Y broses ddeisebau yw un o’r prif ffyrdd i’r cyhoedd ymgysylltu â gwaith y Senedd a dylanwadu arno.
Mae’r defnydd o system ddeisebau’r Senedd wedi tyfu’n raddol ers 2007. Yn 2022, cafodd 83 o ddeisebau newydd eu hystyried gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd.
Caiff pob deiseb â mwy na 250 o lofnodion ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd.
Mae Ymchwil y Senedd yn darparu briff i’r Pwyllgor i lywio’i drafodaeth o bob deiseb. Mae casgliad o’r briffiau hyn i’w gweld isod.
Hidlo yn ôl blwyddyn*: 2025 2024 Dychwelyd i flynyddoedd blaenorol
* Yn cyfeirio at y dyddiad y trafododd y Pwyllgor y ddeiseb.
- Ariannu addysg cerddoriaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng “ngwlad y gân”
- Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)
- Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol
- Rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer dyfodol hirdymor campws Llambed
- Cynnwys rygbi yn y cwricwlwm i Gymru o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd
- Rhoi terfyn ar y defnydd o’r term 'Darpariaeth Gyffredinol' fel rheswm dros wrthod ADY
- Gwrthdroi’r Penderfyniad i Gau Cyrsiau Cwnsela a Seicotherapi Ôl-raddedig ym Mhrifysgol De Cymru
- Sicrhau diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n dioddef o sgîl-effeithiau negyddol brechlyn COVID-19
- Cadw mynediad 24 awr i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli
- Gwneud prawf sgrinio calon yn ofyniad hanfodol ar gyfer aelodaeth o glybiau chwaraeon a champfeydd yng Nghymru
- Sefydlu ‘Cymdeithas Gofal’ i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng COVID Hir yng Nghymru
- Galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a mynd i’r afael â’r argyfwng deintyddol sy’n wynebu cleifion yng Nghymru
- Dylid atal cleifion o Bowys a gaiff eu trin mewn ysbytai dros y ffin yn Lloegr rhag wynebu amseroedd aros hwy
- Adolygu Fformiwla Carr Hill yng Nghymru - y system ariannu ar gyfer gofal sylfaenol
- Apêl: Bil Awtistiaeth Cymru 2019 (I’r Nifer Fach, Nid y Nifer Fawr)
- Deddf newydd gan y Senedd i adalw cynghorwyr lleol
- Cyfyngu cynghorau Cymru i gynnydd o hyd at 2% ar y dreth gyngor bob blwyddyn, gan ddechrau ym mis Ebrill 2025
- Cael gwared ar y cynigion ar gyfer Treth Twristiaeth
- Mae angen arian ychwanegol ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl UNSAIN Castell-nedd Port Talbot
- Cynnull uwchgynhadledd i gyflymu buddsoddi cynaliadwy a moesegol gan bensiynau’r sector cyhoeddus
- Gosod rheolau llymach i gyfyngu ar y rhoddion a'r taliadau a gaiff Aelodau o'r Senedd
- Rhaid i bolisïau neu brosiectau'r Llywodraeth sy'n costio dros £10 miliwn gael eu cymeradwyo gan etholwyr
- Sefydlu strwythur o fewn y Senedd i wahardd gwleidyddion sy’n euog o ddichell fwriadol
- Gohirio’r broses o gael 36 Aelod ychwanegol o’r Senedd tan 2030