Ar 17 Medi cafodd y terfyn cyflymder statudol ar ffyrdd cyfyngedig Cymru – y rhai sydd â system goleuadau stryd heb fod yn fwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd – ei ostwng o 30mya i 20mya.
Er bod 20mya yn cael ei ddefnyddio’n eang ledled y DU, dyma'r cynllun cenedlaethol cyntaf.
Mae'n deg dweud bod y polisi wedi ennyn ymateb. Mae'r ddeiseb fwyaf o bell ffordd yn hanes y Senedd yn gwrthwynebu'r newid ac yn dal i gasglu llofnodion.
Dyma'r ail o ddwy erthygl sy'n ystyried materion rydym yn cael ein holi yn eu cylch yn rheolaidd yn Ymchwil y Senedd.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar orfodi a monitro. Roedd y cyntaf yn edrych ar weithrediad ac effeithiolrwydd.
Beth yw’r dull gorfodi?
Ym mis Awst, gwnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, yn glir y “bydd y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya yn cael ei orfodi, gyda’r rhai sydd yn goryrru’n ormodol yn cael eu dirwyo”.
Fodd bynnag, dywedodd hefyd, yn y camau cynnar o leiaf wrth i bobl ddod i arfer â’r newid, y bydd y ffocws ar addysg ac ymgysylltu yn hytrach na chosbi.
Mae cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i'r bartneriaeth lleihau anafiadau GanBwyll i gefnogi gwaith ymgysylltu ar ymyl y ffordd i addysgu gyrwyr sy'n goryrru drwy'r heddlu yn gweithio gyda thimau diogelwch ffyrdd y gwasanaeth tân (yn hytrach na diffoddwyr tân).
Mae'r bartneriaeth, sy'n cynnwys y 22 o gynghorau yng Nghymru, Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru, yn gyfrifol am orfodi cyflymder, yn ogystal ag addysg a gwaith ar atebion peirianyddol fel mesurau arafu traffig.
Mae GanBwyll wedi cyhoeddi gwybodaeth ar y dull gorfodi ar gyfer cyflwyno 20mya ar ei wefan. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y dull on ddewis safleoedd gorfodi, a'r safleoedd eu hunain.
Pennodd canllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu lefel goddefiant ar gyfer gorfodi terfyn cyflymder o 10 y cant a 2mya ar ben hynny – neu 24mya mewn terfyn 20mya. Mae GanBwyll yn nodi bod ganddo ganiatâd i gynyddu hyn i 26mya (h.y. 10 y cant a 4mya) tra bod y cyhoedd yn addasu i’r newid.
A fydd hyn yn gwneud arian i gyrff cyhoeddus Cymru?
Na fydd. Er gwaethaf rhai awgrymiadau i'r gwrthwyneb, ni fydd y newid terfyn cyflymder yn codi refeniw i’r heddlu nac i Lywodraeth Cymru.
Mae’r arian a godir o ddirwyon goryrru yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’r Trysorlys yn San Steffan yn hytrach na chael ei gadw gan unrhyw gyrff yng Nghymru.
A yw’r newid i’r terfyn cyflymder yn effeithio ar feicwyr?
Mae nifer o droseddau y gellir eu cymhwyso i feiciau pedal, fel beicio peryglus, beicio diofal neu anystyriol a beicio dan ddylanwad diod neu gyffuriau.
Fodd bynnag, mae adran 81 o'r Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, sy’n pennu terfyn cyflymder ffyrdd cyfyngedig, yn ei gwneud yn glir bod y terfyn yn gymwys i ‘gerbydau modur’. Nid yw beiciau yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol ‘cerbydau modur’.
Yn fwy cyffredinol, mae rheol 124 o Reolau'r Ffordd Fawr yn gosod terfynau cyflymder amrywiol, gan ei gwneud yn glir eu bod ar gyfer cerbydau modur.
Mae beiciau trydan yn destun cyfyngiadau eraill. I fod yn gyfreithlon ar gyfer y ffordd mae'n rhaid iddynt gael modur sydd ag allbwn pŵer o ddim mwy na 250 o wattiau, na ddylai allu gyrru'r beic yn gyflymach na 15.5mya.
Mae'n werth nodi, er y gall awdurdodau lleol gyfyngu ar gyflymder ar gyfer beiciau gan ddefnyddio is-ddeddfau, bod troseddau traffig ffyrdd wedi’u cadw yn ôl gan San Steffan.
Ni all Llywodraeth Cymru na’r Senedd ddeddfu i gyflwyno troseddau traffig ffyrdd newydd.
A fydd angen creu Rheolau’r Ffordd Fawr i Gymru?
Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Ym mis Awst, ymatebodd y Dirprwy Weinidog i gwestiwn ysgrifenedig ar y mater hwn i ddweud:
Yn dilyn trafodaethau gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, bydd Rheolau’r Ffordd Fawr yn adlewyrchu’r newid i 20mya fel y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.
Mae adroddiad y tasglu 20mya, a ystyriodd y newid yn 2020, yn cynnwys newidiadau drafft i Reolau’r Ffordd Fawr, a oedd yn angenrheidiol ym marn y tasglu pe bai’r newid i derfyn cyflymder 20mya yn mynd yn ei flaen (a restrir yn atodiad E, gweler tudalen 42). Mae’n awgrymu mai dim ond ambell i adran o’r Cod y byddai angen eu diweddaru. Mae’n ymddangos yn annhebygol, felly, y bydd fersiwn ar wahân yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cymru. Awgrymodd adroddiad y tasglu y dylid diweddaru'r fersiwn bresennol i gynnwys cyfeiriadau penodol at Gymru lle bo angen.
Ar nodyn ychydig yn wahanol, mae'r RAC wedi rhybuddio gyrwyr i fod yn ymwybodol y gallai gymryd peth amser i systemau llywio â lloeren gael eu diweddaru gyda'r terfynau cyflymder newydd. Tynnwys sylw at y mater hwn yn fwy cyffredinol ledled y DU mewn ardaloedd 20mya.
Sut bydd y polisi 20mya yn cael ei fonitro a'i werthuso?
Cafodd yr adroddiad monitro cyntaf (cam 1) ar yr wyth ardal beilot a gyflwynwyd ers mis Mehefin 2021 ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Mae hyn yn disgrifio:
- newidiadau “mawr cadarnhaol” mewn perthynas â Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) ynghylch lleihau cyflymder ac agweddau at deithio llesol;
- newid “bach cadarnhaol” mewn ymddygiad cerbydau/cerddwyr; a
- “dim newid amlwg” mewn ansawdd aer lleol a newidiadau “bach negyddol” mewn amseroedd teithio cerbydau.
Ni chafodd DPA eraill, fel allyriadau CO2, cyfraddau anafiadau cerddwyr/beicwyr a newidiadau o ran agwedd y cyhoedd, eu cynnwys oherwydd amserlenni tynn y cynlluniau peilot a daearyddiaeth gyfyngedig. Disgwylir yr adroddiad nesaf ar y cynlluniau peilot yn fuan.
Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ddogfen fframwaith monitro ar gyfer cyflwyno’r newid ar lefel genedlaethol ym mis Medi. Mae hwn yn nodi'r amcanion polisi a'r dangosyddion a ddefnyddiwyd. Caiff data eu casglu am hyd at bum mlynedd ar ôl cyflwyno’r newid.
Asesir yn erbyn cyfanswm o 12 DPA (gweler adran 2.2 a ffigur 2 yn y fframwaith monitro). Esbonnir ffynonellau data cynradd ac eilaidd, dulliau casglu ac amserlenni yn adran 3.5.
O ran amserlenni adrodd ffurfiol mae’r fframwaith yn nodi’r canlynol:
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn paratoi adroddiad interim ar effeithiau cychwynnol y terfyn cyflymder safonol cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar sail data a gasglwyd hyd at chwe mis ar ôl gweithredu (mis Hydref 2023 i fis Mawrth 2024). Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024. Bydd adroddiad pellach ar y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024. Bydd adroddiadau ffurfiol yn cael eu cynnal yn flynyddol ar ôl hynny.
A fydd yr effaith economaidd yn cael ei gwerthuso?
Mae effaith economaidd y newid i 20mya wedi bod yn destun trafod, gyda beirniaid y polisi yn tynnu sylw at gostau net amcangyfrifedig o £4.5bn a nodir yn Memorandwm Esboniadol (EM) sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth i weithredu'r newid.
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn amcangyfrif cost economaidd o £6.4bn dros 30 mlynedd o ganlyniad i’r cynnydd mewn amseroedd teithio. Mae’n egluro fel a ganlyn:
Rhennir yr anfantais hon rhwng aelwydydd sy’n cymudo ac yn teithio ar gyfer gweithgareddau hamdden (£4.8 bn) a cholledion cynhyrchiant posibl pobl sy’n teithio am resymau busnes (£1.6 bn) e.e. gyrwyr dosbarthu.
Gydag amcangyfrif o fuddion economaidd o tua £1.9bn mae hyn yn rhoi “anfantais” net o £4.5bn.
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at fethodoleg gwerthuso Llyfr Gwyrdd Llywodraeth y DU. Mae'r Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru ar y polisi yn nodi bod y fethodoleg a ddefnyddir yn y Memorandwm Esboniadol “yn destun trafodaeth academaidd am ei effeithiolrwydd wrth gyfrifo cyfnodau byr o oedi”. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y Senedd:
… mae ein dadansoddiad yn dangos y bydd effaith o un funud ar deithiau unigol, ar gyfartaledd, ac effaith o lai na dwy funud ar y rhan fwyaf o deithiau. Dyna mae'r gwerthusiad yn ei ddangos—mae'n fach iawn ac yn anodd iawn ei foneteiddio'n ddibynadwy. Ond mae'r Llyfr Gwyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i ni adio pob munud a gollwyd, i'w luosi â 30, oherwydd mae'n rhaid i'r dadansoddiad hwn gwmpasu cyfnod o 30 mlynedd, a dyna o ble daw'r ffigur hwn o effaith o £4.5 biliwn ar yr economi.
Nid yw’r fframwaith monitro, na’r adolygiad ôl-weithredu a nodir yn y Memorandwm Esboniadol, yn cyfeirio at unrhyw asesiad o gostau a buddion economaidd y terfyn newydd. Efallai nad yw hyn yn syndod, o ystyried y cyfnod monitro cymharol fyr o bum mlynedd, sy’n cyferbynnu â’r costau a’r buddion a amcangyfrifwyd dros 30 mlynedd.
Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd unrhyw asesiad ehangach o effaith y polisi, gan gynnwys asesiad o effaith economaidd, yn cael ei gynnal.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru