Y broses ddeisebau yw un o’r prif ffyrdd i’r cyhoedd ymgysylltu â gwaith y Senedd a dylanwadu arno.
Mae’r defnydd o system ddeisebau’r Senedd wedi tyfu’n raddol ers 2007. Yn 2022, cafodd 83 o ddeisebau newydd eu hystyried gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd.
Caiff pob deiseb â mwy na 250 o lofnodion ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd.
Mae Ymchwil y Senedd yn darparu briff i’r Pwyllgor i lywio’i drafodaeth o bob deiseb. Mae casgliad o’r briffiau hyn i’w gweld isod.
Hidlo yn ôl blwyddyn*: 2024 Dychwelyd i flynyddoedd blaenorol
* Yn cyfeirio at y dyddiad y trafododd y Pwyllgor y ddeiseb.
- Dileu’r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd
- Rhoi diwedd ar bob bwyd â chymhorthdal yn y Senedd ac i staff Llywodraeth Cymru yn gyffredinol
- Rhaid sicrhau na fydd pob bwyd a gaffaelir yn gyhoeddus yng Nghymru byth yn fegan neu’n llysieuol yn unig
- Cael gwared ar y 'Gweithredoedd Sylfaenol' a'r arddangosfeydd arfaethedig mewn taliadau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
- Ailystyried Toriadau i Gyllid Ôl-raddedig a Chynyddu Benthyciadau Doethuriaeth i Gyfateb ag Ariantal Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI)
- Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Dileu cynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol
- Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd
- Dydd Llun heb gig ym mhob ysgol yng Nghymru.
- Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar
- Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Lannau Gogledd Llandudno
- Dylid gwahardd rhyddhau balwnau
- Cynyddu effeithiolrwydd gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llygredd yn y Teifi.
- Dylid gwahardd tân gwyllt o siopau
- Stopiwch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, Sgiwen NAWR!
- Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas
- Atal llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr
- Dylai Cadw roi gwarchodaeth statudol i Dderwen Adwy’r Meirwon fel coeden hynafol
- Dylid dynodi Dyffryn Tywi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
- Rhaid diogelu ein bywyd gwyllt ... dylid gwahardd glaswellt plastig yng Nghymru!
- Cyflwyno trwydded e-sigaréts ar gyfer siopau e-sigaréts pwrpasol
- Cyflwyno opsiwn prawf ceg y groth yn y cartref yng Nghymru
- Dylai Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AAGIC) wneud Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn fodiwl datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol mewn addysg feddygol ôl-radd.
- Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru
- Mae eisiau ac mae angen uned Iechyd Meddwl â gwelyau i ddynion arnom ni yng Ngogledd Cymru
- Cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol cael diffibriliwr mewn gweithleoedd a chlybiau chwaraeon
- Sefydlu gwasanaeth rhywedd o dan 18 oed yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru cyn gynted â phosibl.
- Llygedyn o obaith o dan fygythiad: Cefnogwch Hwb Llesiant Cymunedol Bronllys os gwelwch yn dda!
- Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd
- Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl brys i dadau newydd
- Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd
- Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu ar waith
- Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd
- Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban
- Gwahardd Ambiwlansys rhag cael eu defnyddio fel gwelyau ychwanegol ar gyfer ysbytai
- Dylid cyflwyno ffordd i etholwyr bleidleisio i gael gwared ar eu AS cyn diwedd eu tymor
- Rwy'n gwrthwynebu 'Bil Diwygio'r Senedd' Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 18 Medi 2023, yn dod yn gyfraith.
- Senedd Reform Bill to be amended to include provisions for constituency approval of MS pay increases (Saesneg yn unig)
- Lleihau bil treuliau Aelodau o’r Senedd
- Gwrthodwch bob cynllun ar gyfer Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Atal Tagfeydd ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd yng Nghymru
- Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais
- Cynnal arolwg diduedd o’r trigolion sy'n byw yn ardaloedd y cynllun peilot ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya
- Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau
- Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya
- Rydym am i Lywodraeth Cymru gadw’r gyfraith 20mya ardderchog
- Dileu’r terfynau 50mya ar yr M4 ger Casnewydd ac Abertawe ac ar yr A470 ger Pontypridd
- Cynyddwch y terfyn cyflymder ar yr M4 yn ôl i 70mya
- Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith.
- Cynnal arolwg barn cyhoeddus ar a ddylid adeiladu Ffordd Liniaru’r M4, a gweithredu’r canlyniad ar unwaith
- Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion!
- Dylid gosod goleuadau traffig wrth gylchfan McDonald's ym Mhont-y-pwl
- Atal unrhyw gynllunio pellach ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru.
- Dylid dirymu Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru 2022 i 2027
- Dylid creu cynllun traffig cynaliadwy ar gyfer Dyffryn Rhiangoll
- Diddymu’r terfyn cyflymder 20mya ar y TRA4076 yn Johnston, Sir Benfro
- Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wyrdroi ei phenderfyniad i atal bysiau T2 rhag galw yng Ngarndolbenmaen
- Gosodwch gylchfan, nid goleuadau traffig, yng Nghyffordd angheuol Nash, Sir Benfro
- Dylid cynnal pôl piniwn cyhoeddus ledled Cymru i ddangos gwir lefel cefnogaeth y cyhoedd i’r terfyn cyflymder 20mya
- Dechrau ymchwiliad cyhoeddus i'r rhesymau, y cyfiawnhad a'r dystiolaeth am 20mya
- Gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol hwyr y nos yn Ne a De-orllewin Cymru.
- Dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r enw 'Anglesey' a defnyddio’r enw 'Ynys Môn' yn unig neu’r enw byrrach 'Môn'.
- Galw ar y Prif Weinidog i ymyrryd ac achub Duolingo Cymraeg.
- Diddymu'r enw ‘Wales’ a gwneud ‘Cymru’ yr unig enw ar ein gwlad.
- Cadwch yr enw 'Wales' a pheidiwch â gwastraffu rhagor o arian trethdalwyr ar ymarferion dibwrpas.