Tribiwnlysoedd Cymru: y Llywydd presennol yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol terfynol

Cyhoeddwyd 17/03/2023   |   Amser darllen munudau

Gorffennodd Syr Wyn Williams ei dymor chwe blynedd fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gyda’i adroddiad blynyddol ar gyfer 2021-22.

Mae'r adroddiad yn rhoi diweddariad ar y datblygiadau yn Nhribiwnlysoedd Cymru dros y 18 mis diwethaf ac yn edrych ar gynigion ar gyfer diwygio'r Tribiwnlysoedd yn y dyfodol.

Cyn i'r adroddiad gael ei ystyried gan y Senedd, rhoddodd Llywydd y Tribiwnlysoedd dystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Mae’r erthygl hon yn ystyried rhai o’r prif faterion a nodwyd yn yr adroddiad.

Beth yw Tribiwnlysoedd Cymru a phwy yw’r Llywydd?

Tribiwnlysoedd Cymru yw'r unig gyrff barnwrol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Corff sy’n setlo anghydfodau yw Tribiwnlys, yn aml yn dilyn penderfyniad corff cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae chwe Thribiwnlys yng Nghymru, sy’n ymdrin â meysydd fel iechyd meddwl, addysg ac amaeth.

Crewyd rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017. Penodwyd Syr Wyn Williams yn 2017. Mae gan Llywydd y Tribiwnlysoedd rôl oruchwylio dros holl Dribiwnlysoedd Cymru. Mae gan bob tribiwnlys hefyd ei arweinydd barnwrol a'i aelodau ei hun. Mae gan y tribiwnlysoedd ystod o wahanol gyfrifoldebau. Gyda'i gilydd, maen nhw'n ymdrin â thua 2,000 o achosion bob blwyddyn.

Mae rhagor o wybodaeth am Dribiwnlysoedd Cymru ar gael yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.  

Ceisiadau i’r Tribiwnlysoedd

Mae adroddiad blynyddol y Llywydd yn dangos amrywiadau yn nifer y ceisiadau a gafwyd gan bob un o Dribiwnlysoedd Cymru. Mae rhai wedi gweld cynnydd sylweddol yn y ceisiadau a gafwyd ganddynt, tra bod eraill wedi gweld gostyngiadau sylweddol. Mae Panel Dyfarnu Cymru, sy’n pennu achosion honedig o dorri codau ymddygiad awdurdodau cyhoeddus,          wedi gweld nifer y ceisiadau yn codi o 4 i 10 rhwng 2020-21 a 2021-22. Dros yr un cyfnod, roedd ceisiadau i Dribiwnlys y Gymraeg wedi gostwng i 3 o'i gymharu â 13 yn y flwyddyn flaenorol.

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, nododd Llywydd y Tribiwnlysoedd yr effaith y mae pandemig Covid-19 wedi'i chael ar nifer y ceisiadau. Er bod y Tribiwnlysoedd wedi gallu addasu'n gyflym i gynnal gwrandawiadau o bell, roedd o’r farn bod amharodrwydd cyffredinol i gymryd rhan mewn ymgyfreitha yn ystod y cyfnod hwn oni bai ei fod yn "gwbl angenrheidiol".

Penodiadau i Dribiwnlysoedd Cymru

Mae'r Llywydd wedi tynnu sylw at heriau parhaus o ran recriwtio aelodau newydd i Dribiwnlysoedd oherwydd y “gystadleuaeth frwd” ar gyfer penodiadau barnwrol ledled y DU. Yn y gorffennol mae'r Llywydd wedi nodi pwysigrwydd 'traws-docynnu' sy'n caniatáu i aelodau un Tribiwnlys wasanaethu ar dribiwnlysoedd eraill, ond dim ond tri penodiad o'r fath a gafodd eu gwneud yn 2021-22, o'i gymharu ag wyth yn 2019-20.

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dywedodd Syr Wyn y gallai rhai ymarferwyr ystyried bod Tribiwnlysoedd Cymru yn llai deniadol na Thribiwnlysoedd sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Dadleuodd mai’r rheswm am hyn yw bod y rolau bron i gyd yn cael ffi (yn hytrach na chyflog) ac nad oes Canolfan Tribiwnlysoedd yng Nghymru lle gall barnwyr a staff grwpio gyda'i gilydd i ddatblygu amgylchedd mwy colegol. Awgrymodd y gallai sefydlu Canolfan Cyfiawnder Sifil Cymru i ddod â chyrff cyfiawnder heb eu datganoli a Thribiwnlysoedd Cymru at ei gilydd i helpu i ddatrys y materion hyn.

Ffyrdd newydd o weithio a chyllidebau

Mae'r ffordd y cynhelir gwrandawiadau'r Tribiwnlys wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sgil pandemig Covid-19 bu'n rhaid cynnal llawer o wrandawiadau o bell ac mae'r arfer hwn wedi parhau byth ers hynny. Mae Llywydd y Tribiwnlysoedd wedi dweud o'r blaen y gall hyn achosi trafferthion i rai Tribiwnlysoedd ond mae wedi arwain at leihau'r costau, a dyma'r prif reswm dros danwariant yng nghyllideb 2021-22. Un o'r tasgau mae Syr Wyn wedi ei nodi ar gyfer ei olynydd yw “taro cydbwysedd priodol rhwng gwrandawiadau o bell a gwrandawiadau “wyneb yn wyneb””. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i barhau i roi diweddariadau i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar unrhyw gynnydd yn y galw am wrandawiadau wyneb yn wyneb a allai effeithio ar ddyraniad y gyllideb.

Defnyddio’r Gymraeg

Mae'r defnydd o'r Gymraeg mewn achosion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Roedd nifer y gwrandawiadau a gynhaliwyd yn Gymraeg eisoes yn isel (25 yn 2019-20 a 20 yn 2020-21 – oedd yn cyfrif am tua 1 y cant o'r holl wrandawiadau) ond mae wedi gostwng i chwech yn 2021-22 a phump rhwng Ebrill a Rhagfyr 2022 (0.3 y cant o'r holl wrandawiadau). Gall rhywfaint o'r gostyngiad hwn gael ei esbonio gan y gostyngiad yn nifer y ceisiadau i Dribiwnlys y Gymraeg ond mae’r lefelau cynharach hyd yn oed yn is o lawer na lefel poblogaeth siaradwyr Cymraeg.

Nododd Syr Wyn yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad bod y defnydd o'r Gymraeg mewn Tribiwnlysoedd eraill yng Nghymru yn isel, er bod yna farnwyr ac aelodau lleyg o'r Tribiwnlysoedd hynny sy'n gallu cynnal achosion yn y Gymraeg. Er bod y cyfleuster yno i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg, dywedodd nad ydynt ar y cyfan yn tueddu i wneud hynny yn y sefyllfa ffurfiol hon. Awrgrymodd Syr Wyn y gallai Llywydd y Tribiwnlysoedd ofyn am aelodaeth o bwyllgor sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar y Gymraeg, a allai gynnig cyfleoedd i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith.

Diwygio Tribiwnlysoedd Cymru

Yn ei adroddiad blynyddol, mae’r Llywydd yn cefnogi nifer o’r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys:

  • dylai’r chwe Tribiwnlys yng Nghymru gael eu disodli gan un Tribiwnlys Haen Gyntaf i Gymru, y bydd modd wedyn ei isrannu’n siambrau sy’n cynrychioli’r chwe maes hwnnw;
  • trosglwyddo Tribiwnlys Prisio Cymru i fod o fewn cwmpas Tribiwnlysoedd Cymru;
  • sefydlu Tribiwnlys Apêl i Gymru, a allai glywed apeliadau o bob un o'r chwe maes yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf newydd; a
  • gwneud Uned Tribiwnlysoedd Cymru yn adran anweinidogol yn Llywodraeth Cymru.

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, soniodd Syr Wyn yn arbennig am fanteision cael Tribiwnlys Apêl i Gymru. Dadleuodd y byddai'n rhoi un llwybr i ddinasyddion apelio, yn hytrach na'r sefyllfa arwahanol sy'n bodoli heddiw, ac y byddai'n debygol o ganiatáu i apeliadau gael eu clywed yn gynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu llawer o argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn darn o ddeddfwriaeth i ddiwygio Tribiwnlysoedd Cymru. Mae Llywydd y Tribiwnlysoedd yn glir ynghylch yr angen am y ddeddfwriaeth hon i weithredu'r cynigion i sicrhau bod Tribiwnlysoedd Cymru’n “ffynnu fel sefydliadau datganoledig” ac i unioni “llawer o’r anghysondebau” sy’n bodoli ar hyn o bryd yn system. Disgwylir i’r ddeddfwriaeth gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y Chweched Senedd yn 2026.

Llywydd newydd yn ymgymryd â'i swydd

Mae Syr Wyn yn cynnig ambell fyfyrdod yn ei adroddiad blynyddol. Mae’n dweud y bydd y pedair blynedd nesaf yn heriol i'w olynydd, gyda'r diwygiadau sydd ar y gweill i Dribiwnlysoedd Cymru a deddfwriaeth newydd ddisgwyliedig yn Senedd y DU ar iechyd meddwl.

Bydd Syr Gary Hickinbottom yn cymryd yr awenau fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar 1 Ebrill 2023.

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 21 Mawrth.

Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV.

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru