Materion Allanol - Adroddiad monitro: Medi 2026

Cyhoeddwyd 01/10/2026   |   Amser darllen munud

Bwriad yr adroddiad monitro hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o’r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb am ddatblygiadau polisi allweddol sy’n ymwneud â materion allanol a masnach.

Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 7 Mai 2026 a 18 Medi 2026.

Rhyngwladol

Cysylltiadau rhyngwladol

Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol ar draws Llywodraeth Cymru a'r Senedd.

  • Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS ei dîm gweinidogol ym mis Mai. O ran cysylltiadau rhyngwladol, cadarnhawyd y cyfrifoldebau a ganlyn:
    • Prif Weinidog (Rhun ap Iorwerth AS): Hyrwyddo a chynrychioli Cymru gartref a thramor, a chysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys rhwydwaith tramor a chysylltiadau â'r UE.
    • Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb (Sioned Williams AS): Cymru ac Affrica.
    • Y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni (Adam Price AS): Polisi a hyrwyddo masnach ryngwladol, gan gynnwys cydgysylltu materion sy'n ymwneud â Masnach y DU/UE, porthladdoedd rhydd, a pholisi ffiniau.
  • Ers dod i'r swydd, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud cyfres o gyhoeddiadau a sylwadau ar sianeli’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys mai ‘dyma fydd y llywodraeth fwyaf allblyg a gafodd Cymru erioed’.
  • Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi cynlluniau ar gyfer ei blaenoriaethau rhyngwladol eto. Ym mis Mehefin, dywedodd mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig y bydd yn nodi ei gweledigaeth ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol gyda Strategaeth Ryngwladol newydd.
  • Ym mis Mehefin, gwnaeth y Prif Weinidog sylwadau ar y gwrthdaro rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran, gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai'r cytundeb rhwng y ddwy wlad yn darparu sylfaen ar gyfer heddwch parhaol, a bod ailagor Culfor Hormuz mewn modd diogel yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau economaidd sy'n cael ei deimlo yng Nghymru.
  • Ym mis Gorffennaf, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad drwy sianeli’r cyfryngau cymdeithasol ar y gwrthdaro rhwng Gaza ac Israel, gan nodi bod 1000 diwrnod wedi mynd heibio ers yr hyn a ddisgrifiodd fel gweithredoedd erchyll Hamas ar 7 Hydref 2023, a gweithredoedd hil-laddiad Llywodraeth Israel yn Gaza. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi ei safbwynt ar y gwrthdaro yn ffurfiol ers iddi ddod i rym ym mis Mai, ond mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig dywedodd ei fod yn “parhau yn gadarn yn ein galwadau am ddatrysiad heddychlon a pharhaol rhwng y ddwy wladwriaeth”. Cafodd datganiad barn ei gyflwyno hefyd gan Gwyn Williams AS.
  • Ym mis Medi, llofnododd y Prif Weinidog 'Gytundeb Caerdydd' gyda Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney MSP. Mae'r cytundeb yn nodi meysydd cydweithredu, gan gynnwys gweithgarwch rhyngwladol.
  • Ym mis Medi, cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price AS, ymgynghoriad ar fframwaith moesegol sy'n llywodraethu ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r sector amddiffyn yn yr hydref.

Datblygu rhyngwladol

Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch datblygiadau rhyngwladol ar draws Llywodraeth Cymru a'r Senedd.

  • Ym mis Mehefin, trafododd y Senedd wariant rhyngwladol. Roedd y ddadl yn ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol a chyllid datblygu rhyngwladol. Mae'r pynciau hyn wedi cael eu codi drwy gwestiynau ysgrifenedig, gan gynnwys yn benodol ar raglen Cymru ac Affrica. Ymatebodd Llywodraeth Cymru y bydd dyraniadau cyllid i’r ffrwd waith a chyfeiriad polisi’r Llywodraeth hon yn y dyfodol yn cael eu hystyried wrth symud ymlaen.
  • Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru rodd o £50,000 i Apêl Daeargrynfeydd Venezuela y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, yn dilyn y daeargrynfeydd a ddigwyddodd yn y wlad ym mis Mehefin.
  • Ym mis Gorffennaf, trafododd y Senedd raglen Cenedl y Noddfa. Cyflwynodd yr Aelodau gwestiynau ysgrifenedig ar y pwnc hefyd. Mewn ymateb i un cwestiwn ysgrifenedig, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i amddiffyn gweledigaeth Cenedl y Noddfa, a sicrhau bod yr egwyddorion sy’n sail i’r weledigaeth hon wedi’u hymgorffori ar draws polisi ac arfer y llywodraeth.

Ymweliadau gweinidogol

Mae'r tabl isod yn rhoi trosolwg o ymweliadau rhyngwladol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gweinidog/Ymweliad

Lleoliad

Dyddiad

Llysgennad Dynodedig y DU i Japan

Cymru

Mehefin 2026

Y Prif Weinidog

Iwerddon

Mehefin 2026

Datblygiadau o ledled y DU

Mae'r adran hon yn tynnu sylw at ddatblygiadau gan lywodraethau a seneddau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn perthynas â datblygiad a chysylltiadau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliadau’r pwyllgor.

Y DU

 

Pwyllgor

Teitl yr ymchwiliad

Y diweddaraf

Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol Tŷ’r Cyffredin

Partneriaeth datblygu'r DU â Nigeria

Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Gorffennaf.

Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol ac Amddiffyn Tŷ'r Arglwyddi

Ymgysylltiad y DU â'r system amlochrog

Lansiwyd yr ymchwiliad ym mis Mehefin.

Cyd-bwyllgor ar y Strategaeth Diogelwch Cenedlaethol

Y Strategaeth Diogelwch Cenedlaethol

Ysgrifennodd y Cadeirydd at Lywodraeth y DU yn galw am ragor o wybodaeth am argymhellion yr adroddiad heb eu datrys.

Cyd-bwyllgor ar y Strategaeth Diogelwch Cenedlaethol

Dull y DU o atal ymosodedd Rwsia

Lansiwyd yr ymchwiliad ym mis Mehefin.

Yr Alban

  • Yn dilyn etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai, cyhoeddwyd cabinet newydd Llywodraeth yr Alban. Mae'r rhestr isod yn amlinellu cyfrifoldebau gweinidogol fel y maent yn ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol a masnach.
    • Prif Weinidog (John Swinney ASA): Cynrychioli’r Alban yn rhyngwladol;
    • Dirprwy Brif Weinidog (Jenny Gilruth ASA): Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig;
    • Y Gweinidog dros Ewrop, Materion Allanol ac Ynni (Stephen Gethins ASA): Materion allanol, Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys aliniad, a rhwydwaith rhyngwladol yr Alban a chysylltiadau â'r Alban;
    • Y Gweinidog Busnes a Gwaith Teg (Tom Arthur ASA): Strategaeth a pholisi masnach;
    • Y Gweinidog dros Gydraddoldeb a Datblygu Rhyngwladol (Simita Kumar ASA): Ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phobl wedi'u dadleoli, a datblygiad, strategaeth a gweithrediad rhyngwladol.

Gogledd Iwerddon

Ewrop

Y wybodaeth ddiweddaraf o ran yr UE

Mae'r adran hon yn amlinellu datblygiadau mewn deddfwriaeth berthnasol yr UE.

  • Yn Araith Cyflwr yr Undeb, cyhoeddodd Arlywydd Comisiwn yr UE, Ursula von der Leyen, gynigion i ystyried gwneud Canada yn 'aelod cyswllt' cyntaf yr UE. Ar hyn o bryd nid oes statws o'r fath a byddai ei greu yn gofyn am newidiadau i gytundebau'r UE a chefnogaeth yr holl aelod-wladwriaethau. Cynigiwyd Cyngor Diogelwch Ewropeaidd hefyd, gyda Llywydd y Comisiwn yn datgan bod ‘fformat arweinwyr’ wedi cael ei drafod ers tro byd ac y gallai gynnwys partneriaid fel Canada, Norwy, Wcráin, y Deyrnas Unedig, ac eraill.
  • Ym mis Gorffennaf 2025, cyflwynodd Comisiwn yr UE ei gynnig ar gyfer y Fframwaith Ariannol Amlflwydd. Dyma gyllideb hirdymor yr UE a fydd yn nodi'r gyllideb a'r rheolau ar gyfer rhaglenni ariannu'r UE y mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn dymuno cyd-fynd â hwy. Dywedodd dogfen esboniadol a gyhoeddwyd gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd fod cytundeb ar y Fframwaith yn cael ei ystyried yn angenrheidiol erbyn diwedd 2026. Byddai hyn yn caniatáu mabwysiadu deddfau deddfwriaethol yn 2027 ac yn sicrhau bod cyllid yr UE yn cyrraedd buddiolwyr heb ymyrraeth o fis Ionawr 2028.
  • Mae Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewropeaidd eisoes wedi dechrau gweithio i graffu ar y testunau deddfwriaethol y bydd angen eu gweithredu i roi’r Fframwaith Ariannol Amlflwydd ar waith. Mae'r tabl isod yn tynnu sylw at y cynnydd ar y rheoliadau sy'n debygol o fod o'r diddordeb mwyaf i Gymru a'r DU: 

Cynnig deddfwriaethol

Senedd yr UE

Cyngor yr UE

Y camau nesaf

Rhaglen Erasmus+ 2028-2034

 

Yn aros am benderfyniad y pwyllgor (Diwylliant ac Addysg)

Y Cyngor yn cytuno ar safbwynt rhannol

05/10/2026: Dyddiad dangosol y Cyfarfod Llawn, darlleniad cyntaf

'AgoraEU' 2028-2034

 

Yn aros am benderfyniad y pwyllgor (Diwylliant ac Addysg/Rhyddid sifil, cyfiawnder a materion cartref)

Y Cyngor yn cytuno ar safbwynt rhannol

Dim dyddiad Cyfarfod Llawn dangosol ar gael

Horizon Europe, 2028-2034

 

Yn aros am benderfyniad y pwyllgor (Diwydiant, ymchwil ac ynni)

Y Cyngor yn cytuno ar safbwynt rhannol

19/10/2026 Dyddiad dangosol y Cyfarfod Llawn, darlleniad cyntaf

Cronfa Cystadleurwydd Ewropeaidd

 

Yn aros am benderfyniad y pwyllgor (Diwydiant, ymchwil ac ynni)

Y Cyngor yn cytuno ar safbwynt rhannol

23/11/2026 Dyddiad dangosol y Cyfarfod Llawn, darlleniad cyntaf

Y cysylltiadau rhwng y DU a’r UE

Mae'r adran hon yn amlinellu datblygiadau yn y trafodaethau rhwng y DU a'r UE. 

  • Ym mis Mehefin, rhoddodd y cyn-Weinidog dros y Cyfansoddiad a Chysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, Nick Thomas-Symonds AS, araith 10 mlynedd ers refferendwm Brexit. Canolbwyntiodd ar bwysigrwydd y berthynas rhwng y DU a'r UE i faterion fel diogelwch a masnach.
  • Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ystadegau ar gyfranogiad y DU yn rhaglenni'r UE. Mae'r adroddiad yn ymdrin â Horizon 2020 (2014-20) a phedair blynedd gyntaf Horizon Europe (2021-24).
  • Ym mis Gorffennaf, llofnododd y DU a'r UE y Cytuniad rhwng y DU a’r UE ar Gibraltar. Mae'r cytuniad yn sefydlu ffin hylifol rhwng Gibraltar a Sbaen, a model tollau wedi'i deilwra, ond nid yw'n effeithio ar sofraniaeth mewn unrhyw ffordd. Daeth y cytuniad i rym dros dro ar 15 Gorffennaf ond nid yw wedi derbyn cadarnhad ffurfiol eto.
  • Yn dilyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Keir Starmer AS, cafodd yr Uwchgynhadledd a gynlluniwyd rhwng y DU a'r UE ym mis Gorffennaf ei gohirio. Siaradodd Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, â’r Prif Weinidog newydd, Andy Burnham AS, lle cytunwyd y dylai eu timau gydweithio’n agos i baratoi ar gyfer Uwchgynhadledd y DU a'r UE yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
  • Penodwyd Hamish Falconer AS y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol a Chysylltiadau Ewropeaidd, yn dilyn penodiad Andy Burnham a'r ad-drefnu cabinet wedi hynny. Ym mis Medi, cyfarfu â chomisiynydd masnach yr UE, Maroš Šefčovič.
  • Ers dod i'r swydd ym mis Gorffennaf, mae wedi cael ei adrodd bod Andy Burnham eisiau cyrraedd cytundeb Brexit newydd. Fodd bynnag, mae adroddiadau hefyd yn nodi nad yw cynlluniau ar gyfer unrhyw gytundeb Brexit newydd yn debygol o fod yn bwnc ar gyfer yr uwchgynhadledd sydd ar ddod, gyda ffynonellau yn yr UE yn dweud y teimlad yw bod hynny’n rhywbeth ar gyfer diwrnod arall — efallai uwchgynhadledd 2027.
  • Ym mis Medi, croesawodd y Prif Weinidog, Andy Burnham AS Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron. Yn ystod y cyfarfod, pwysodd y Prif Weinidog am fwy o gydweithrediad ag Ewrop i gefnogi busnesau Prydain.
  • Siaradodd y Prif Weinidog, Andy Burnham AS, ag Arlywydd Christodoulides Cyprus ym mis Medi. Trafodwyd cysylltiadau'r DU a'r UE yn ystod llywyddiaeth Cyprus o Gyngor yr Undeb Ewropeaidd, a bwriad y DU i barhau i agosáu at yr UE. 

Cysylltiadau rhwng Cymru a’r UE

Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y berthynas rhwng Cymru a'r UE. 

  • Ym mis Mehefin, cafodd darn barn ei gyhoeddi ddeng mlynedd ers refferendwm Brexit gan y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS, ar Wales Online. Fe’i disgrifiodd fel y weithred fwyaf o hunan-ddifrod economaidd mewn hanes modern.
  • Anerchodd y Prif Weinidog lysgenhadon yr UE i'r DU ym mis Mehefin, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru yn "benderfynol o gymryd camau ystyrlon i gryfhau cysylltiadau diwylliannol ac economaidd â'n cymdogion Ewropeaidd". Ym mis Medi, dechreuodd Jukka Salovaara ei ddyletswyddau fel Llysgennad yr UE i'r DU, gan gymryd lle Pedro Serrano.
  • Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Senedd ddatganiad barn, a gyflwynwyd gan Joshua Kim AS, ddeng mlynedd ers i Gymru bleidleisio i ymadael â’r UE.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a pholisi sy'n ymwneud â chysylltiadau Cymru ac Iwerddon.

Datblygiadau o ledled y DU

Mae'r adran hon yn tynnu sylw at ddatblygiadau gan Lywodraethau a seneddau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn perthynas ag Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliadau’r pwyllgor.

Y DU

  • Mae'r tabl a ganlyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliadau Senedd y DU sy'n ymwneud ag Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd:

Pwyllgor

Teitl yr ymchwiliad

Y diweddaraf

Pwyllgor Busnes a Masnach Tŷ’r Cyffredin

Perthynas y DU a'r UE ddegawd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mehefin (diweddariad ar adroddiad a gyhoeddwyd yn 2025).

Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin

Teithio diwylliannol yn yr UE

Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mehefin.

Pwyllgor Materion Tramor Tŷ’r Cyffredin

Ailosodiad y DU a’r UE: ailadeiladu partneriaeth strategol mewn cyfnodau ansicr

Y Pwyllgor yn gwneud sylw ar ymateb Llywodraeth y DU

Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi

Cydweddu deinamig

Mae'r ymchwiliad yn ailddechrau casglu tystiolaeth ym mis Medi.

 

Yr Alban

Masnach

Masnach Cymru

Mae'r adran hon yn tynnu sylw at y diweddaraf ar bolisi a gweithgarwch masnach Llywodraeth Cymru.

  • Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r ffigurau diweddaraf ar fuddsoddiad uniongyrchol tramor ym mis Mehefin. Mae ffigurau ar gyfer 2025-26 yn dangos bod Cymru wedi denu 75 o brosiectau buddsoddi tramor a chreu dros 1,500 o swyddi. Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price AS, ei bod yn galonogol gweld Cymru yn mynd yn groes i’r duedd fel yr unig ran o’r DU i weld cynnydd mewn prosiectau buddsoddi mewnol. Yn ôl y ffigurau diweddaraf rhwng 2024 a 2025 a 2025 i 2026, gostyngodd nifer y prosiectau buddsoddiad uniongyrchol tramor a laniodd yn y DU 25.8%. Cynyddodd nifer y prosiectau yng Nghymru o 65 i 75 yn yr un cyfnod.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i fynychu digwyddiadau allforio tramor drwy gydol y flwyddyn. Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau sydd i ddod ar gael. Ym mis Hydref bydd MRO Europe yn Amsterdam, sy'n canolbwyntio ar awyrenneg, ac ADIPEC yn Abu Dhabi, sy'n canolbwyntio ar ynni ac ynni adnewyddadwy.

Trafodaethau a pholisi masnach y DU

Mae'r tabl isod yn dangos statws trafodaethau masnach parhaus y DU:


Gwlad

Y diweddaraf

Ymateb Llywodraeth Cymru

Twrci

Pumed rownd o drafodaethau:  15 – 23 Mehefin 2026 

Dim datganiad gan Lywodraeth Cymru

Yr Ynys Las

Ailddechreuodd trafodaethau masnach: Hydref 2025

Dim datganiad gan Lywodraeth Cymru

Israel

Sgyrsiau masnach wedi'u hatal: Mai 2025

Datganiad gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Gorffennaf 2022)

Datblygiadau o ledled y DU

Mae'r adran hon yn tynnu sylw at ddatblygiadau gan lywodraethau a seneddau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn perthynas â masnach. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliadau’r pwyllgor.

Y DU

  • Daeth trafodaethau masnach Llywodraeth y DU â Chyngor Cydweithrediad y Gwlff i ben gyda chrynodeb o'r cytundeb masnach wedi'i gyhoeddi ym mis Mehefin. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb, gan ddweud mai “gwerth y nwyddau a fasnachwyd rhwng y gwledydd sy'n aelodau o'r GCC a Chymru oedd £1.9bn yn 2025”.
  • Ym mis Mehefin, gwnaeth Llywodraeth y DU sylwadau ar benderfyniad y Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel i ddechrau trafodaethau paratoadol ar ymuno ag Ynysoedd Philippines. Dywedodd fod y DU wedi bod yn gefnogwr cyson o gais Ynysoedd Philippines i ymuno â Chytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Bartneriaeth Technoleg Frontier rhwng y DU a Japan a’r Datganiad ar y Cyd ar Gydweithrediad Diogelwch Economaidd ym mis Mehefin. Mae'r olaf yn amlinellu aliniad agosach mewn meysydd fel masnach a buddsoddi, cadwyni cyflenwi, a'r system fasnachu ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno ar gytundeb masnach rydd gyda'r Swistir ym mis Gorffennaf, ochr yn ochr â chytundeb ar wahân ar ddefnyddio gatiau electronig y Swistir. Mae'r cytundeb masnach rydd yn canolbwyntio ar wasanaethau ond mae'n cynnwys rhai darpariaethau ar gyfer masnach mewn nwyddau, gan gynnwys cyfradd o 0% o fewn cwota Sefydliad Masnach y Byd y Swistir ar gyfer cig defaid. Ni chyhoeddwyd datganiad gan Lywodraeth Cymru, ond ysgrifennodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni at Bwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol.
  • O 1 Gorffennaf ymlaen, daeth mesurau dur newydd Llywodraeth y DU i rym. Mae'n cyfyngu ar fewnforion dur di-dariff ac yn lleihau cyfrolau cwota cyffredinol 51% o'i gymharu â'r mesur diogelu dur blaenorol. Bydd unrhyw fewnforion uwchlaw'r lefelau hyn yn wynebu tariff o 50%.
  • Lansiodd y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu y Rhaglen Rhwydwaith Byd-eang ym mis Awst. Nod y rhaglen yw rhoi mynediad i fusnesau’r DU at arbenigedd diplomyddol Prydeinig i gefnogi cyfleoedd masnach ryngwladol.
  • Mae'r tabl a ganlyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliadau Senedd y DU sy'n ymwneud â masnach ryngwladol:

 

Pwyllgor

Teitl yr ymchwiliad

Y diweddaraf

Y Pwyllgor Materion Cymreig

Hyrwyddo Cymru ar gyfer Buddsoddi Mewnol

Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mai

Y Pwyllgor Trafnidiaeth

Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Porthladdoedd

Y Pwyllgor yn ymateb i ymateb Llywodraeth y DU

Y Pwyllgor Busnes a Masnach

Y berthynas economaidd rhwng y DU a'r UDA: 250 mlynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Gorffennaf

Y Pwyllgor Materion Cymreig

Rôl Cymru wrth amddiffyn y DU

Lansiwyd yr ymchwiliad ym mis Gorffennaf

Yr Alban

  • Ym mis Mehefin, gwnaeth Llywodraeth yr Alban sylwadau ar ystadegau gan EY Scotland ar fuddsoddiad uniongyrchol tramor. Dywedodd yr adroddiad fod llifau buddsoddiad uniongyrchol tramor y DU i’r Alban wedi gwanhau yn 2025, gyda niferoedd ei brosiectau’n gostwng 20%. Fodd bynnag, yr Alban oedd y rhanbarth neu’r weinyddiaeth ddatganoledig fwyaf deniadol yn y DU ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol tramor y tu allan i Lundain.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei Chynllun Allforio i’r UDA ym mis Mehefin. Mae hyn yn rhan o'i chynllun allforio chwe phwynt, a gyhoeddwyd yn ei rhaglen lywodraeth ym mis Mai.
  • Ym mis Gorffennaf, croesawodd y Prif Weinidog, John Swinney AS, y codiad o dariffau UDA ar wisgi yr Alban, a chreu cyfundrefn tariffau 'sero am sero'. Cyhoeddwyd yr eithriad gan yr Arlywydd Trump yn dilyn Ymweliad Gwladwriaethol y Brenin ag UDA ym mis Ebrill. Mae'n dileu tariffau ar fewnforion ac allforion wisgi rhwng y DU a'r UDA.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei Hadroddiad Mewnwelediad Marchnad Strategol yr Alban ac India ym mis Gorffennaf. Dywedodd yr adroddiad y gallai'r bartneriaeth fasnachu fod werth mwy na £3 biliwn y flwyddyn erbyn 2030. Mae'r adroddiad yn ystyried y cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr rhwng y DU ac India. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dadansoddiad ar y cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr ym mis Chwefror 2026.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban adroddiad masnach mewn gwasanaethau ym mis Awst. Nododd yr adroddiad fod gwerth enwol cyfanswm allforion gwasanaethau tua £16 biliwn yn 2023.

Gogledd Iwerddon

  • Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi tynnu sylw at gyhoeddi dau ddarn o waith ymchwil annibynnol ym mis Gorffennaf, yn edrych ar effaith newidiadau diweddar ym mholisi masnach yr UDA ar Ogledd Iwerddon. Mae'n nodi er y gallai mynediad marchnad ddeuol unigryw Gogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor ddarparu rhywfaint o wydnwch a chyfleoedd sy'n deillio o newidiadau mewn patrymau masnach fyd-eang, mae'n annhebygol y bydd y manteision hyn yn gorbwyso costau economaidd ehangach rhwystrau masnach cynyddol.
  • Mae Gweinidog Economi Gogledd Iwerddon, Dr Caoimhe Archibald wedi beirniadu mesurau masnach dur Llywodraeth y DU, gan ddweud nad ydynt yn gwasanaethu buddiannau busnesau yng Ngogledd Iwerddon.