Endometriosis yng Nghymru: addewidion dan bwysau

Cyhoeddwyd 14/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/08/2026

Daeth iechyd menywod yn flaenoriaeth polisi amlwg yn ystod y Senedd ddiwethaf. Roedd cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru 2025–2035 yn nodi ymgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hirhoedlog ym mhrofiadau menywod o ofal iechyd, gan gynnwys pryderon bod symptomau'n cael eu tanbrisio, eu hanwybyddu neu eu diystyru yn rhy aml. Lluniwyd y Cynllun yn sgil adborth gan tua 4,000 o fenywod ledled Cymru.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar oblygiadau Cynllun Iechyd Menywod Cymru ar gyfer gofal endometriosis ac adenomyosis, ac yn cydnabod bod llawer o'r dystiolaeth gyhoeddedig am oedi o ran diagnosis, mynediad at driniaeth a phwysau ar wasanaethau arbenigol yn ymwneud yn benodol ag endometriosis. Cyfeirir at adenomyosis lle bo'n berthnasol, yn enwedig pan mae polisi a gwybodaeth y GIG yn trafod y ddau gyflwr gyda'i gilydd.

Endometriosis

Mae Endometriosis yn gyflwr cronig lle mae meinwe debyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill yn y corff. Gall achosi poen pelfig difrifol, mislif poenus, poen yn ystod neu ar ôl rhyw, symptomau'r coluddyn a'r bledren, blinder a phroblemau ffrwythlondeb. Fe'i disgrifir yn gyffredin fel rhywbeth sy'n effeithio ar oddeutu un o bob deg menyw a'r rhai a neilltuwyd i fod yn fenywaidd ar adeg eu geni sydd o oedran atgenhedlu.

Adenomyosis

Mae adenomyosis yn digwydd pan fydd leinin y groth yn dechrau tyfu i mewn i'r cyhyr yn wal y groth. Dywed y GIG y gall triniaethau helpu gyda’r symptomau, a all gynnwys mislif poenus neu drwm, poen pelfig, bod yn chwyddedig neu yr  abdomen yn teimlo’n llawn.

Cynllun iechyd menywod

Cynllun Iechyd Menywod: Wyth Maes Blaenoriaeth

Iechyd mislif

Creu hybiau iechyd menywod arbenigol, mwy o waith ymchwil a datblygu rhagor o ddeunyddiau addysgol i bawb.

Endometriosis ac Adenomyosis

Eu trin fel cyflyrau cronig, a darparu addysg yn rhan o'r cwricwlwm.

 

Atal cenhedlu, atal cenhedlu ôl-enedigol a gofal adeg erthyliad

Mwy o wybodaeth ddibynadwy ar gael ar-lein, casglu data pellach a gwella hyfforddiant ar ddefnyddio dulliau atal cenhedlu.

 

Iechyd cyn cenhedlu

Strategaethau byrddau iechyd, hyfforddiant wedi'i dargedu a chefnogaeth i grwpiau risg uwch.

 

Iechyd pelfig ac anymataliaeth

Cyngor gwell ar-lein, ymchwil newydd a gwiriwr symptomau.

 

Y menopos

Adolygu'r holl arferion presgripsiynu sy'n ymwneud â therapi adfer hormonau (HRT), meithrin hyrwyddwyr menopos cymunedol a chynnal ymchwil.

 

Trais yn erbyn menywod a merched

Siarter diogelwch rhywiol, hyrwyddwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ac addysgu pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.   

 

Heneiddio'n dda a chyflyrau hirdymor gydol oes         

Grymuso menywod i reoli eu hanghenion iechyd eu hunain, deall y broses heneiddio a chymryd camau gweithredu ataliol.  

 

 

(Ffynhonnell: Cafwyd o Ddatganiad Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2024)

Mae endometriosis ac adenomyosis yn un elfen o wyth maes blaenoriaeth y Cynllun. Mae'r ffocws hwnnw'n adlewyrchu ymgyrchu cyson gan gleifion a sefydliadau sydd wedi dadlau bod ar y gofal o endometriosis angen cydnabyddiaeth gynharach, llwybrau cliriach a gwell mynediad at gymorth arbenigol.

Mae tystiolaeth yn y DU wedi amlygu bod oedi hiro ran diagnosis, cysylltiadau dro ar ôl tro â’r sector gofal cychwynnol a gwasanaethau brys, a phrofiadau o beidio â chael eich credu yn gyffredin. Mae tystiolaeth ddiweddaraf Endometriosis UK ledled y DU yn awgrymu bod amseroedd diagnosis wedi gwaethygu, gan gyrraedd cyfartaledd o 9 mlynedd a 4 mis yn 2026. Mae hefyd yn adrodd bod diagnosis yn cymryd 11 mlynedd ar gyfartaledd ar gyfer cymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd.

Mae’r ffigur penodol i Gymru yn parhau i fod yn 9 mlynedd ac 11 mis - sef yr amser diagnosis cyfartalog hiraf o blith holl wledydd y DU.

Gall aros yn hir am ddiagnosis arwain at flynyddoedd o boen heb ei reoli, ansicrwydd ac aflonyddwch i fywyd bob dydd, ac anawsterau o ran gwaith, perthnasoedd a ffrwythlondeb. Dywed y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE)  y gall diagnosis hwyr arwain at iechyd gwael hirfaith a chlefyd sy'n anoddach ei drin.

Pam y daeth endometriosis yn achos prawf ar gyfer polisi iechyd menywod

Mae endometriosis wedi denu sylw oherwydd ei fod ar bwynt croesffordd rhwng sawl problem y bwriadwyd i'r Cynllun Iechyd Menywod fynd i'r afael â nhw. Mae NICE yn egluro ei fod yn gyffredin, yn aml yn boenus ac weithiau'n gymhleth i’w drin. Gall hefyd ddatgelu gwendidau yn y ffordd y mae gwasanaethau'n ymateb i symptomau sy'n oddrychol, sy’n amrywio ac yn hanesyddol sydd wedi'u normaleiddio fel “poen mislif”.

Mae Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru yn cydnabod yn benodol y broblem ehangach o symptomau menywod yn cael eu diystyru neu yn peidio â chael eu cymryd o ddifrif. Yn Adroddiad 2024 Endometriosis UK canfuwyd bod 78% o’r ymatebwyr, a gafodd ddiagnosis o endometriosis yn ddiweddarach, wedi profi un neu fwy o feddygon yn dweud wrthynt eu bod yn gwneud “ffwdan am ddim byd” neu sylwadau tebyg, neu bod difrifoldeb eu symptomau wedi’i gwestiynu.

Mae’r pwysau difrifol ar wasanaethau gynaecoleg hefyd wedi dylanwadu ar y cyd-destun polisi yng Nghymru o ran y cyflwr. Cofnodwyd hynny yn Uwchgynhadledd gynaecoleg Llywodraeth Cymru fis Gorffennaf 2024 sef bod y cyfanswm rhestrau aros gynaecoleg wedi cynyddu o 26,138 o lwybrau cleifion ym mis Mawrth 2020 i 49,400 ym mis Mawrth 2024. Tynnodd sylw hefyd at amrywiadau rhwng byrddau iechyd a'r angen i drawsnewid llwybrau gofal yn unol â safonau gofal cydnabyddedig.

Ym mis Mawrth 2026, roedd yna 41,203 llwybr gofal gynaecoleg yn aros ar draws pob cam o'r llwybr yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys 17,074 o lwybrau yn aros am apwyntiad claf allanol newydd.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) wedi cysylltu oedi o ran diagnosis o endometriosis â rhestrau aros gynaecoleg a phwysau capasiti ehangach, ac mae’n galw am gamau cyflymach i sefydlu hybiau iechyd menywod, ac o ran staffio gynaecolegol a chapasiti theatrau.

Beth sydd wedi newid?

Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod. Mae cyhoeddi’r Cynllun Iechyd Menywod cenedlaethol yn rhoi lle mwy gweladwy i endometriosis ac adenomyosis o ran cynllunio yn y GIG yng Nghymru. Mae hefyd yn gosod y ddau gyflwr o fewn newid polisi ehangach, a hynny tuag at wrando ar brofiadau menywod a gwella mynediad at ofal cydgysylltiedig.

Mae pwyslais y Cynllun ar hybiau iechyd menywod, gallai gwell gwybodaeth, hyfforddiant, ymchwil a datblygu llwybrau helpu i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau pam mae cleifion wedi syrthio drwy’r rhwyd, fel petai, rhwng gwasanaethau yn hanesyddol. Ond y prawf fydd, a fydd yr ymrwymiadau hyn yn newid yr hyn sy'n digwydd pan fydd rhywun yn gofyn am gymorth am y tro cyntaf ar gyfer eu symptomau.

Mae datblygu rolau nyrsio endometriosis arbenigol wedi’i ystyried fel gwelliant ymarferol hefyd. Gall nyrsys arbenigol gefnogi cleifion trwy lwybrau cymhleth, darparu gwybodaeth am symptomau ac opsiynau triniaeth, a helpu i bontio'r bwlch rhwng gofal sylfaenol, gynaecoleg gyffredinol a gwasanaethau arbenigol.

Gofal arbenigol dan bwysau

Un maes pryder allweddol yw dyfodol gofal arbenigol hygyrch y GIG ar gyfer endometriosis difrifol. Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ynghyd â chanolfan yn Ysbyty Singleton ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw unig ganolfannau endometriosis drydyddol achrededig Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain y GIG (BSGE) -yng Nghymru  ar gyfer clefydau cymhleth. Mae'r canolfannau yn darparu gwasanaeth amlddisgyblaethol y GIG ar gyfer cleifion ag endometriosis difrifol iawn, gan gynnwys nyrsio gynaecoleg, llawdriniaethau ar y colon a'r rectwm, gofal wroleg, radioleg, meddygaeth poen a gofal nyrsio arbenigol.

Mae’r pryderon wedi’u canoli’n ddiweddar ar gofrestr risg corfforaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n nodi'r posibilrwydd o golli achrediad Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain (BSGE) fel risg, gyda dyddiad targed, sef Rhagfyr 2026. Mae'r gofrestr hefyd yn nodi nad oes dim cyllid wedi'i nodi ar gael i ddatrys y risg.

Cyflwynwyd deiseb i’r Senedd sy’n codi pryderon am y posibilrwydd o golli achrediad Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain ac yn galw am weithredu i ddiogelu mynediad at ofal endometriosis arbenigol yng Nghymru

Triniaethau newydd a datblygiadau diagnostig

Nid yw diagnosis bob amser yn syml. Mae gwybodaeth i gleifion Coleg Brenhinol y Gynaecolegwyr ac Obstetregwyr (RCOG) ar endometriosis yn nodi y gall symptomau orgyffwrdd â chyflyrau eraill, ac nad yw sganiau bob amser yn dangos endometriosis.

Mae canllawiau clinigol ac arloesedd meddygol yn newid y modd y mae modd cydnabod a rheoli endometriosis. Mae canllawiau NICE yn atgyfnerthu pwysigrwydd cael hanes symptomau, ac maent yn egluro na ddylid diystyru endometriosis dim ond oherwydd nad yw sgan uwchsain neu sgan MRI yn dangos y cyflwr. Maent hefyd o blaid defnyddio uwchsain trawsfaginal ac MRI pelfig i helpu i wneud diagnosis ac i asesu endometriosis dwfn. Os caiff ei weithredu'n gyson, gallai hyn helpu i newid yr arfer o aros am brawf pendant cyn cymryd symptomau o ddifrif.

Gall meddyginiaethau newydd hefyd ehangu opsiynau ar gyfer pobl nad yw eu symptomau wedi cael eu rheoli gan y driniaeth gyntaf y rhoddwyd cynnig arni, neu lawdriniaeth flaenorol fel arfer. Yn 2025, argymhellodd NICE therapi cyfunol relugolix  fel opsiwn ar gyfer trin symptomau endometriosis mewn oedolion o oedran atgenhedlu sydd eisoes wedi cael triniaeth feddygol neu lawfeddygol. Mae NICE yn ei disgrifio fel tabled i’w chymryd bob dydd gartref, a allai arwain at lai o bigiadau mewn clinig i rai cleifion.

Mae NICE hefyd wedi argymell linzagolix  ar gyfer symptomau endometriosis mewn oedolion o oedran atgenhedlu sydd wedi cael triniaeth feddygol neu lawfeddygol o'r blaen. Ni fydd y triniaethau hyn yn dileu'r angen am lawdriniaeth mewn achosion cymhleth, ac ni fyddant yn addas i bawb, ond gallant gynnig dewisiadau ychwanegol i rai cleifion.

Efallai mai'r datblygiad diweddar mwyaf trawiadol yw'r posibilrwydd o brofion diagnostig cyflymach, nad ydynt yn fewnwthiol. Ym mis Gorffennaf 2026, dywedodd NICE y gallai dwy dechnoleg nad ydynt yn fewnwthiol, sef EndoSure ac Endotest, gael eu defnyddio yn y GIG yn ystod cyfnod tystiolaeth o dair blynedd tra y caiff rhagor o dystiolaeth ei chasglu ar ba mor dda maen nhw'n gweithio. Mae'r technolegau'n defnyddio gwahanol ddulliau, gan gynnwys dadansoddiad microRNA ar boer, a phrofion synwyryddion y perfedd. Os profant eu bod yn effeithiol ar gyfer gofal arferol, fe allent helpu i leihau'r blynyddoedd y mae llawer o gleifion yn aros am ddiagnosis ar hyn o bryd.

O gydnabyddiaeth i ddarparu

Bydd technoleg newydd yn dod â gobaith i fenywod yng Nghymru dim ond os caiff ei gweithredu o fewn llwybrau gweithredol. Mae prawf cyflymach yn werthfawr dim ond os yw’r sector gofal cychwynnol yn gwybod pryd i'w ddefnyddio, os gall byrddau iechyd weithredu ar ganlyniadau, os yw delweddu ac adolygiadau arbenigol ar gael, ac os yw llwybrau triniaeth yn glir. Bydd meddyginiaethau newydd o gymorth dim ond os yw clinigwyr yn cael eu cefnogi i'w rhagnodi'n briodol, a bod cleifion yn cael eu monitro ac yn cael gwybodaeth yn eu cylch.

Felly dylid barnu'r addewid o brofion cyflym, triniaethau geneuol newydd a chanllawiau cliriach yn erbyn nodau ehangach y Cynllun Iechyd Menywod, sef: gwrando ar fenywod, lleihau oedi, gwella gwybodaeth a gwneud gwasanaethau'n haws eu defnyddio. Yr her nawr yw troi’r gydnabyddiaeth amlycach o endometriosis ac adenomyosis yn ddiagnosis cynharach, yn llwybrau gofal cliriach drwy gydol y gofal ac yn fynediad amserol at y gefnogaeth a'r driniaeth sydd eu hangen ar gleifion.

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru