Prif ddelwedd yr erthygl yw llun agos o fyrllysg y Senedd.

Prif ddelwedd yr erthygl yw llun agos o fyrllysg y Senedd.

25 mlynedd o ddeddfu yng Nghymru

Cyhoeddwyd 28/06/2024   |   Amser darllen munudau

Maen nhw'n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ond beth am 25 mlynedd?

Eleni, mae’r Senedd yn dathlu chwarter canrif ers ei sefydlu. Mae'n sefydliad sydd wedi newid o fod yn Gynulliad gyda dim ond pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, i fod yn Senedd lawn sy'n deddfu ar gyfer pobl Cymru.

Mae’r penblwydd hwn yn gyfle i oedi a phwyso a mesur yr elfennau allweddol sy’n dod ynghyd i wneud deddfu yng Nghymru yn unigryw. 

Rydym yn cyhoeddi cyfres arbennig o erthyglau ar 25 mlynedd o ddeddfu yng Nghymru i nodi'r garreg filltir hon.

Mae'r gyfres yn cynnwys yr erthyglau hyn:

Deddfu yng Nghymru: o ddatganoli gweithrediaeth i fodel cadw pwerau

Mae’r erthygl hon yn esbonio pob cyfnod deddfu yn y Senedd. Mae’n edrych ar y modelau deddfu gwahanol: o ddatganoli gweithrediaeth i'r model cadw pwerau sydd ar waith heddiw.

Beth yw cyfraith Cymru a sut y dylid ei diffinio?

A ddylai Cymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân? Mae'r erthygl hon yn esbonio pam mae hanes unigryw Cymru yn golygu nad yw'r cwestiwn hwn yn debygol o ddiflannu.

Atgyfodi'r Gymraeg fel iaith gyfreithiol

Mae’r Senedd yn ddeddfwrfa ddwyieithog sy’n gwneud cyfreithiau o statws cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dysgwch sut y mae datganoli wedi atgyfodi’r Gymraeg fel iaith gyfreithiol drwy ddarllen yr erthygl hon.

Senedd y DU a deddfu yng Nghymru

Mae perthynas Senedd Cymru â Senedd y DU wedi bod yn elfen hollbwysig o ddeddfu yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn edrych ar y berthynas hon ers 1999 ac yn ystyried perthnasedd parhaus Senedd y DU er gwaethaf y cynnydd yn ymreolaeth ddatganoledig y Senedd.

Cymru yn y Goruchaf Lys

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae dyfarniadau’r Goruchaf Lys wedi chwarae rhan allweddol yn y ffordd y mae datganoli a’r broses ddeddfu yn cael eu deall ac yn gweithio yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn edrych ar ddyfarniadau allweddol y Goruchaf Lys.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Am yr 20 mlynedd, 8 mis ac 19 diwrnod cyntaf o’r 25 mlynedd yn ei hanes, roedd y Senedd yn bodoli yng nghyd-destun aelodaeth o’r UE. Mae ein llinell amser newydd yn dangos y broses o adael yr UE yn y Senedd a sut y newidiodd hynny y broses ddeddfu.

Cyfraith ryngwladol yn y Senedd

Sut y mae cyfraith ryngwladol yn cyd-fynd â'r broses ddeddfu yn y Senedd? Mae’r erthygl hon yn esbonio sut y mae Brexit yn codi cwestiynau cyfansoddiadol newydd am ddatganoli a rôl cyfraith ryngwladol.

Dau ddegawd o ddiwygio: sut y mae trafodaethau am setliad cyfansoddiadol Cymru wedi siapio’r Senedd?

Mae cyfres o gomisiynau, pwyllgorau a phaneli wedi dylanwadu’n drwm ar ddeddfu. Mae'r erthygl hon yn edrych ar eu dylanwad.

Mae'r gyfres yn olrhain y 25 mlynedd gyntaf yn hanes y Senedd. Mae'r broses ddeddfu yng Nghymru yn dal yn ifanc ac wedi addasu i'w gyd-destun newidiol.

P'un a gaiff ei ysgogi yng Nghymru neu'r tu allan iddi, mae rhagor o newid yn anochel. Bydd angen i’r Senedd barhau i addasu i ofynion deddfu yn y dyfodol.

Ni ŵyr neb beth a ddaw, ond ar sail y 25 mlynedd diwethaf, mae'n debygol o fod yn gyfnod arall o newid parhaus.


Erthyglau gan Adam Cooke, Josh Hayman, Sara Moran, Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru