gofyn i ganolfannau iechyd menywod ddatrys gormod o broblemau?

Beth y gobeithir ei gyflawni gyda’r canolfannau iechyd menywod?

Nid disgrifio un gwasanaeth safonol y mae “canolfan iechyd menywod”. Yng Nghymru, mae pob canolfan neu hwb wedi'i ddylunio'n lleol. Mae rhai yn glinigau ffisegol, mae rhai yn gweithredu ar draws mwy nag un safle, ac mae eraill yn darparu pyrth ar-lein neu wasanaethau cyfeirio. Gall yr hyblygrwydd hwnnw helpu byrddau iechyd i ymateb i anghenion lleol, ond mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i gymharu gwasanaethau neu ddiffinio'r hyn y dylai canolfan ei gynnig yn gyson.

Er gwaethaf yr amrywiad hwn, mae’r amcanion eang yn debyg. Disgwylir i ganolfannau ddarparu cefnogaeth ar gyfer materion fel iechyd mislif, atal cenhedlu, y menopos a rhai llwybrau gynaecoleg. Yn Lloegr, mae canllawiau cenedlaethol a gwerthusiadau yn disgrifio’r canolfannau fel ffordd o wella mynediad, o leihau atgyfeiriadau diangen, o gyfuno gofal ac o wella profiad cleifion.

Mae apêl y canolfannau yn hawdd i'w ddeall. Maen nhw'n cyd-fynd â nifer o syniadau polisi sydd bellach yn gyffredin ar draws systemau iechyd, sef: atal, gofal cymunedol, ymyrraeth gynharach a gwasanaethau a drefnir ar sail pobl yn hytrach na sefydliadau.

Beth allai gyfyngu ar effaith canolfannau iechyd menywod?

Mae gwerthusiadau yn Lloegr, ble mae canolfannau wedi’u sefydlu ers rhagor o amser, wedi nodi sawl her.

Roedd gwerthusiad Prifysgol Birmingham/BRACE yn adolygu sut yr oedd canolfannau iechyd menywod yn Lloegr yn cael eu gweithredu. Canfu y gallai arferion comisiynu tameidiog arwain at wasanaethau digyswllt nad oeddent bob amser yn adlewyrchu anghenion lleol. Nododd hefyd fod capasiti'r gweithlu yn gyfyngiad mawr, a daeth i'r casgliad bod angen mesurau canlyniad mwy cyson i asesu’r effaith a gânt.

Canfu astudiaeth arall, a gyhoeddwyd drwy raglen y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal, nad oedd un model unigol o ganolfan iechyd menywod. Dim ond darpariaeth rannol a gynigiwyd mewn llawer o ardaloedd, ac roedd canolfannau'n amrywio'n fawr o ran eu gwasanaethau, eu staffio a'u modelau darparu. Cododd yr astudiaeth bryderon ynghylch ecwiti, cysondeb ac a oedd canolfannau'n bodloni disgwyliadau cenedlaethol.

Cododd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr bryder pellach. Nododd fod cynnydd o ran y Strategaeth Iechyd Menywod ehangach yn Lloegr yn parhau i fod yn anwastad, a bod ei chyflawni yn dibynnu ar gapasiti lleol a dilyniant yn genedlaethol. Rhybuddiodd y sefydliad y gallai problemau iechyd menywod ehangach gael eu hanwybyddu pe bai'r ddarpariaeth yn canolbwyntio'n rhy gyfyng ar feysydd gwasanaeth dethol.

Efallai nad y wers i Gymru ei dysgu yw a yw canolfannau'n gweithio yn unig, ond o dan ba amodau maen nhw'n gweithio. Awgrymodd y dadansoddiad cost a budd a wnaed yn Lloegr y gallai canolfannau gynnig gwerth, ond mae'r manteision yn dibynnu ar eu rhoi ar waith.

Mae gan Gymru hefyd brofiad perthnasol o ailgynllunio yn y gymuned. Gwelwyd Esiampl Bevan/model gynaecoleg cymunedol Ceredigion fel rhagflaenydd i’r dull ‘canolfannau’ yng Nghymru. Mae'n dangos sut y gall gwasanaethau cymunedol dan arweiniad meddygon ymgynghorol a mynediad at ddiagnosteg symud rhywfaint o ofal yn agosach at gartrefi menywod. Y cwestiwn yw a ellir cymhwyso gwersi o fodel lleol yn gyson ar draws pob bwrdd iechyd, yn enwedig pan mae'r gweithlu, yr ystâd a'r capasiti diagnostig yn wahanol.

Mae cyfrif canolfannau yn syml. Mae dangos eu bod wedi newid mynediad, profiad, canlyniadau neu werth am arian yn anoddach. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod gwerthusiad o'r hybiau braenaru wedi'i gomisiynu, gan gynnwys casglu adborth gan fenywod sy'n defnyddio’r gwasanaethau.

Dyna pam mae'r gwerthusiad yng Nghymru yn bwysig. Gallai helpu i wahaniaethu rhwng tri chwestiwn gwahanol sef: a oes canolfannau, a ydyn nhw'n cyrraedd y menywod sydd eu hangen, ac a ydyn nhw'n newid canlyniadau ar gyfer menywod. Mae'r cwestiynau hynny'n gysylltiedig, ond nid ydyn nhw'r un peth. Gallai canolfan fod ar agor ac yn weithredol heb leihau arosiadau, gwella profiad na lleihau anghydraddoldebau eto.

Pa flaenoriaethau sydd mewn perygl o gael eu hanwybyddu.

Mae canolfannau yng Nghymru â chysylltiad cryf ag iechyd mislif, atal cenhedlu, y menopos a rhai llwybrau gynaecoleg. Mae’r rhain yn flaenoriaethau pwysig, yn enwedig o gofio’r pwysau sydd ar wasanaethau gynaecoleg. Ond mae rhagor yn gynwysiedig yn y polisi iechyd menywod cyfan.

Mae’r Cynllun Iechyd Menywod yn ehangach. Mae'n cynnwys iechyd cyn beichiogi, iechyd y pelfis, trais yn erbyn menywod, heneiddio'n dda, cyflyrau hirdymor, ymchwil, addysg a'r angen ehangach i wrando ar brofiadau menywod. Ni ellir cyflawni rhai o'r blaenoriaethau hyn drwy fodel hwb yn unig. Maent yn gofyn am gamau gweithredu ar draws y maes gofal cychwynnol, y gwasanaethau arbenigol, iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol a pholisi ehangach y llywodraeth.

Os bernir llwyddiant yn ôl gweithgarwch canolfannau, efallai y bydd cwestiynau ehangach yn cael llai o sylw. Mae'r rhain yn cynnwys a yw bylchau o ran ymchwil yn cau, ac a yw gwasanaethau'n gwella ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar fenywod ar draws cwrs bywyd, gan gynnwys osteoporosis, clefyd y galon, dementia a chyflyrau hirdymor eraill.

O’u rhoi ar waith, i atebolrwydd

Roedd y ddadl a arweiniodd at y Cynllun Iechyd Menywod yn canolbwyntio ar gydnabyddiaeth, sef: gwrando ar fenywod, cydnabod bod bylchau o ran gofal a rhoi lle amlycach i iechyd menywod yng ngwaith cynllunio'r GIG. Mae gan Gymru bellach gynllun cenedlaethol a gwefan bwrpasol ar iechyd menywod. Er bod Llywodraeth Cymru flaenorol wedi dweud bod canolfannau ar agor ym mhob ardal bwrdd iechyd, nid yw'r wefan ar hyn o bryd yn rhestru unrhyw un ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr na Hywel Dda.

Mae'r cam nesaf yn ymwneud ag atebolrwydd; ond a allant gyflawni'r gwelliannau a ddisgwylir ganddynt. Mae hyn yn cynnwys mynediad haws, gofal mwy cydgysylltiedig, profiadau gwell a thystiolaeth gliriach o’u heffaith.

Mae canolfannau iechyd menywod yn wasanaethau ymarferol ac yn symbolau o ddiwygio ehangach. Gallant helpu i ddod â gofal yn agosach at gartrefi menywod a gwneud gwasanaethau'n haws i'w llywio, ond mae profiad Lloegr yn dangos bod addewid yn dibynnu ar gyllid, ar y gweithlu, ar lwybrau clir, ar gamau canlyniad a rennir ac ar ddisgwyliadau realistig.

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi parhau i osod iechyd menywod o gylch gwrando ar fenywod. Mae hynny'n creu meincnod defnyddiol ar gyfer craffu. Os yw'r Cynllun i barhau i fod wedi'i wreiddio ym mhrofiad menywod, ni ddylai gwaith gwerthuso fod wedi’i seilio ar gyfrif canolfannau, apwyntiadau neu weithgarwch yn unig. Fe ddylai hefyd ddangos a yw menywod yn cael gafael ar wasanaethau yn haws, a ydynt yn teimlo bod rhywun ar gael i wrando arnynt, a yw mynediad at wasanaethau yn gwella i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau, ac a yw'r Cynllun Iechyd Menywod ehangach yn symud ymlaen y tu hwnt i'r model canolfannau.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru