Coronafeirws: llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 08/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 13 Gorffennaf 2020.

Mae'r erthygl hon yn amlinellu'r adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, diwygiadau i'r rheoliadau, a beth yw’r cyfyngiadau presennol sydd ar waith yng Nghymru.

Rheoliadau Diogelu Iechyd

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ar 26 Mawrth 2020. Cafodd y rhain eu dirymu a’u disodli gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (“y rheoliadau”) ym mis Gorffennaf 2020.

Bydd y rheoliadau yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021. Fodd bynnag, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r cyfyngiadau bob 21 diwrnod i benderfynu a ydynt yn dal yn angenrheidiol ac yn gymesur i'r hyn y mae'r Gweinidogion am ei gyflawni. Gall y cyfyngiadau orffen cyn mis Ionawr 2021 os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu'r darpariaethau sy'n gosod y cyfyngiadau.

Adolygiad

Ar 3 Gorffennaf cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai'r gofyniad i aros yn lleol yn cael ei godi o 6 Gorffennaf ymlaen. Yn dilyn y pumed adolygiad o’r rheoliadau ar 10 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd “llety gwyliau hunangynhwysol heb gyfleusterau a rennir yn ailagor o ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf ymlaen”. Lluniwyd y cynllun a ganlyn ar gyfer ailagor ymhellach:

  • O 13 Gorffennaf, gall salonau trin gwallt a barbwyr ailagor ynghyd â thafarndai, bariau, bwytai a chaffis awyr agored; rhai atyniadau dan do i ymwelwyr a mannau addoli.
  • O 20 Gorffennaf, bydd campfeydd awyr agored a meysydd chwarae yn gallu agor.
  • O 25 Gorffennaf, bydd pob math o lety i dwristiaid sy'n weddill, megis meysydd pebyll, yn gallu agor.
  • O 27 Gorffennaf, bydd salonau ewinedd a harddwch yn ailagor ynghyd â sinemâu dan do, amgueddfeydd, campfeydd dan do, canolfannau hamdden a'r farchnad dai yn llawn.

Bydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gynnal erbyn 30 Gorffennaf 2020. Nododd Prif Weinidog Cymru y bydd yr adolygiad hwn yn edrych ar ailagor lletygarwch dan do.

Cadw pellter cymdeithasol

Mae cadw pellter cymdeithasol yn cynnwys nifer o fesurau sy'n lleihau cyswllt cymdeithasol â phobl i helpu i leihau trosglwyddiad y coronafeirws Er enghraifft:

  • gweithio gartref;
  • osgoi trafnidiaeth gyhoeddus;
  • cadw pellter o 2 fetr rhyngoch chi a phobl eraill.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori’r rhai sydd mewn mwy o berygl o gael eu heintio gan y coronafeirws i fod yn arbennig o ofalus wrth ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd dros 70 oed, y rhai sydd ag asthma neu ddiabetes, a'r rhai sy'n feichiog. Mae'r grŵp hwn o bobl yn wahanol i'r rhai y cynghorir iddynt warchod eu hunain. Mae ein blog yn amlinellu’r canllawiau ar gyfer y rhai sy’n gwarchod eu hunain.

Mae’r rheoliadau yn cynnwys gofyniad na chaiff pobl adael, nac aros i ffwrdd o’r man ble maent yn byw at ddibenion gwaith osyw’n rhesymol ymarferol iddynt weithio gartref.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio yn annog pobl i “feddwl yn ofalus am yr amseroedd y byddwch yn teithio, a'r llwybrau a'r dulliau y byddwch yn eu defnyddio” os oes angen. Mae'n cynghori pobl i gerdded neu feicio os gallant.

Aelwydydd estynedig

Mae’r rheoliadau yn darparu ar gyfer creu aelwydydd estynedig (y cyfeirir atynt weithiau fel 'swigen'). Maent yn dweud os yw dwy aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig, dylai unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau at aelwyd gael ei ddehongli fel petai’n cynnwys y ddwy aelwyd. Mewn ffordd, bydd y bobl yn y ddwy aelwyd yn dod yn aelodau o un aelwyd unigol, ac yn mwynhau’r un rhyddid cyfreithlon – byddant yn cael cwrdd dan do ac aros yng nghartrefi ei gilydd.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud “does dim cyfyngiad ar y nifer o bobl sy’n cael bod yn rhan o aelwyd estynedig”. Mae hefyd yn nodi rhai 'rheolau allweddol', gan gynnwys y canlynol:

  • Ni chaiff unrhyw berson fod yn rhan o fwy nag un aelwyd estynedig, ac eithrio plant sy’n byw mewn dau gartref (er enghraifft, oherwydd bod eu rhieni wedi gwahanu a bod cytundeb gwarchodaeth ar y cyd);
  • Mae’n rhaid i bob un o’r oedolion sy’n byw yn y ddwy aelwyd gytuno i ymuno â’r un aelwyd estynedig; ac
  • Ar ôl cytuno bod y ddwy aelwyd wedi ymuno fel aelwyd estynedig, ni ellir newid y trefniant hwn.

Gall gofalwyr (gofalwyr di-dâl neu weithwyr gofal) barhau i ddarparu gofal ac nid oes angen ystyried eu bod yn aelod o'r aelwyd estynedig. Gall y rhai sy'n gwarchod eu hunain hefyd fod yn rhan o aelwyd estynedig.

Gall aelwyd yng Nghymru ymuno ag aelwyd yn Lloegr, fodd bynnag, mae'r canllawiau yn dweud bod yn rhaid i’r trefniadau gydymffurfio â’r rheolau yn y ddwy wlad.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru "os bydd un aelod o aelwyd estynedig yn cael symptomau coronafeirws, bydd raid i’r aelwyd gyfan hunanynysu - nid dim ond y bobl sy’n byw gyda’i gilydd”.

Ymgynulliadau

Mae’r rheoliadau yn dweud na chaiff neb, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn ymgynulliad y tu allan ac eithrio pan fo’r ymgynnulliad yn cynnwys aelodau o ddim mwy na dwy aelwyd, ei ofalwr, neu berson y maent yn gofalu amdano. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes cyfyngiad ar nifer y bobl sy’n cael cwrdd yn yr awyr agored, cyn belled â bod hynny’n ddwy aelwyd yn unig.

Mae’r rheoliadau yn dweud hefyd na chaiff neb ymgynull dan do, heb esgus rhesymol, ac eithrio gydag aelodau o’i aelwyd, ei ofalwr, neu rywun y maent yn gofalu amdanynt.

Mae esgus rhesymol dros ymgynulliadau dan do ac yn yr awyr agored yn cynnwys y canlynol:

  • ceisio cymorth meddygol neu ddarparu gofal a chymorth i berson sy'n agored i niwed;
  • mynd i angladd os estynnir gwahoddiad i chi;
  • mynd i briodas neu ffurfiad partneriaeth sifil os estynnir gwahoddiad i chi;
  • bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
  • cyrchu gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys gofal plant neu wasanaethau addysgol;
  • symud tŷ; a
  • gadael eich tŷ i osgoi anaf, salwch neu risg o niwed oherwydd cam-drin domestig, neu i ddefnyddio gwasanaethau cymorth cam-drin domestig.

Ymarfer corff

Nid oes cyfyngiadau yn y rheoliadau o ran y math o ymarfer corff y gellir ei wneud, ond mae wedi’i gyfyngu gan rai o’r cyfyngiadau eraill. Mae hyn yn cynnwys cau canolfannau hamdden dan do, campfeydd a phyllau nofio. Gall cyfleusterau chwaraeon a hamdden awyr agored agor, gan gynnwys cyrtiau tenis, lawntiau bowlio, meysydd gyrru golff a rhwydi criced.

Mae'r rheoliadau'n cynnwys eithriad i'r cyfyngiadau ar gynulliadau ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu gyda hyd at 30 o bobl. Rhaid i'r gweithgaredd gael ei gynnal yn yr awyr agored a rhaid iddo gael ei drefnu gan fusnes, corff cyhoeddus neu elusen, clwb neu sefydliad gwleidyddol neu gorff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon neu weithgaredd arall.

Gorfodi

Mae gan gwnstabliaid yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol bwerau i gyfarwyddo unrhyw un y canfyddir ei fod yn torri'r cyfyngiadau i ddychwelyd i'w gartref. Gallant hefyd wasgaru pobl sy’n ymgynnull a mynd â phobl yn ôl i’w cartrefi, a “defnyddio grym rhesymol” i wneud hynny.

Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn drosedd i dorri’r cyfyngiadau hyn, y gellir ei chosbi drwy ddirwy (hysbysiad cosb benodedig). Y ddirwy yw £60, ond £30 sy’n daladwy os caiff ei thalu o fewn 14 diwrnod. Os yw person eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig o dan y rheoliadau hyn, bydd swm y ddirwy yn cynyddu fesul pob hysbysiad a roddir. Y swm uchaf y gellir ei godi ar gyfer y ddirwy yw £1,920 ar gyfer y chweched hysbysiad ac unrhyw hysbysiadau cosb benodedig dilynol.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.